Wythnos diwethaf fe es i’r ail gynhadledd wedi threfnu gan Cymru Gyfan. Y testun y tro hwn oedd trawsblannu a thrawsffurfio eglwysi. Ag eithrio’r fenter gyffrous yn Abertawe lle y mae eglwys newydd Gymraeg yn cael ei phlannu y mae’r syniad o drawsblannu a thrawsffurfio yn fwy perthnasol i sefyllfa y rhan fwyaf ohonom yn yr eglwysi Cymraeg ac felly gydag awch y teithiais i lawr i’r Drenewydd.

Prif siaradwr y diwrnod oedd Rob Jones, un o arweinwyr Bethlehem Church Life Centre yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont a’r Ogwr. Byddai Rob yn crynhoi ei weledigaeth i Gymru fel a ganlyn – “Trawsnewid Cymdeithas drwy Eglwysi Trawsffurfiedig”! Slogan digon slic yn wir ond beth a olyga hynny yn ymarferol iddo dywedwch? Yn un o’r sesiynau cawsom ychydig bach o hanes yr eglwys dros y blynyddoedd diwethaf. Teimlodd yr eglwys fod angen iddi ail-ddarganfod ei phwrpas ac i’r perwyl hwnnw fe drefnwyd cyfres o gyfarfodydd gweddi arbennig i ymbil ar yr Arglwydd i roi gweledigaeth newydd iddi. Adroddodd Rob, gyda dagrau yn ei lygaid, am rai o’r cyfarfodydd yma fyddai’n estyn i mewn i’r oriau bach lle byddai aelodau’r eglwys yn gweddïo ar Dduw am arweiniad ac gyda hyn yn gweld ewyllys yr Arglwydd iddynt yn dod yn glir.

Gwelodd Rob a gweddill yr eglwys mae’r hyn yr oedd Duw yn rhoi ar eu calonnau oedd fod angen i’r eglwys wasanaethu’r gymuned o’i hamgylch ac y byddai hynny yn arwain yn naturiol wedyn at weld pobl yn dangos diddordeb yng nghenhadaeth ysbrydol yr eglwys ac yn dod i ffydd bersonol yn Iesu Grist. Fe welodd yr eglwys fod angen dirfawr yn yr ardal am ganolfan hamdden a champfa ac felly fe wnaeth yr eglwys geisiadau am nawdd ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad i adeiladu ac yna rhedeg canolfan debyg. Drwy arweiniad a llaw amlwg yr Arglwydd ym mhethau bu’r cais yn llwyddiannus a bellach mae’r prosiect gwerth £1m wedi agor.

Y mae’n adeilad pwrpasol i’r eglwys ei hun i gychwyn ond mae’n adnodd i’r gymuned yn ogystal gan fod yna gyfleusterau campfa a chanolfan hamdden ynghyd a chaffi. Drwy gyfrwng y fenter yma y mae’r eglwys wedi llwyddo i bontio gyda’r gymdeithas ehangach mewn modd gellid ond wedi a breuddwydio yn ei gylch ynghynt. Yn ddigon diddorol roedd Rob yn nodi nad oedd pawb yr oedd yr eglwys yn ei gyflogi i weithio yn y ganolfan hamdden a’r caffi o’r rheidrwydd yn Gristnogion. Eu cred oedd y byddai’r bobl yma, ac y mae rhai wedi eisoes, yn dod i ymholi mwy am Iesu o dreulio amser yng nghwmni Cristnogion ac felly y bod cyflogi rhai nad ydynt yn Gristnogion yn genhadaeth ynddo ef ei hun!

Un o’r llinellau cofiadwy ddefnyddiodd Rob wrth ein cyfarch oedd “You must have a business head but a Kingdom heart” – a dyna grynhoi hanes trawsnewidiad yr eglwys. Mae angen i eglwysi sydd am drawsffurfio er mwyn cyrraedd ein cymunedau a’u gwasanaethu fod a pen busnes siarp ar un llaw ond gwae ni rhag anghofio ymgymryd a’r gwaith yn yr ysbryd cywir ar y naill law. Fel pob Cristion o Gymro fy ymateb cyntaf i gyflwyniad Rob oedd rhyw deimlad, waeth i mi gyfaddef, o eiddigedd. Fe dybiais ei fod ef, mwy na thebyg, yn gweithio mewn cyd-destun “mega-church” a chanddynt gannoedd o aelodau i gychwyn ac felly er mor ddifyr oedd ei gyflwyniad tybiais fod ei fan cychwyn ef yn bur wahanol i fan cychwyn y rhan fwyaf o bobl yn yr eglwysi Cymraeg. Ond roeddwn yn anghywir! Ar ddechrau’r fenter ffydd hon dim ond 80 o aelodau oedd ym Methlemem, Cefn Cribwr; ac wrth i’r eglwys fwrw mlaen a dilyn y weledigaeth fe ymadawodd yr “amheuwyr” ac fe syrthiodd yr aelodaeth i hanner cant yn unig.

A dyna yn wir yr her cefais i wrth adael. Nid hanes “mega-church” mawr cawsom gan Rob ond hanes eglwys o faint nid annhebyg i fy eglwysi i ym Mangor a llawer o eglwysi Cymraeg tebyg. Criw o hanner cant oedd gan Rob o’i amgylch wrth drawsffurfio’r eglwys er mwyn trawsffurfio cymdeithas ond roeddent yn hanner cant o bobl oedd wedi cydio yng ngweledigaeth yr Arglwydd. Pa drawsffurfio gwerth sôn amdano y gallwn ni yn yr eglwysi Cymraeg adrodd amdano? Cyhoeddi Caneuon Ffydd? Dyna i ni her a realiti check go-iawn.

Please follow and like us: