breichiauYn gyffredinol fe dderbynnir mai’r garfan o’r eglwys Gristnogol sydd yn gweld y twf mwyaf, onid yr unig dwf, yng Nghymru a Lloegr yw’r garfan efengylaidd. Fis Tachwedd darlledwyd rhifyn o’r rhaglen Week In Week Out oedd yn trafod y testun ‘Born again Wales?’ Ar y rhaglen edrychwyd ar dair eglwys oedd wedi gweld twf yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Un eglwys yn Aberteifi, un yn Briton Ferry ac un yn Rhiwbeina, Caerdydd. Roedd y tair eglwys yn eglwysi fyddai’n adnabod eu hunain fel rhai efengylaidd. Crynhowyd y safbwynt efengylaidd gan yr hanesydd David Bebbington i mewn i bedwar pwynt syml. i.) Cred, parch ac ymddiriedaeth yn y Beibl; ii.) ffocws ar waith iawnol Crist ar y groes; iii.) pwyslais ar angen pobl i gael tröedigaeth a’r iv.) gred fod angen i’r efengyl gael ei fynegi mewn ymdrechion. Daw nifer helaeth o draddodiadau Cristnogol dan yr wmbarel efengylaidd yn bentecostaliaid, eglwysi apostolaidd, eglwysi diwygiedig efengylaidd, eglwysi carismataidd ac eglwysi tŷ ond i enwi rhai. Yn ogystal mae llawer o unigolion ac eglwysi oddi fewn i’r enwadau traddodiadol yn ogystal â’r eglwys Anglicanaidd yn cyfri eu hunain yn rhan o’r traddodiad efengylaidd. Ond o ran twf eglwysi maen arwyddocaol nodi nad yw’r holl eglwysi efengylaidd yn gweld twf – fe berthyn twf yn bennaf i’r rhai mwy carismataidd.

Un peth trawiadol am eglwysi efengylaidd Cymraeg ydy eu methiant, fel yr eglwysi enwadol, i dyfu – nid niferoedd yw popeth ond rhan hanfodol bwysig o’r eglwys Gristnogol ydy arwain pobl eraill i gredu, dydy hyn ddim wedi digwydd. Dadleuwyd, wrth sefydlu’r eglwysi newydd dros y deugain mlynedd diwethaf, nad oedd yr enwadau traddodiadol yn pregethu’r efengyl yn ffyddlon ac mai dyna sut oedd esbonio eu methiant cenhadol. Rhaid cydnabod fod yr asesiad yma o gyflwr yr enwadau yn rhannol gywir – fe wnaed difrod difrifol i les ysbrydol y genedl oherwydd y pregethu cymysglyd ac amwys a gafwyd yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf. Fe all y rhai wnaeth aros yn yr enwadau dystio’n well na neb am y rhwystredigaeth o geisio gweinidogaethu a chenhadu trwy’r hen gyfundrefnau enwadol oedd yn rhoi crefydd o flaen Crist ac yn rhoi syniadau dyn yn rhy aml o flaen datguddiad Duw. Fodd bynnag, wedi deugain mlynedd o bregethu ‘efengylaidd’, nid yw eglwysi efengylaidd wedi gweld deffroadau a thyrfaoedd mwy na’r enwadau. Fe ddangosa hyn fod y broblem yn llawer iawn mwy nag yr oedd yr arloeswyr efengylaidd yn meddwl deugain mlynedd yn ôl. Mae rhai ohonynt yn gweld hynny erbyn hyn. Y darn pwysig o’r jig-so oedd ac sydd ar goll gyda’n tystiolaeth Gymraeg, yn y traddodiadau enwadol ac yn yr eglwysi efengylaidd, yw tywalltiad nerthol iawn o’r Ysbryd Glan.

Cyn parhau a’r drafodaeth maen bwysig diffinio beth rydym yn ei olygu wrth eglwysi a phwyslais carismataidd. Clywais fy ngweinidog yn dweud yn ddiweddar fod y gair ‘carismataidd’ yn air niwtral – cyfeirir at Hitler ac Obama fel ei gilydd fel arweinyddion ‘carismataidd’ ond y mae natur y ddau yn dra gwahanol. Gan ei fod yn air niwtral rhaid diffinio. Yn ôl fy niffiniad i mae’r Cristion carismataidd yn rhoi lle anrhydeddus i waith yr Ysbryd Glan ym mywyd yr eglwys a’r crediniwr. Fe gred fod yr Ysbryd Glan yn gydradd bwysig a’r Tad a’r Mab yn y Drindod. Fe gred y carismatig y dylai ffydd fod yn rhywbeth rydych chi’n ei brofi mewn modd grymus yn hytrach na bod yn ddefod neu’n rhywbeth ymenyddol yn unig – yr Ysbryd rydd y profiad yma i chi.

Bydd yr ail ran ar y blog fory…

Please follow and like us: