D. L. Moody (1837 - 1899)

D. L. Moody (1837 - 1899)

Yn gynnar ym 1891 yr oedd D.L. Moody yn cynnal ymgyrch yng Nghaerdydd ac yn llenwi capel enfawr Wood Street i’r ymylon, hyd yn oed am saith o’r gloch y bore. Mynnodd Pugh fynd i weld Moody yn nhŷ Richard Cory, lle’r oedd yn lletya. Gwnaeth gryn argraff ar yr Americanwr a cheisiodd gael gan Pugh ddychwelyd i weithio gydag ef yn Chicago. “Na”, meddai Pugh, “Caerdydd yw Chicago Cymru.”

Capel Wood Street yn 1907, roedd yr adeilad yn eistedd 3,000 o bobl.

Capel Wood Street yn 1907, roedd yr adeilad yn eistedd 3,000 o bobl.

Ond yr oedd wedi dysgu rhai gwersi oddi wrth Moody ac ym Mai 1891 cychwynnodd Fudiad Efengylaidd Caerdydd ar bwys gwaith dur East Moors. Cofiodd fod pabell segur gan ŵr o’r enw Seth Joshua a gafodd dröedigaeth o dan ei bregethu ym Mhontypridd a gofynnodd i Joshua ddod i Gaerdydd a’i babell gydag ef. Agorwyd yr ymgyrch yn East Moors yn y babell honno y Sul cyntaf o Fai 1891. Nid heb wynebu cryn sarhad, a chamdriniaeth gorfforol ar dro, y llwyddodd ef a’i gynorthwywyr i rannu tocynnau ar gyfer y cyfarfodydd yn y darn hwnnw o’r ddinas. Ond bu llwyddiant. Fel y dywedodd Seth Joshua, petai’r ardal yn cau ei drysau yn wyneb yr Efengyl, fe ddeuai i mewn trwy dyllau’r clo.

Seth Joshua  (1858 - 1925)

Seth Joshua (1858 - 1925)

Yn wyneb y llwyddiant penderfynwyd agor ail genhadaeth mewn rhan arall o’r ddinas, yng Nghanton. A mantais amlwg i Pugh oedd trafod chwim Seth Joshua. Pan oedd hwnnw’n curo’r pegiau olaf i mewn i’r pridd o gylch pabell Canton, gofynnodd un o gymeriadau’r lle, “Beth yw hon? – sioe focsio?” “Ie,” meddai Seth. “Pwy sy’n mynd i baffio?” “Fi sy’n cymryd y rownd gyntaf.” “Yn erbyn pwy?”, gofynnodd yr holwr yn daer. “Rhyw foi o’r enw Beelsebub, paffiwr smart”, meddai Seth. A’r cyntaf i gael ei lorio yn y gwffast drannoeth oedd yr holwr ysgafala.

A buan yr aeth straeon o’r math yma’n rhan o chwedloniaeth ymgyrchoedd John Pugh a Seth Joshua.

[Allan o R. Tudur Jones: Ffydd ac Argyfwng Cenedl – Cyfrol Un, Tud. 109-10]
Please follow and like us: