Mwy o bigion maes-e…

Macsen (maes-e): “Ond onid wyt ti’n dal i gredu bod y byd wedi ei greu gan Dduw mewn saith diwrnod ychydig filoedd o flynyddoedd yn ôl? Mae hynny i fi hefyd yn rwtsh. Croeso i ti fy nghywiro os nad wyt ti!”

I mi nid y cwestiwn creiddiol yw ‘wyt ti’n credu ddaru Duw greu y Byd mewn Saith diwrnod?’ Mae yna sawl cwestiwn tipyn pwysicach sydd angen eu hystyried yn gyntaf cyn dod at gwestiwn y cread. A’r ddau brif gwestiwn sydd angen ateb iddyn nhw cyn dod i drafod y cread ydy’r ddau gwestiwn yma: wyt ti’n credu fod Duw yn holl-alluog a phwerus? Fy ateb i yw ydw. Ac yn ail: wyt ti’n credu mewn gwyrthiau? Fy ateb i yw ydw. Os yw eich atebion i’r ddau gwestiwn yna yn myn tu hwnt gwyddoniaeth, hynny yw ateb yn bositif iddynt, yna rydych chi mynd i ddod at gwestiwn creadigaeth o safbwynt unigryw a gwahanol. Felly o fynd nol at y cwestiwn gwreiddiol: ‘wyt ti’n credu ddaru Duw greu y Byd mewn saith diwrnod?’ Yn hytrach nag ateb ‘ydw‘ fy ateb i ar sail fy nghred mewn Duw holl alluog a bodolaeth gwyrthiau ydy ‘pam lai?‘ sydd, credaf, yn yn wahanol i ‘ydw‘ plaen oherwydd mod i wedi dod at yr ateb yn resymegol ac nid o ffydd ddall fel petae.

Ond beth am yr holl dystiolaeth sy’n profi fod y byd yn filiynau ar filiynau o flynyddoedd oed, y ffosils, deinasoriaid ayyb… Fy marn bersonol i yw ei bod hi’n ddigon posib, gan ei fod yn holl-alluog, fod Duw wedi creu y Byd eisioes mewn cyflwr o aeddfedrwydd yn yr un modd a bu iddo greu Adda ac Efa yn ddau oedolyn ac nid yn ddau faban. Y lle dwi’n pellhau fy hun o safbwynt Creationists America a mudiadau fel Answers in Genesis yw mod i’n cyfaddef nad ydy fy nehongliad i yn un gwyddonol tra fod Answers in Genesis yn ceisio defnyddio gwyddoniaeth i brofi gweithred wyrthiol – they miss the whole point yn fy marn i. Mewn ffordd dwi’n gyndyn i gyfrannu i drafodaethau ar greadigaeth oherwydd dwi’n greiddiol, fel nodesi uchod, fod yn rhaid i bobl holi ac ateb cwestiynau eraill a rheiny yn rai llawer mwy creiddiol am fodolaeth Duw cyn dod at y cwestiwn hwn.

Please follow and like us: