Maen rhaid mi gyfaddef mae teimladau cymysg ddaeth drosta i wrth i mi glywed a darllen y storĂ¯au dros y dyddiau diweddaf yn cofio am ymosodiad yr IRA ar arweinwyr llywodraeth imperialaidd Lloegr yn Brighton yn 1984.
Dydw i ddim mynd i amddiffyn yr IRA er fod fy nghydymdeimlad gwleidyddol gyda nhw rhagor na llywodraeth Lloegr. Roedd eu defnydd o drais ar y diwrnod hwnnw a laddodd 5 o bobl ac anafu 34 yn anghywir, does dim cyfiawnhad oherwydd mae sancteiddrwydd bywyd yn dod o flaen unrhyw egwyddor foesegol arall.
Ond fedra i ddim chwaith dioddef safonau dwbl llywodraeth Lloegr na’i asiantaeth ddarlledu y BBC wrth ohebu a chofio am y digwyddiad yn Brighton yn 1984. Mae Lloegr wedi credu ers canrifoedd ac yn parhau i gredu ac ymarfer fod cyfiawnhad i dargedu arweinwyr Llywodraethau anghyfiawn a gorthrymol a hynny drwy drais. Ac felly mewn ffordd dilyn patrwm oedd wedi ei osod gan Loegr ei hun wnaeth yr IRA drwy dargedu arweinwyr llywodraeth Lloegr oedd yn ac sydd dal i fynnu hawl imperialaidd dros Ogledd Iwerddon.
Fe wyliesi gyfweliad gyda Lord Tebbit ar y Politics Show ddoe. Fe gafodd Tebbit ei anafu’n ddifrifol ac yn dilyn yr ymosodiad bu ei wraig yn gaeth i gadair olwyn byth ers hynny. Felly rwy’n deall pam fod Tebbit yn grac, dwi’n deall pam ei fod e’n brifo o waelod ei galon. Ond fe gollodd fymryn o fy nghydymdeimlad pan ddywedodd: “I shall be content to go on hoping that perhaps, if there is a heaven and hell, that there will be a particularly nasty, objectionable, painful corner of hell reserved for those who were involved, from top to bottom of the command structure, in the bombing of the Brighton Grand Hotel twenty five years ago.” Dyna ddweud ofnadwy hyd yn oed a chymryd i ystyriaeth beth mae Tebbit wedi ei ddioddef.
Er fod gelynion o fewn Gogledd Iwerddon ei hun wedi cychwyn ar y cymod mawr, hyd y bydd Tebbit a’i debyg yn Lloegr yn dod i ddeall ystyr cymod hefyd mi fydd trais a marwolaeth yn parhau. Mae dallineb y Sais imperialaidd yn dychryn dyn i’r byw. Fydda i’n cofio am Tebbit ac yn gweddio y bydd yn gweld, drwy Iesu, ffordd i ddod i delerau a chymod.
Dwi ddim am fynd i drafod y gwahaniaeth rhwng llywodraeth ddemocrataidd yn defnyddio trais i ddibenion gwleidyddol, a’r modd y mae grwpiau terfysgol, anatebol, yn defnyddio trais. Ond mae ‘na gliw yn y geiriau “democrataidd” ac “anatebol”.
Mae fy neges yn ymwneud gyda’r cysyniad o faddeuant a chymod. Yn bersonol, dwi’n falch nad oes gen i ddarn o ffydd crefyddol, gan nad ydw i, felly, o dan unrhyw bwysau moesol i faddau i’r rhai sydd yn tramgwyddo yn fy erbyn. Petai unrhyw un yn gwneud niwed i fy nheulu, byddwn yn eu casau am weddill fy nyddiau. Fyddwn i ddim yn gallu maddau iddynt, nac yn dymuno gwneud hynny. Am y tro cyntaf erioed, dwi’n cytuno yn llwyr gyda agwedd Norman Tebbit.
Diolch am dy sylwadau onest Dyfrig. Cwestiwn i ti; roedde ti’n dweud y base ti’n casau unrhywun fyddai gwneud niwed i dy deulu am weddill dy ddyddiau. Felly beth fydde ti’n gwneud gyda’r “casineb” yna? A fydde dy natur di am geisio iawn am yr hyn a wnaed?