Wythnos yma yng Nghaersalem roeddem ni’n edrych ar hanes Iesu’n cyfarfod Nicodemus o Ioan 3. Dyma’r hanes sy’n rhoi’r syniad i ni am ‘ailenedigaeth’, neu yn Saesneg y syniad o fod yn ‘born again’. Pan mae rhywun yn clywed y term ‘born again Christian’ y dyddiau yma mae rhywun yn ofni ei fod yn rhywbeth Saesneg ar y gorau a rhywbeth Americanaidd ar y gwaethaf. 

Ond mae’n bwysig cofio mae delwedd wnaeth Iesu ei hun ddefnyddio i ddisgrifio’r broses o gredu a thyfu mewn ffydd yw. Oherwydd y rhagfarn sy’n bodoli o gwmpas y syniad heddiw mae’n dda edrych arno’n ffres.

Yn gyntaf gair am Nicodemus ddaeth at Iesu gyda’i chwilfrydedd. Roedd yn Pharisead, un oedd yn gwybod yr atebion i gyd fel arbenigwr yn y gyfraith grefyddol. Ond falle ddim yn gwybod sut i ofyn y cwestiynau? Fel Pharisead mae’n bosib y byddai wedi gweld crefydd fel fformiwla gyfreithiol yn hytrach na thaith i ddirgelwch a rhyfeddod.

Tybed, ydyn ni’n gallu bod fel y Phariseaid heddiw?

Wrth edrych yn ôl ar un cyfnod o fy mywyd a fy nhaith ffydd dwi’n gwrido a chyffesu fod mwy nag ychydig o ysbryd y Phariseaid wedi nodweddu fy Nghristnogaeth i. Roeddwn i’n neidio ar bob cyfle i ddadlau o blaid y ffydd ac yn ei amddiffyn mewn sgyrsiau preifat ac yn gyhoeddus – pwy sy’n cofio fforymau trafod fel maes-e cyn dyfodiad Facebook?!

Dwi’n gallu meddwl am ddau dro yn arbennig lle roeddwn i’n cario ysbryd y Phariseaid yn hytrach nag ysbryd Crist. Y cyntaf oedd pan roeddwn yn fy arddegau ac yn teimlo galwad i amddiffyn awdurdod y Beibl. Rhywbeth sydd, yn ei hanfod, yn beth da wrth gwrs. Ond weithiau mae modd gwneud y peth cywir yn yr ysbryd anghywir.

Beth ddigwyddodd i’r dinosoriaid?

Ges i gyfnod o brynu llyfrau pseudoscientific oedd yn trio plygu gwyddoniaeth i ffitio mewn gyda syniadau diwinyddol, a rheiny yn syniadau diwinyddol gwael ar y gorau. Dwi’n cofio meddwl yn naïf: petawn i ond yn gallu ennill y ddadl fod Genesis 1 i’w ddarllen a’i gredu yn llythrennol yna wedyn byddai pawb yn siŵr o gredu’r cyfan wedyn! Taswn i ond yn gallu rhoi esboniad Beiblaidd o be ddigwyddodd i’r Dinosoriaid, yna dwi’n siŵr bydd fy ffrindiau yn ciwio i ddod i’r capel efo fi wythnos wedyn. Afraid dweud y bu’r strategaeth genhadol hon yn bur aflwyddiannus! 

Rai blynyddoedd wedyn des i weld mae nid llyfr gwyddonol yn sôn am y ‘pryd?’ a’r ‘sut?’ oedd dechrau Genesis – ond llyfr diwinyddol neu athronyddol ynglŷn â ‘pwy?’ a ‘pam?’ A dwi’n edifar fod fy agwedd Phariseaidd wedi bod yn fur i bobl weld Iesu yn hytrach na chyfrwng i’w weld.

