“dŷn ni’n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni’n dioddef, am ein bod ni’n gwybod fod dioddefaint yn rhoi’r nerth i ni ddal ati.” (Rhufeiniaid 5:3)
Dyma rai myfyrdodau personol a ddaeth i’m meddwl wrth imi baratoi pregeth ar Rhufeiniaid 5:1–5 wythnos yma. Nid oeddent yn addas i’w rhannu fel rhan o’r bregeth ddydd Sul, felly rwyf wedi’u casglu yma yn lle. Meddyliwch amdanynt fel “outtakes” y bregeth — y darnau na wnaeth y ‘final cut’, ond darnau sy’n datgelu’n well, efallai, lle arweiniodd Duw fy meddwl a’m calon wrth baratoi.
Ar fore Gwener gwlyb, dyma fi’n eistedd wrth fy nesg yn gorffen pregeth ar Rhufeiniaid 5:1–5. Mae’r geiriau gan Paul am heddwch, gras a gobaith yn chwa o awyr iach. Adnod 3 wnaeth fy nal i: “dŷn ni’n gallu bod yn llawen hyd yn oed pan dŷn ni’n dioddef, am ein bod ni’n gwybod fod dioddefaint yn rhoi’r nerth i ni ddal ati.”
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi byw gyda’r hyn a ddeallaf bellach fel ‘high-functioning anxiety’. Gyda meddyginiaeth, rhythmau ysbrydol gwell, cyfarfodydd rheolaidd gyda chyfarwyddwr ysbrydol, ac un cyfnod o gwnsela, rwyf wedi dysgu ei reoli. O’r tu allan, mae’n anweledig; rhan fwyaf o wythnosau rwy’n llwyddo i gadw popeth i fynd. Ond oddi mewn, mae yna hum isel o bryder bron bob dydd, rhyw deimlad o straen na allaf “ddiffodd”. Gwn nad yw hyn yn cymharu â’r dioddefaint difrifol y mae llawer yn ei brofi, ac tydw i ddim yn honni ei fod. Ond mae wedi siapio fy ffydd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi gwneud i mi geisio math o Gristnogaeth nad yw’n mynnu trawsnewid ar unwaith, ond un sy’n cwrdd â phobl lle maent.
Dyna pam mae Rhufeiniaid 5:3 yn air pwerus i mi. Nid yw Paul yn addo cael gwared ar ddioddefaint; mae’n ail-fframio’r profiad. Mae’n sôn am broses — dioddefaint yn arwain at ddyfalbarhad, dyfalbarhad at gymeriad, a chymeriad at obaith. Nid oes gwadu poen yma, nac unrhyw alwad i “hawlio” buddugoliaeth. Yn hytrach, ceir sicrwydd tawel fod Duw ar waith yng nghanol yr anhawster ei hun, ac mai ei gariad ef sy’n cael ei dywallt i’n calonnau drwy’r Ysbryd Glân.
Mae llawer yn profi bendith wrth hawlio buddugoliaeth Crist yn hyderus, ac mae’n gywir credu bod y frwydr bwysig wedi’i hennill. Ond yn fy mywyd i, gall y neges honno deimlo’n bell weithiau. Nid yw fy mhryder yn diflannu drwy ddatgan mod i’n hawlio’r fuddugoliaeth; mewn gwirionedd, mae bugeilio eglwys lle mae yna ddisgwyliadau amrywiol ynglŷn â iacháu a gwaredigaeth (deliverance) wedi, yn eironig iawn, dod yn un o’r ffactorau sy’n bwydo fy ngor-bryder fy hun.
Y gwirionedd pwysig i mi yw bod Crist yn bresennol gyda mi yng nghanol y cyfan — nid yw profi ei waredigaeth yn amodol ar brofi iachad llwyr, ond mae’n cerdded gyda mi beth bynnag. Ei gyd-ddioddef sy’n angor i mi. Nid delwedd o fuddugwr amhersonol ar lwyfan sy’n fy nghynnal, ond Iesu’n chwysu gwaed yn Gethsemane, yn wylo wrth fedd ei ffrind, ac yn marw ar y groes. Collwr yng ngolwg y byd.
Rwy’n credu o argyhoeddiad fod Duw yn gallu gweithredu’n wyrthiol — rwyf wedi gweddïo amdano ac, ar adegau, wedi’i weld yn digwydd. Eto i gyd, yn amlach na pheidio, nid yw gweddi’n cael ei hateb yn y ffordd yr oeddwn yn gobeithio. Pe bai pob gweddi am wyrth yn cael ei hateb, yna, ni fyddent bellach by definition yn rhan o waith anarferol (gwyrthiol) Duw. Y gwir yw bod y rhan fwyaf o weddïau am iachâd yn mynd heb eu hateb. Yn wyneb hyn, mae ymateb bugeiliol a doeth yng nghyngor Paul i’r Rhufeiniaid yn Rhufeiniaid 5:3 wrth iddo siarad am waith arferol Duw.
Rwy’n credu fod byw gyda phryder hefyd yn siapio y ffordd rwy’n bugeilio. Pan fydd pobl yn rhannu am eu brwydrau gyda fi, rwy’n llai tebygol o estyn am iaith fuddugoliaethus ar unwaith, ac yn fwy tebygol o eistedd gyda nhw, ac ystyried sut mae Crist gyda ni yn hyn a gweld ei fod yna yn y canol. Mae hyn hefyd, yn baradocsaidd, wedi fy rhyddhau o’r pwysau i wneud i’m gweinidogaeth Gymraeg fach edrych fel un fwy a slic. Nid wyf wedi cael galwad i efelychu gweinidogaethau eraill, rwyf wedi cael galwad i fod yn ffyddlon i fy ngalwad fy hun.
Efallai mai dyna pam y creodd Rhufeiniaid 5:3 argraff arna i wythnos hon. Nid yw Paul yn cynnig dihangfa rhag dioddefaint, ond mae’n mynnu y gall cariad a gobaith Duw wreiddio a hyd yn oed tyfu o fewn cyd-destun o ddioddef. Mae’n weledigaeth o fywyd Cristnogol sy’n gwneud synnwyr nid yn unig ar Sul sy’n llawn cyffro a chynulleidfa dda, ond hefyd ar fore Gwener tawel pan mae’r glaw’n disgyn a rhestr dasgau heb eu cwblhau.
Ac efallai bod hynny’n iawn. Efallai mai yn y bychan, yr arferol, mewn iaith lleiafrifol, gyda ffydd sy’n dyfalbarhau heb sŵn a sioe, y caiff y rhiddyn cymeriad a’r gobaith y mae Paul yn ei ddisgrifio ei ffurfio.

