Dwi’n dechrau poeni mod i’n esgeuluso fy mlog Cymraeg! I chi nad sy’n gwybod dwi wedi cychwyn blog Saesneg er mwyn i’r di-Gymraeg, yma yng Nghymru a thu hwnt, gael clywed a deall yn well sut y mae Cristnogion sy’n Gymry Cymraeg yn gweld a deall pethau. Dyma dwi wedi nodi ar y blog Saesneg:
Some of the issues i hope to raise and discuss on the blog are as follows:
- I will try and explain why we insist on keeping Welsh language churches going and why i believe we should be looking at planting new ones in the not so distant future. I will strive to explain that the notion that Christian witness would be best served in Wales all united together in English Churches as everyone these days speak English as ill-informed dated colonialist thought.
- I will explain why I am, along with most Welsh speaking Christians, involved in some way or the other in the Welsh nationalist movement. I will try and explain why such an aim as Welsh freedom or independence is a Christian one.
- I hope to explain to those on the outside some of the issues facing Welsh churches and Welsh language Christian witness and mission. I’ll praise and give a shout out to the good stuff that’s going on in Welsh circles; and I’ll try, gracefully, to point out the not so good aspects within the body of Welsh language Christianity.
Felly dyna pam nad ydw i wedi bod yn sgwennu am bethau or-ddifrifol ar y blog yma yn ddiweddar. Dwi wedi bod yn ddiwyd yn ceisio cael stwff fyny ar y blog Saesneg. Ar hyn o bryd dwi’n cyhoeddi cyfres o bostiau sy’n crynhoi thesis R. Tudur Jones yn ei Desire of Nations. Gwaith paratoi da ar gyfer yr wythnos nesaf pan fydda i’n cychwyn gweithio ar thesis terfynol y PhD.
Caf gyfle i ddweud gair pellach am y cynllun eto maen siŵr ond yn fras fy ngobaith o hyn allan bydd gweithio ar bennod bob chwe wythnos gan gael y drafft cyflawn cyntaf yn barod erbyn mis Medi 2009, yna ail-ddrafftio drwy fisoedd Medi-Rhagfyr gan gyflwyno’r thesis terfynol i’w farcio erbyn Ionawr 2010. Mae hon am fod yn flwyddyn brysur! Blwyddyn newydd dda!