Yr ail ddigwyddiad dwi’n edrych yn ôl arno gydag embaras oedd rhywbeth ddigwyddodd pan roeddwn yn fyfyriwr. Fe gyhoeddodd y Ficer a’r Dramodydd enwog Aled Jones-Williams erthygl yn Golwg yn gwadu rhai pethau canolog i’r ffydd Gristnogol. Roeddwn i ddigon hy i feddwl fod gen i, fyfyriwr ifanc ffôl, hawl i sgwennu llythyr hir a phigog i mewn i Golwg yn tynnu i ddarnau beth roedd Aled wedi’i ddweud. Ac fe gyhoeddodd Golwg y llythyr.

Roeddwn i yn fy malchder a fy mrwdfrydedd selotaidd yn meddwl mod i’r arwr mwyaf roedd Cristnogaeth Gymraeg wedi ei gael ers Yr Esgob William Morgan ac roeddwn i’n disgwyl derbyn yr allwedd i Dŷ Mawr Wybrnant unrhyw ddiwrnod.

Taith gyda Aled Jones-Williams

Rai misoedd wedyn roeddwn i lawr yn Llanelli yn cymryd rhan mewn rhaglen drafodaeth ar y teledu. A pwy oedd hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen oedd Aled Jones-Williams. Eto, yn llawn o fy malchder ysbrydol, wnes i osgoi Aled. Wnes i roi’r ‘evangelical snub’ iddo. Roeddwn i’n meddwl mai dyna roeddwn i fod i wneud. Roeddwn i’n meddwl mai dyna roedd e’n ei olygu i sefyll dros y gwirionedd.

Ond wedyn yn Stradey Park Hotel y bore wedyn pwy gerddodd i mewn i’r ystafell frecwast ond Aled. Ac roedd yn chwilio am lifft yn ôl i’r Gogledd a gan fy mod i’n gyrru drwy Borthmadog nid oedd esgud da gen i wrthod. Felly dyna le roeddwn i yn wynebu taith 4 awr yn y car gyda’r dyn yma roeddwn i wedi ymosod arno’n gyhoeddus … dyna chwithig!

Ond fe gawsom ni bedair awr ddifyr a braf iawn gyda’n gilydd. Er mai fi oedd yr “uniongredwr”, yn credu’r holl athrawiaethau a syniadau “cywir”, Aled oedd yn dangos tosturi a gras tuag ata i. Ac fe wnaeth hynny argraff ddofn arna i.

Yn ddiwinyddol mae’n siŵr mod i ac Aled yn parhau i fod yn bell o’n gilydd ond y diwrnod yna fe wnes i sylwi hefyd fod angen i fi gael fy ail ail-eni. Roeddwn wedi cael fy ail-eni pan oeddwn i’n iau, pan wnes i gredu am y tro cyntaf. Ond os oeddwn i am fod yn ddisgybl i Iesu roedd rhaid i’r ysbryd Phariseaidd oedd ynddo i farw, er mwyn i ysbryd Duw gael lle i dyfu.

Ffydd i dystio nid i ddadlau

Oherwydd nid ffydd i ddadlau drosti yw Cristnogaeth, ond bywyd newydd i dystio amdani. Nid crefydd i gau pobl allan, ond ffydd i wahodd pobl i mewn i Deyrnas wahanol. Fel mae Brian Zahnd yn dweud: “A person with an experience is never at the mercy of a person with an argument.”

Fel Nicodemus roeddwn i’n gwybod yr atebion i gyd, roedd y dadleuon ar flaen fy nhafod wedi ei hymarfer yn dda. Ond roeddwn i ddim ond yn dechrau gweld fod tyfu fel disgybl hefyd ynglŷn â gofyn ac ymaflyd gyda’r cwestiynau hefyd a phwyso i mewn i brofiad o ras a chariad Duw mwy mwy.

Ydy mae bod yn Gristion yn golygu cael eich ail-eni – y profiad cyntaf yna o gredu – ond mae hefyd yn golygu bod yn barod i gael eich ail ail-eni. Cael ein hail-eni’n barhaus wrth i ni gael ein sancteiddio a’n gwneud yn ddisgyblion i Iesu.

Please follow and like us: