Ddydd Gwener diwethaf, ie, Friday the 13th, am 23:21:30 GMT fe fu geeks a nerdz technolegol dros y byd i gyd yn dathlu’r 1234567890fed eiliad ar eu clociau UNIX. Mae’r clociau UNIX wedi bod yn cyfri pob eiliad ers hanner nos 1 Ionawr 1970 ac maen cael ei gyfrifo a’i storio, a hynny mewn tipyn o bob dim o’n cyfrifiaduron personnol ni i systemau air traffic control, mewn fformat 32-bit.

Ond pam fod hyn yn bwysig medde chi? Wel, oherwydd gan mai system 32-bit sydd tu ôl i glociau UNIX mi fydda nhw’n rhedeg allan o le erbyn y flwyddyn 2038. Oni bai fod rhywbeth yn cael ei wneud mi fydd y cof yn gorlwytho ac fe welir rhywbeth tebyg i’r hyn y byddwn ni’n cofio fel y ‘millenium bug’.

The Unix Millennium Bus as some call it, will be especially prevalent in embedded systems… some of which are employed for mission critical environment like the space shuttle, air traffic control or nuclear power stations.

Bid a fo am y pwerdai niwclear, mi fydda i’n 53 yn 2038, a’r cwestiwn pwysig yw hyn: a fydd y blog yma dal i fynd? UNIX fydd yn rhaid ateb.

Please follow and like us: