Yn achlysurol dwi’n cael fy ngwahodd i arwain sesiynau i eglwysi eraill a gwahanol fudiadau ac enwadau ynglŷn â chenhadaeth a thwf eglwysig oherwydd ein bod wedi gweld ychydig (pwyslais ar ychydig!) o dwf yn yr eglwys yng Nghaernarfon. 

Yr hyn fydda i’n gweld yn aml yw fod llawer o bobl eisiau gwybod beth yw’r gyfrinach? Beth yw’r tric? Beth yw’r tool? Beth yw’r allwedd i ddatgloi stori debyg yn eu cyd-destun hwy? Beth yw’r “bwled arian” fel petai?

Mae’r agwedd yna o feddwl fod adfywiad a thwf yn rhywbeth y gallwch chi jest ei dynnu allan o het yn fy atgoffa ryw ychydig o stori Simon y Dewin yn Actau 8 lle mae Simon yn gweld y fendith sydd ar yr apostolion ac yn cynnig eu talu nhw am y gallu i wneud yr un peth.

“Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân,” meddai.

(Actau 8.19)

Ond nid felly mae’n gweithio, nid oes yna un ateb, nac un tool i gael ac yn sicr nid yw’n rhywbeth y gellid ei brynu fel y mae Pedr yn ei ateb: 

“Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw! Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn.”

(Actau 8.20-21)

Mae rhywun yn clywed llawer y dyddiau yma am strategaethau newydd i’r eglwys, a rhai enwadau yn buddsoddi arian mawr – miliynau – i mewn i’r mentrau newydd yma. Ac mae hyn i gyd yn iawn yn ei le ac i’w groesawu a’i gefnogi, ond gwae ni rhag syrthio i’r run fagl a Simon y Dewin a chredu fod bendith yn rhywbeth y gellid ei brynu gyda’n harian a’n buddsoddiadau. 

Mae nifer sylweddol o swyddi eglwysig newydd yn cael eu creu ond heb ei bod hi’n glir eto sut mae adnabod y rhaid sydd wedi eu galw i lenwi’r swyddi yma. Oherwydd os oes yna un peth y gallaf i ddweud am y weinidogaeth ar ôl bod ynddi am ddegawd yw fod rhaid i chi gael galwad, ac ar adegau yr unig beth sydd yn peri i chi ddyfalbarhau yw y teimlad o alwad. Nid swydd mohoni, ond galwad. 

Mae gyda ni un swydd yn lleol i ni sydd wedi cael eu hysbysebu ers amser ond neb a diddordeb ymgeisio amdani ac mae’n stori gyffredin mewn rhannau eraill o’r wlad. Tybed ydym ni’n mynd o’i chwmpas hi’r ffordd anghywir a bod angen adnabod pobl a galwad a chreu swyddi i’w cynnal nhw yn lle creu swyddi ac yna chwilio am bobl i’w llenwi? 

Mae unrhyw adfywiad o fewn yr eglwys yn gorfod dechrau gyda gweddi a gwaith ysbrydol wrth i ni holi yn gyntaf, fel unigolion ac fel eglwys, fel y mae Pedr yn herio Simon y Dewin i holi: a ydy ein perthynas gyda Duw yn iawn? Yr unig dric, os tric o gwbl, oedd gan y disgyblion cyntaf oedd dysgu gweddïo fel Iesu.

Please follow and like us: