Yn y sylwadau i’r postiad diwethaf yn trafod amheuaeth Simon Brooks o brosiect datganoli mae Simon yn egluro’n llawnach pam ei fod yn ei chael hi’n anodd cysoni ei gefnogaeth i ddatganoli ar un llaw a’i gefnogaeth i’r iaith Gymraeg ar y naill.
Un o ddadleuon Simon yw fod tuedd gan y dosbarth gwleidyddol yng Nghaerdydd i feddwl am wleidyddiaeth Cymru yn nhermau’r ethnig/sifig. Dadleua fod gwleidyddion y Cynulliad fel pe baent yn argyhoeddedig fod y Gymraeg yn “ethnig” (h.y. Drwg) a datganoli yn sifig (h.y. Da). O ganlyniad mae tuedd gan Lywodraeth y Cynulliad (yn Lafur, Llafur/DemRhydd ac yn awr Llafur/PC) i fod yn llugoer o ran polisi iaith. Mynna Simon fod hyn yn debygol o beri problemau hirdymor i’r iaith, ac fod y duedd o ofni’r ‘ethnig’ yn debygol o danseilio popeth ynglŷn a’r iaith. Methir a trafod (heb sôn am gynnig atebion) yr angen i warchod ardaloedd Cymraeg ac yn yr ardaloedd di-Gymraeg fe fethir a datblygu addysg Gymraeg yn ôl y galw a’r angen.
Cred Simon fod angen i Blaid Cymru wynebu’r her ac edrych eto sut mae datrys y broblem theoretig parthed y sifig/ethnig? Yn benodol, beth fydd dyfodol cymunedau Cymraeg mewn Cymru sifig ymreolus? Heb ateb y cwestiwn yma yn foddhaol, meddai, tynged yr Wyddeleg yn Iwerddon sy’n ein hwynebu ni.
Fe es ati felly i weld os ydy’r Blaid wedi rhoi unrhyw arweiniad ar y mater yn ddiweddar. Dyma oedd yn Maniffesto San Steffan 2010:
Fel cenedl groesawgar, mae Plaid Cymru yn cydnabod cyfraniad gwerthfawr mewnfudwyr i Gymru. Mae ein cenedlaetholdeb sifig yn dathlu goddefgarwch, cyd-ddeall a dathlu gwahaniaethau. Yr ydym yn condemnio’r sgorio pwyntiau a ddefnyddir gan bleidiau eraill a’r ymgreinio i ragfarnau senoffobaidd di-sail yn y ddadl ar fewnfudo.
Wrth gwrs, trafod mewnlifiad yn gyffredinol i Brydain y mae’r cymal yna. Ac mewn ffordd mae’n dweud cyfrolau fod y Blaid yn meddwl fod trafod hynny yn bwysicach na rhoi lle yn y Maniffesto i drafod y mewnlifiad a’r allfudiad o’r Bröydd Cymraeg. Doedd dim trafod o gwbl ar y pwnc yn Maniffesto Cynulliad 2007.
Mae angen i’r mudiad cenedlaethol, a Phlaid Cymru wedi ei chynnwys, ail-ddechrau trafod y pwnc hwn er mwyn cynnig atebion ymarferol, call sydd ddim yn ymostwng i wrth-Seisnigrwydd. Fel y dywedodd Gareth Miles yn rali’r Gymdeithas wythnos diwethaf y mae gwladychu yn anghywir boed yn wladychu drwy drais fel sy’n digwydd yn Gaza neu wladychu drwy rym economaidd fel sy’n digwydd o Fôn lawr i Benfro.
A bod yn onest ‘dydw i ddim yn derbyn bod y math o genedlaetholdeb ieithyddol (os mai dyna’r term) sy’n un edefyn amlwg o genedlaetholdeb Cymreig yn cyfateb a ‘chenedlaetholdeb ethnig’ sy’n nodweddu llawer o wledydd ol drefidigaethol. Mae cenedlaetholdeb ymgyrchwyr iaith yn sifig iawn o ran ei natur gan amlaf – ym mhob ystyr ond y pwyslais ar gadwraeth iaith.
Mi fyddwn yn derbyn pwynt Simon bod yna ganfyddiad ar ran gwleidyddion Llafur yng Nghymru bod cenedlaetholdeb ag agwedd ieithyddol iddi trwy ddiffiniad yn genedlaetholdeb ethnig – ond canfyddiad ffug ydi hwnnw.