Ddiwedd Tachwedd bu farw R.M. (Bobi) Jones un o ysgolheigion Cristnogol mwyaf ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Roedd yn academydd wrth ei alwedigaeth, yn llenor o bwys, yn bencampwr dros ddysgu Cymraeg i oedolion ac yn amddiffynnydd digyfaddawd o’r traddodiad Calfinaidd Cymreig.
Pan oeddwn i’n blentyn roedd llawer o sôn am Yncl Bobi ac Anti Beti. Maes o law, a finnau yn fy arddegau hwyr, ces y fraint o gael Yncl Bobi ynghyd â’i gyfaill Geraint ‘Gruff’ (yr Athro Geraint Gruffydd) yn athrawon ysgol Sul arnaf. Cofiaf yn arbennig eu cyfres yn ein harwain drwy Lyfr yr Actau gyda’i mewnwelediadau difyr am gefndir a chyd-destun gwleidyddol a diwylliannol cyfnod y Beibl ac yna eu gallu i dynnu’r wers at fan lle’r oedd yr hanes bob tro yn gosod her i’r Cristion ac i’r eglwys heddiw. Dynion agos atoch, gostyngedig a hawdd eu dilyn oedd Bobi a Geraint yn yr ysgol Sul.
Wel, am sioc wrth fentro darllen un o gyfrolau Bobi am y tro cyntaf pan oeddwn yn y Brifysgol. Roedd y gwerinwr agos atoch roeddwn i wedi fy magu yn ei gwmni yn yr ysgol Sul wedi troi’n athrylith oedd yn ymdrin â’i destun mewn modd y tu hwnt i’m deall a’m gallu syml i. Dyma brawf fod Bobi mewn gwirionedd yn athro wrth reddf – gwyddai pryd roedd angen i Yncl Bobi siarad a gwyddai hefyd pryd roedd y llwyfan yn barod i wrando ar R.M. Jones. I unrhyw un sy’n awyddus i ddechrau deall campweithiau academaidd Bobi mae cyfrol Eleri James, Casglu Darnau’r Jig-so: Theori Beirniadaeth R.M. (Bobi) Jones, yn fan cychwyn da a mawr yw ein diolch i Eleri am fentro cyflwyno theorïau mawr Bobi i ni feidrolion.
Dysgu Cymraeg
Magwyd Bobi yng Nghaerdydd ar aelwyd hollol Saesneg. Roedd ei dad-cu a’i fam-gu ar ochr ei dad yn medru’r Gymraeg ond, yn ôl yr arfer ym Merthyr Tudful ar y pryd, dewiswyd magu’r genhedlaeth nesaf yn Saesneg ac felly collwyd y Gymraeg. Yn yr ysgol uwchradd yn Cathays y daeth Bobi i gyfarfod â’r Gymraeg am y tro cyntaf. Dewisodd Sbaeneg i gychwyn ond fe’i heriwyd gan y prifathro ar y diwrnod cyntaf: “Listen to me. I’m an Englishman from Lancashire. And even I know what ‘good night’ is in Welsh.” Ac erbyn drannoeth roedd wedi symud o’r dosbarth Sbaeneg i’r dosbarth Cymraeg. Aeth ymlaen i astudio’r Gymraeg yn y Brifysgol, a maes o law peidiodd â gweld ei hun fel dysgwr ac fe ddaeth y Gymraeg yn iaith gyntaf iddo.
Y profiad hwn a sbardunodd ei ymdrechion i hybu’r gwaith o ddysgu Cymraeg i oedolion. Yn ôl ei gyffes ei hun roedd yn agnostig gwleidyddol, ac er bod posteri Plaid Cymru i’w gweld yn glir ar ei dŷ yn Llangawsai adeg pob etholiad a’i fod wedi cefnogi rhai o ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith (ac wedi gwrthod gwahoddiad i fynd am de i Balas Buckingham ar ôl rhoi gwersi Cymraeg i Carlo) dewisodd sianelu ei egni i’r ymdrechion i ddysgu Cymraeg i oedolion – yn benodol trwy gyfrwng CYD – Cymdeithas y Dysgwyr.
Tröedigaeth
Fe’i magwyd yn gapelwr mewn cyfnod pryd yr oedd cysylltiad agos, yn arbennig yn ne Cymru, rhwng yr efengyl Gristnogol a Marcsiaeth. Ac felly tra oedd yn y Brifysgol, ar ôl yr Ail Ryfel Byd, swm a sylwedd ei Gristnogaeth oedd arddel heddychiaeth ac ymgeisio at ryw fath o foesoldeb cyffredinol. Roedd y cyfan yn faterol iawn heb lawer o ystyriaeth i’r goruwchnaturiol. Ond wrth ddarllen gwaith Saunders Lewis dechreuodd gymryd y posibilrwydd o’r goruwchnaturiol o ddifri am y tro cyntaf. Y flwyddyn allweddol oedd 1952. Roedd newydd briodi â Beti ac roeddent yn byw yn Llanidloes. Un Sul aeth i’r oedfa ac roedd y gweinidog yn darllen y Gair cyn y cymun o Luc 22:21 – “Wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd.” Ac meddai Bobi: “Stopiodd, oedodd ychydig, ac yn yr eiliadau yna, mewn bwlch rywsut, drwy’r Ysbryd Glân, fe ddaeth Iesu Grist yn fyw yn fy nghalon.”
Bu ei dröedigaeth yn gyfrwng i ddyfnhau ei wreiddiau Cymraeg a Chymreig gan fod ei ffydd newydd efengylaidd wedi agor y drws iddo i’r traddodiad Cristnogol Cymreig. Yn gyffredinol ei arwyr mawr oedd Awstin, Luther a Chalfin ond, yng Nghymru, y ffigwr a fu’n arwr ac yn gydymaith defosiynol iddo trwy’r blynyddoedd oedd William Williams, Pantycelyn. O ran ei gyfoeswyr bu ei gefnder, y Parch Geoff Thomas, yn ddylanwad arno – yn arbennig felly wedi iddo ddychwelyd i Gymru yn yr 1960au ar ôl derbyn hyfforddiant yng ngholeg diwinyddol enwog Westminster, Philadelphia oedd yn fagwrfa i’r dadeni Calfinaidd ar y pryd. Dylanwad mawr arall oedd y pregethwr Martyn Lloyd-Jones, a bu’n gŵyn gyson gan Bobi nad oedd Dr Martyn yn cael sylw haeddiannol yng Nghymru ag ystyried mai ef oedd yr awdur Cymreig â’r gwerthiant mwyaf ar ei gyfrolau yn rhyngwladol. Debyg iawn mai ffordd anuniongyrchol o brotestio nad oedd y safbwynt efengylaidd clasurol yn cael sylw haeddiannol gan y Gymru gyfoes oedd hyn.
Gras Cyffredin a Sofraniaeth y Sfferau
Yn y byd academaidd darganfu yn R. Tudur Jones enaid hoff cytûn, yn arbennig oherwydd dylanwad Calfinwyr yr Is-Almaen. Daeth Bobi a Tudur fel ei gilydd dan ddylanwad unigolion fel Kuyper a Dooyweerd oedd yn hyrwyddo ffurf ar Galfiniaeth oedd yn cyflwyno fframwaith diwinyddol i’r Cristion ymhél â phynciau fel gwleidyddiaeth, llên, y gyfraith a diwylliant yn gyffredinol.
Mae dau gysyniad o’r traddodiad Calfinaidd yn haeddu sylw penodol gan eu bod yn gysyniadau roedd Bobi yn achub ar bob cyfle i siarad amdanynt. Y cyntaf oedd athrawiaeth Gras Cyffredin. Yn ôl yr athrawiaeth hon, mae gras yn syrthio ar bawb yn ddiwahân – nid yw Duw’n penderfynu pwy gaiff dderbyn bendithion cyffredinol gras. Yn ôl Bobi yr athrawiaeth hon sy’n esbonio bodolaeth llenorion Cristnogol ofnadwy a llenorion seciwlar disglair. Hynny yw, mae yna fendithion o ras Duw yn syrthio ar bawb – yn gredadun neu beidio a dyna sy’n gwneud diwylliant yn bosib.
Yr ail wedd ar ddiwinyddiaeth y traddodiad Calfinaidd a hawliodd sylw Bobi oedd athrawiaeth sofraniaeth y sfferau. Dadleuai Bobi fod gan Dduw ordinhadau ar gyfer bywyd cymdeithasol dyn. Mae i bob sffêr, o’r ‘teulu’ i’r ‘gwleidyddol’ i ‘iaith’ a hyd yn oed ‘chwaraeon,’ ei hannibyniaeth a’i sofraniaeth ei hun ond credai mai i Dduw, yn y bôn, y perthyn pob sofraniaeth. Mae i bob sffêr felly gyfrifoldeb uniongyrchol i Dduw ac nid i unrhyw sffêr arall. Felly, mae hon yn athrawiaeth sy’n dadlau yn erbyn i’r sffêr Eglwysig ddylanwadu ar y sffêr ddiwylliannol neu wleidyddol, dyweder, na’i rheoli. Mae hefyd yn gwarchod annibyniaeth yr eglwys oddi wrth y wladwriaeth.
Gwaddol
Mae rhai wedi awgrymu fod cyfundrefn Galfinaidd Bobi yr un mor ddamcaniaethol a haearnaidd ag athrawiaeth y dyneiddwyr modern y taranai’n aml yn eu herbyn. Gellir gwerthfawrogi hefyd sut y bu i rai nad oedd yn rhannu profiad Cristnogol Bobi deimlo ei fod ar adegau yn awgrymu fod eu diffyg profiad ysbrydol hwy yn golygu fod eu dirnadaeth o’r byd rywsut yn gyfyngedig ac anghyflawn. Gellir hefyd weld tuedd tuag ag sectyddiaeth ynddo wrth gyffredinoli am eglwysi a Christnogion nad oedd yn rhannu ei union olygiad ef o’r ffydd.
Ond drwodd a thro roedd Bobi nid yn unig yn arloeswr yn ein llên ond hefyd yn un o amddiffynwyr y ffydd mewn oes pan oedd llawer, yn arbennig yn y byd academaidd, yn prysur anghofio ein gwaddol Cristnogol. Ac mae’n amhosib deall ein stori ni fel Cymry heb ystyried cyd-destun y gwaddol Cristnogol. Ni ellir gwneud synnwyr o stori’r Cymry heb roi ystyriaeth lawn i’r Ysbryd Glân fel ffactor hanesyddol – dyma a wnaeth Bobi a dyna pam y mae ei waith a’i ddylanwad mor bwysig.
Ar achlysur ei angladd ni chlywyd sôn am ei raddau, ei gyhoeddiadau na’r hyn a gyflawnodd gydol ei yrfa. Beth a gafwyd, yn syml iawn, oedd pregeth am ei Arglwydd a’i Waredwr.
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Cristion (Ionawr / Chwefror 2018 | Rhifyn 206)