Wel, fe gyrhaeddais Afan Lido a Chan i Gymru yn weddol ddi drafferth. Canfod fy hun ar yr un trên ac Arfon Wyn o Gaerdydd i Bort Talbot yna rhannu tacsi draw i’r sdiwdio yn Afan Lido. Roedd e’n gymeriad reit hoffus rhaid mi ddeud – tipyn o gomedian naturiol.
Roedd y caneuon i gyd yn swnio’n weddol dda yn y stiwdio – system sain heb ei ail a band sesiwn gwych gyda neb llai na Mal Pope yn canu cefndir (random ta be?). Ond tra roedd y rhaglen yn mynd yn ei blaen roedd y negeseuon testun yn llifo fewn i fy mhoced dde:
“Ydi o n swnio n ofnadwy fanna?”
“Ma fe n swnio hollol allan o diwn a distorted!”
“Wedi gweld ti, odd y gan agoriadol a’r gan gynta gyda nam sain difrifol. On i’n meddwl fod catrin finch yn chware schonenberg”
“Be tn meddwl am y noson? Swnon echrydus ar tv!”
A dyna ni – fel un oedd yna ro ni’n meddwl fod mwy o raen ar y sioe leni na sydd wedi bod (er rhaid mi gyfaddef mod i heb wylio ers rhyw dair blynedd, ac yn eironig tair blynedd yn ôl ro ni allan yn gwylio Rayland Teifi yn chwarae yn Scholars pan oedd CIG mlaen!) OND yn anffodus i’r gwylwyr adre doedd dim cynydd a gwellhad yn y safon.
Ma hi’n 10.15 nos Sadwrn steddfod Ryng-gol – dwi ddim wedi mynd lawr yn amlwg. Pam? Wel dwi wedi ymroi i lawer o weithgarwch allgyrsiol tymor yma (ac mae llawer eto i ddod) ac mi gredaf fod hyn wedi gadel ei effaith ar fy iechyd (dwi wedi blino a newydd ddod dros ddos trwm o anwyd) ac hefyd ar fy waled, ac ar ôl y trek ganol wythnos i Gaerdydd a Phort Talbot penderfynais mae’r peth callaf yn ariannol a yn flinderol oedd aros yn Aber a chael penwythnos diog.
Mi fasw ni’n sôn rywfaint am yr etholiad sydd mlaen yn Aber ar hyn o bryd OND gan fy mod i’n aelod gweledol o dim ymgyrchu un o’r ymgeiswyr rhaid i mi atal sylwebu am y tro rhag ofn i mi dorri rheol etholiadol! Caf adrodd peth hanesion wedi i’r ymgyrchu ddod i ben dydd Iau!
Comedian! Dim os fysa ti’n gorfod byw efo fo! Ag am lun difyr! Helo by the way, Annes Wyn x
Roedd dywediad gan fy nhaid mae’n debyg – pam yn Saesneg ni wn – ‘the business of a student is to study’. Gair i gall …
Hia Annes braf dy weld, gobeithio fod pob dim yn oce – be w ti’n gneud dyddia yma, ti dal yn coleg?
Sion, dydy doethineb dy Daid yn ddim byd newydd! Ond y cwestiwn ydy sut mae diffinio study? Credaf fod rhaid troedio allan o’r llyfyrgell weithiau i stydio a treiddio mewn i bethau a phynciau go iawn!
Methu deall neges Siôn Meredith. Dylai lawenhau bod myfyrwyr heddiw yn gweld yn dda i brotestio ag ystyried bod eu harian a’u hamser mor brin. Pan oedd fy nghenedlaeth i yn fyfyrwyr yn niwedd y chwedegau, roedd protestio i ni yn ffordd o fyw. Ewch ati fyfyrwyr Cymru – protestiwch, a pheidiwch a chymryd sylw o’r rheini sydd wedi hen barchuso. Mae’r Gymru Gymraeg yn ddyledus iawn i’w myfyrwyr. Cofiwch Bont Trefechan, Achos yr Wyth, yr ymgyrch dros arwyddion dwyieithog, y Sianel, a’r llu myfyrwyr a garcharwyd dros yr iaith ers blynyddoedd. Chi biau’r dyfodol. Hei lwc i chi.
helo Rhys, yndw dwi dal yn y Brifysgol, yn astudio MA mewn Cymraeg, ag yn canolbwyntio ar ysgrifennu creadigol :D. Neis gweld chdi fyd!
Mae’n amlwg fy mod wedi cynhyrfu’r dyfroedd! Mae’n anodd cyfleu tafod yn y boch wrth flogio. Roeddwn innau’n fyfyriwr protestgar a dwi’n siwr fod fy ‘efrydiau allanol’ wedi dylanwadu lawn cymaint ar y deunaw mlynedd diwethaf ag y gwnaeth yr astudiaethau academaidd.
Ond gwr doeth oedd fy mharchus Daid.