Dyma grynodeb byr o’r neges oedd wedi ei pharatoi ar gyfer y Sul hwn, ond na chafodd ei phregethu gan fod holl wasanaethau fy eglwysi wedi’u canslo oherwydd yr eira a’r rhew.

Dwi’n gobeithio bydd cyfle i’w bregethu’n llawn rywbryd eto yn nes ymlaen yn y tymor. Ond dyma, yn fras, galon yr hyn oedd gen i i’w rannu heddiw dan y teitl “Ble wyt ti?” (Genesis 3”9):

1. Gwahoddiad i ymuno â’r sgwrs dragwyddol

Wrth ddarllen y Beibl, dydyn ni ddim yn agor llyfr crefyddol na llawlyfr moesol. Rydyn ni’n ymuno â sgwrs dragwyddol rhwng Duw a dynoliaeth — sgwrs lle mae Duw yn siarad, yn galw ac yn dangos ei hun, a lle mae pobl yn ymateb, weithiau mewn ffydd, ond weithiau mewn dryswch a gwrthryfel. Mae’r Beibl yn onest am y realiti hwn: mae’n gofnod “warts and all” o’r natur ddynol. Ac eto, drwy’r cyfan, mae’n stori am Dduw sy’n galw, yn chwilio ac yn achub. Wrth droi’n ôl at gwestiynau’r Hen Destament, dydyn ni ddim yn astudio hanes o bell, ond yn camu’n ostyngedig mewn i’r ddeialog ein hunain, gan ganiatáu i’r cwestiynau hynny gael eu gofyn ohonom ni heddiw.

2. “Ble wyt ti?”

Mae cwestiwn Duw i Adda ac Efa yn Genesis 3:9 yn mynd yn syth at galon y profiad dynol. Ar ôl anufuddhau, daw cywilydd ac ofn, ac yn lle rhedeg at Dduw, maen nhw’n cuddio. Nid stori am ystyr a gwreiddiau yn unig yw hon, ond drych i’n bywydau ni. Mewn diwylliant sydd wedi colli’r iaith am bechod, rydyn ni’n dal i brofi’r un aflonyddwch — teimlad o fod ar goll, yn anghyfforddus yn ein croen ein hunain. Nid condemniad yw’r cwestiwn “Ble wyt ti?”, ond gwahoddiad i fod yn real ac i ddechrau sgwrs gyda Duw wrth ddod i’w adnabod ac hefyd adnabod ein hunain.

3. Duw sy’n gorchuddio cywilydd

Mae Adda ac Efa’n ceisio delio â’u cywilydd eu hunain gyda dail ffigys — ateb brys mewn panig. Ond mae Duw yn gwneud rhywbeth hollol wahanol: mae’n eu gorchuddio gyda dillad go-iawn. Nid i rwbio’r bai i mewn, ond i’w ddileu. Dyma galon yr efengyl: Duw sy’n cwrdd â phobl yn eu bregusrwydd, ac yn cymryd y cywilydd oddi arnyn nhw. Yr hyn ddechreuodd yn yr ardd, fe’i cwblhawyd yn llawn yn Iesu Grist — gras yn lle cywilydd, adferiad yn lle cuddio.

Felly, gobeithio daw cyfle i ranu’r bregeth hon eto yn hwyrach yn y tymor!

Pob bendith.

Rhys

Please follow and like us: