Dros y flwyddyn diwethaf yn Caersalem rydym wedi bod yn gweithio trwy Llythyr 1af Paul at y Corinthiaid. Penwythnos yma rydym ni wedi dod at ddiwedd y llythyr – at y crecendo ac at y prif beth mae Paul eisiau’r Corinthiaid gymryd sylw ohono fe. Gan fod y neges yma yn bwysig, ond hefyd yn hawdd i’w gam-ddeall, dwi wedi penderfynnu rhoi cynodeb o’r neges ar y blog mewn du a gwyn.
Ym mhennod 15 mae Paul yn dweud ei fod eisiau atgoffa’r Corinthiaid o’r “newyddion da” wnaeth e rannu gyda nhw. Mae’n dweud mae’r “newyddion da” yma yw “sylfaen eu ffydd” ac mai dyma sy’n eu “hachub” nhw. Ac mae’n gofyn y cwestiwn miniog ond pwysig:
“Dw i’n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn,
dim ‛credu‛ heb wir feddwl beth roeddech chi’n ei wneud.” Ad. 2
Yn ein diwylliant Cymraeg mae Gwenallt yn enwog am aralleirio her Paul:
“Gwae i ni wybod y geiriau heb adnabod y Gair.”
Ac fel bod dim camddealltwriaeth mae Paul yn mynd i esbonio’n reit fanwl beth yn union ydy’r “newyddion da” yma. Mae’r grynodeb yn dechrau gyda’r cymal:
“Y prif beth wnes i ei rannu gyda chi oedd beth dderbyniais i, sef: bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni, fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud.” Ad. 3
Mae’n bwysig sylwi fod Paul yn dechrau gyda’r diagnosis – yn sôn am bechod – y broblem yna sydd yn y byd ac yn ein calonnau ni. Ac mae’n bwysig sylwi ei fod yn dweud fod y Meseia – Iesu – wedi marw dros ein pechodau. Mae hynny’n golygu fod maddeuant ar gael ac fod perthynas gyda Duw yn bosib.
Ond dyma dwi am gael ni i weld: dim ond dechrau y “newyddion da” yw hyn i Paul.
Wrth geisio crynhoi beth yw’r “newyddion da” mae’r eglwys wedi tueddu i ddechrau a gorffen esbonio’r “newyddion da” drwy ddweud mai swm a sylwedd y newyddion da yw fod ‘Iesu wedi marw dros ein pechodau.’ Ddim mod i eisiau gwneud yn fach o waith Iesu ar y Groes – ddim o gwbl. Ond mae gymaint mwy ‘na hynny i’r “newyddion da” yn does? Yn dilyn y Groes fe ddaw’r atgyfodiad! A dwi’n meddwl mae wrth feddwl am yr atgyfodiad y down ni at graidd beth yw’r “newyddion da” ym meddwl Paul.
Nid dim ond atgyfodiad Iesu mae Paul yn siarad amdano, ond atgyfodiad pawb sydd wedi credu yn Iesu. A dyma yw craidd y “newyddion da” yn ôl Paul. Yn dilyn buddugoliaeth Iesu ar y Groes a maddeuant pechodau fe atgyfododd Iesu. Ac mae atgyfodiad Iesu yn golygu fod atgyfodiad hefyd mynd i ddod i bawb sy’n credu yn Iesu. Dyma yw’r “newyddion da”.
Y newyddion da sydd efallai wedi ei golli neu ei gam-ddeall gan Gristnogion, yn llawn gymaint a pobl sydd ddim yn Gristnogion, mewn degawdau diweddar. Mae’n debyg fod Paul yn mynd i drafferth yn y bennod dan sylw i esbonio’n fanwl wrth y Corinthiaid beth yw’r atgyfodiad gan eu bod, yn debyg i lawer o bobl heddiw, wedi cam-ddeall yr atgyfodiad. Mae yna duedd i feddwl am y byd yma fel byd corfforol, ond wedyn meddwl am fywyd ar ôl marwolaeth fel byd cwbl ysbrydol.
Mae Cristnogion cyn waethed â neb am gredu yr hollt yma rhwng y corfforol a’r ysbrydol wrth siarad yn sentimental am fywyd tu hwnt i’r bedd.
Mae pob Cristion yn credu mewn “bywyd tu hwnt i’r bedd” … ond os ydych chi’n holi’n fanylach ffeindiwch chi fod llawer o Gristnogion yn meddwl mae rhyw fywyd ysbrydol yn unig yw’r “bywyd tu hwnt i’r bedd”. Byddwch chi’n clywed Cristnogion, cymaint â neb arall, yn dweud pethau fel bod pobl sydd wedi marw nawr yn byw yn y cymylau gyda’r angylion fel ysbrydion yn edrych i lawr arnom ni.
Ond beth mae’r Beibl yn esbonio fan hyn, fel mewn sawl man arall yw fod Iesu, ar ôl iddo farw, heb ddod yn ôl fel ysbryd. Ond fe wnaeth e atgyfodi yn llythrennol. Roedd e’n wahanol – yn sicr – ond roedd e wedi atgyfodi yn gorfforol. Ac mae’r Beibl yn dysgu’n glir fod yr un peth mynd i ddigwydd i bawb sydd wedi credu yn Iesu.
Bydd pawb sy’n credu hefyd yn atgyfodi yn llythrennol. Nid symud o gorff corfforol i gorff ysbrydol byddwn ni. Ond atgyfodi mewn corff corfforol newydd ond y tro hwn corff fydd yn ddi-bechod, heb salwch, heb boen a ddim yn gorfod wynebu marwolaeth.
Ond trwy’r rhan fwyaf o’r ugeinfed ganrif mae’r eglwys, gan gynnwys llawer o Gristnogion “efengylaidd”, wedi dod dan ddylanwad Platoniaeth. Syniadau oedd yn dysgu fod y byd hwn yn fyd corfforol sydd wedi ei lygru gan bechod ac mai pennaf bwrpas y ffydd Gristnogol yw credu yn Iesu er mwyn dianc i fywyd tragwyddol ysbrydol.
Ond mae’r Beibl mewn gwirionedd yn dysgu rhywbeth gwahanol … a gwell!
Mae atgyfodiad Iesu yn golygu y bydd pawb sy’n credu yn ei enw yn atgyfodi hefyd. Ac mae’r Beibl yn dweud llawer mwy am Iesu yn dod i lawr o’r nefoedd nac amdanom ni yn mynd i fyny i’r nefoedd. A pan ddaw Iesu yn ôl bydd yn rhoi popeth yn iawn a chreu daear a nefoedd newydd. Un o fy hoff rannau i o’r Beibl yw’r sneek peak rydym ni’n cael yn Datguddiad 21 o sut fydd hi ar ôl i Iesu ddod yn ôl
Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a’r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy.
Dyma fi’n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi’i gwisgo’n hardd ar gyfer ei phriodas.
Wedyn clywais lais o’r orsedd yn cyhoeddi’n glir,
“Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw’n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw.
Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen,
dim galaru,
dim wylo,
dim poen.
Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.”Dyma’r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud,
“Edrychwch! Dw i’n gwneud popeth yn newydd!”
Dyma yw’r “newyddion da”!
Ydy mae Iesu wedi ein achub ar y Groes o bechod ac effeithiau pechod. Ond trwy ei atgyfodiad mae wedi ein achub ni i fywyd newydd mewn daear a nefoedd newydd fydd heb alaru, wylo na phoen. Mae Iesu wedi atgyfodi yn barod fel rhyw fath o sneek peak a taster o beth fydd yn ein disgwyl ni.
“Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi’i godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy’r cyntaf o lawer sy’n mynd i gael eu codi.” Ad. 20
I chi sy’n garddio mae’r ddelwedd yna’n gwneud synnwyr. Mae rhyw gyffro mae’n siŵr o flasu’r mefus cyntaf sy’n tyfu yn eich gardd, ac yna y disgwyl ymlaen i flasu’r gweddill yn ystod yr haf. I ni sydd ddim yn garddio gadewch i fi foderneiddio’r ddelwedd. Rai wythnosau yn ôl yn yr ŵyl fwyd roeddem ni’n mynd o amgylch y stondinau i flasu tasters o’r gwahanol fwydydd. Digon o flas i godi archwaeth ynoch chi am fwy. Ar ôl blasu’r taster, ac yna prynu’r cynnyrch, roedd yna ddisgwyl ymlaen yn eiddgar i gael cyrraedd adre i gael mwynhau y wledd. Ac mae hynny yn ddarlun da i ni o’r “newyddion da” Cristnogol. Mae Iesu wedi atgyfodi fel rhagflas, fel taster, i ni o beth sy’n disgwyl pawb sy’n credu yn ei enw.
Dwi’n clywed lot o Gristnogion yn dweud pethau fel: “Heb Iesu, wn i ddim sut fasw ni wedi mynd trwy’r flwyddyn ddiwethaf yma.” Mae’r Cristion, fel pawb arall, dal i brofi dioddefaint yn y byd yma. Ond gan fod Iesu wedi atgyfodi mae’n cerdded gyda ni a rhoi nerth i ni trwy y dioddefaint. Ac mae gyda ni’r addewid, wrth gwrs, fod y dioddefaint yma rhyw ddydd mynd i ddod i ben.
Mewn maes arall, meddyliwch am yr anghyfiawnder yn y byd. Yn y byd toredig yma mi fydd yna wastad anghyfiawnder. Ond fel pobl gyda grym yr atgyfodiad yn byw ynom ni gallwn ni fod yn bobl sy’n sefyll dros gyfiawnder a rhoi blas o sut ddylai hi fod i bobl heddiw. Grym yr atgyfodiad oedd ar dân ym mywyd rhywun fel Martin Luther King Jr.
Ac mewn byd toredig, mae’r newyddion da yma fod Iesu wedi atgyfodi ac fod grym yr atgyfodiad eisoes yn torri trwyddo, wir yn “newyddion da”. Mae Iesu yn cynnig ein achub ni o faich euogrwydd a pechod. Ac mae ein achub ni i fywyd newydd … rydym ni’n cael rhagflas ohono fe yng nghanol y byd yma, ond y byddw ni’n ei brofi yn ei lawnder pan fyddw ni hefyd yn cael ein hatgyfodi.
Dwi’n cofio ein cyfaill Andy Ollerton yn dweud am y gobaith Cristnogol yn wyneb realiti y byd yma.
“If your a Christian this is as bad as it gets,
of your not a Christian this is as good as it gets”
Felly gai orffen drwy droi yn ôl at yr her mae Paul yn gosod i’r Corinthiaid.
“Dw i’n cymryd eich bod chi wedi credu go iawn,
dim ‛credu‛ heb wir feddwl beth roeddech chi’n ei wneud.” Ad. 2
Hynny yw, mae Iesu yn cyflwyno’r “newyddion da” i ni fel rhodd hael ac am-ddim. Ond fel pob rhodd a chynnig – mae’n rhaid ei dderbyn er mwyn ei fwynhau.