‘Bodelwyddan to get 1,700 new homes… and A55 exit.’ Tybed faint o’r tai hyn fydd i bobl leol? “30% of which will be affordable housing for local people” medd Angela Loftus, swyddog i Gyngor Sir Ddinbych. Felly bydd 60% o’r tai, 1,020 ohonynt, i bobl fydd yn gweithio yng Nghaer a threfi a dinasoedd eraill Gogledd Orllewin Lloegr. Does ots am y gyffordd newydd ar yr A55 a’r McDonalds, neu os fyddw chi’n lwcus Little Chef, ddaw efo hwnnw oherwydd yr oll fydd y datblygiad yma yn gwneud fydd troi Bodelwyddyn i fewn i faesdref enfawr i Ogledd Orllewin Lloegr.
Gwarthus Cyngor Sir Ddinbych.
Please follow and like us:
Mae hwn i gyd yn rhan o strategaeth is ranbarthol gorllewin caer. Hollol warthus.
Mae’r cynllun yma ac eraill dros sioedd Dinbych, Fflint a Wrecsam yn cael eu cefnogi gan y siroedd unigol yn ogystal â’r Cynulliad!
Dwi’n bendant nath pobol beidio pleidleisio o blaid datganoli i gael penderfyniadau fel hyn. Ar ben hyn fydd y mewnfudwyr yma yn debygol o fod y rhai i bleidleisio yn erbyn datganoli.
Gweler http://www.merseydeealliance.org.uk/