Un o fy hoff artistiaid Saesneg ydy David Bowie. Mae ei gerddoriaeth yn anhygoel – maen roc gret ar un llaw ond mae hefyd yn gerddoriaeth ‘wahanol’ gymhleth. Amwni mae’r artist cyffelyb yng Nghymru ydy Jarman – nid fod y gerddoriaeth yn debyg ond y ffaith fod y ddau yn artistiaid roc sy’n cynnig rhywbeth amgen. Nawr mod i wedi darganfod YouTube maen debyg y bydd llawer o bostiau y dyfodol yn cynnig fideo difyr i chi.
Edrychwch a gwrandewch ar y glasur yma. Gwrandewch ar y cerddorion (sesiwn maen debyg) maen nhw’n wefreiddiol – ac mae Bowie yn cwl iawn hefyd:
Please follow and like us:
Un o fy hoff ganeuon Bowie! Dwi isio hwnna wedi ei chwarae yn fy mhriodas.
Diolch am hwnna!
yn dy briodas dwi’n mynd i orchuddio’n hun efo cachu a dawnsio efo dy wraig di tan fod yr haul yn codi. yna beichiogi hi, a rhedeg i ffwrdd i’r sahara. heb drowsus.
cariad mawr xxx
dad
Diolch (neu beidio) am y sylw ‘od’ yna Dafydd Glyn! Cadw sy sylwaau od i dy flog dy hun tro nesa 😉
Waw, diolch yn fawr. Mae hwnna’n wych. Mae’n swnio fel Mike Garson ar y piano, ac mae’r hogan ar y bas yn ei fand rheolaidd hefyd. Dwi’m yn siwr am y lleill.