Drwy ein bywydau rydym ni’n dysgu fod yna sgil effaith i’n dewisiadau ni. Canlyniadau, o ryw fath, i bopeth ‘dy ni’n gwneud. Weithiau bydd rhywbeth yn ymddangos fel y peth iawn i’r foment honno, efallai oherwydd mae dyna beth ydych chi eisiau y diwrnod hwnnw – it just feels right. Weithiau rydych chi’n penderfynu peidio dilyn y llwybr hwnnw oherwydd eich bod chi’n gwybod y bydd sgil effaith y penderfyniad yn yr hir dymor yn negyddol neu o leiaf yn annelwig. Yn raddol rydym ni fel dynoliaeth yn prysur ddysgu bod byw i’r funud ddim yn beth doeth iawn i’w wneud.
Mae’n debyg mae’r enghraifft gliriaf o hyn yw defnydd pobl o alcohol. Mae’n debyg fod gor-yfed yn teimlo fel y peth cywir i wneud ar noson allan. Ond sgil effaith y penderfyniad yma yw cael clamp o gur pen yn y bore heb sôn am eich arwain i wneud a dweud pethau ffôl y noson cynt. Oherwydd y sgil effaith anffodus yma o or-yfed mae rhai pobl wedi dysgu peidio gor-yfed ac yfed yn gymedrol neu ddim o gwbl yn lle.
Nawr trowch asbri noson allan yn ddyhead miliynau o Brydeinwyr i fod eisiau gwylio Coronation Street a rhoi’r tegell i ferwi yr un pryd. A trowch y cur pen bore drannoeth i mewn i wastraff ymbelydrol. A dyna i chi ffolineb ein defnydd ni yn y byd modern o ynni Niwclear. Mae ein defnydd o ynni Niwclear yn symptom o’n cynneddf naturiol i fynnu byw i’r funud heb ystyried y sgil effaith. Rydym ni eisiau llyncu’r holl egni trydanol gan anwybyddu’r sgil effaith. Ac fel Bugail a diwinydd, bid a fo am wyddoniaeth y peth, mae perthynas dynoliaeth heddiw gyda Niwclear yn gymaint o argyfwng moesol ac ysbrydol ac ydyw o benbleth i’r ffisegwyr.
Doleni perthnasol:
Y glanhau am hyd at 90 mlynedd
Cyflymu dadgomisiynu Trawsfynydd