Er i Dyddiol Cyf. gyhoeddi yn fuan iawn, wedi cyhoeddiad Rhodri Glyn Thomas mae dim ond £200,000 ychwanegol byddai ar gael i ddatblygu’r wasg Gymraeg, fod y cynlluniau am bapur dyddiol wedi eu rhoi o’r neilltu fe wnaeth tîm Dyddiol Cyf roi ‘plan b’ at ei gilydd a gwneud cas am yr arian y gwaneth Golwg ennill yn y diwedd. Roeddw ni wedi bod yn ceisio dyfalu beth oedd ‘plan b’ ers tro – pan oeddw ni yn gweithio iddyn nhw nid oedd neb, wrth reswm, yn trafod ‘plan b’ oherwydd nid oeddem ni’n meddwl y byddai Gweinidog, o Blaid Cymru o phob plaid, yn torri ei addewid o ddarparu moddion ariannol i sefydlu papur dyddiol.

Ar eu blog ddoe fe ddatgelodd Dyddiol Cyf beth oedd eu ‘plan b’ aflwyddiannus, dywedant:

Rydym yn naturiol yn siomedig bod ein cynllun ni wedi’i wrthod – cynllun cyffrous gydag argraffiad wythnosol o 25,000 a gwefan gyda newyddion dyddiol.

O ran pam y bu eu cais yn aflwyddianus:

Rydym yn deall bod y panel wedi bod yn gefnogol iawn i amcanion ein cais ond yn gweld bod gormod o risg i arian cyhoeddus pe na fuaswn yn cyrraedd y ffigurau hysbysebu rhagdybiedig. Does yr un fenter heb ei risg heblaw ei fod yn gynllun sy’n gwbl ddibynnol ar grant, ac yr oedd ein hasesiad ni o’r risg yn wahanol i asesiad y panel. Roedd ein hamcangyfrifon o incwm hysbysebu wedi’u paratoi gan arbenigwr allanol a hefyd aelod o’r Bwrdd oedd – y naill a’r llall – yn brofiadol iawn yn y maes fel y gwelwch o’r naratif amgaeedig.

Dwi ddim cweit yn sicr o’r ffeithiau ond mae’r awgrym nesaf ar eu blog yn awgrymu mae papur am-ddim byddai’r papur wythnosol yma, byddai hynny yn sicr yn esbonio sut y bydde nhw yn cyrraedd cylchrediad o 25,000 sydd yn aruthrol fwy nag unrhyw gylchrediad Cymraeg ar hyn o bryd:

Mawr obeithiwn y bydd cynllun Golwg, pan ddaw’r manylion yn glir, yn cynnig y cam sylweddol ymlaen i’r wasg Gymraeg y byddai papur dyddiol neu wythnosolyn-am-ddim wedi’i wneud.

Hir oes i’r BYD.

Please follow and like us: