…parhad o’r cofnod yma ddoe

breichiau2Yn debyg i’r holl wythiennau yn y traddodiad efengylaidd fe rydd y carismatig bwysigrwydd ar dröedigaeth ond yn wahanol i rai gwythiennau fe gred y carismatig fod Bedydd yr Ysbryd Glan yn rhywbeth sy’n wahanol ac yn ychwanegol i dröedigaeth. Gydol llyfr yr Actau ceir adroddiadau am ddisgyblion oedd a ffydd yn Iesu ond nad oedd eto wedi derbyn bedydd yr Ysbryd Glan i’w harfogi i wneud gwaith y deyrnas (Actau 8:14-17, 19:1-7). Yn ogystal â chael profiad o ras achubol Duw fe gred y carismatig y gall y Cristion dderbyn ail dywalltiad fydd yn ei alluogi i ymarfer doniau goruwchnaturiol yr ysbryd er lles gwaith y deyrnas. Ymysg y doniau yma byddai rhai Cristnogion yn cael y ddawn o siarad mewn tafodau, gallu i fwrw allan gythreuliaid, arddodi dwylo er mwyn iachau a hefyd y ddawn i broffwydo. Cred rhai Cristnogion mae perthyn i hanes yr eglwys fore yn unig yn dilyn y Pentecost yn Actau 2 y mae’r doniau yma – rhyw fath o kick start ar y dechrau i’r eglwys Gristnogol. Ond y mae’r Beibl yn ddigon clir fod yr Arglwydd yn ein harfogi hyd y diwedd a doniau goruwchnaturiol i’w defnyddio er lles Ei Deyrnas. ‘Yn wir, yn wir, rwy’n dweud wrthych, bydd pwy bynnag sy’n credu ynof fi hefyd yn gwneud y gweithredoedd yr wyf fi’n eu gwneud; yn wir, bydd yn gwneud rhai mwy na’r rheini, oherwydd fy mod i’n mynd at y Tad.’ (Ioan 14:12)

Y mae llawer o resymau digon dealladwy pam fod rhai Cristnogion yn ofni’r wedd hon o’n ffydd ni. Oherwydd y tele-evangelists bondigrybwyll mae pobl yn ofni agweddau mwy profiadol ein ffydd. Codi ofn yn hytrach na chynyddu’r dymuniad i weld yr Ysbryd Glan ar waith mewn modd nerthol mae’r God Channel yn ôl fy mhrofiad i o’i gwylio! Rhaid cydnabod fod rhai carismatiaid yn tueddu i ddyrchafu profiad a theimlad uwchlaw datguddiad Duw i ni ac felly’n darllen y Beibl yn ôl eu profiad yn hytrach nag esbonio eu profiad yn ôl y Beibl. Y mae perygl amlwg i dueddiadau fel hyn. Mae yna duedd hefyd mewn rhai cylchoedd i roi gormod o bwyslais ar yr arweinydd carismataidd – yn y cyswllt hwn nid dim ond y traddodiad Rhufeinig sydd â Phab! Ond maen bosib mae’r perygl mwyaf ymysg rhai cylchoedd yw’r pwyslais peryglus ar gyfoeth ac iechyd – yr health and wealth gospel. Cred rhai bod yna gyswllt uniongyrchol rhwng ffydd a chyfoeth ac iechyd. Os byddwch chi’n rhodio gyda’r Arglwydd yna mi fyddwch yn cael eich gwobrwyo ag iechyd a chyfoeth; ond os fydd dyn yn colli ei swydd neu’n colli iechyd yna fe amheuir ei ffydd! Y mae’r rhain yn dueddiadau cyfeiliornus sydd wedi tyfu allan o’r traddodiad carismataidd a gellir deall pam fod llawer o Gristnogion am ffrwyno’r pwyslais ar brofiad yr Ysbryd Glan yn ein pererindod oherwydd.

Clywais un Cristion yn siarad yn ddilornus am y carismatiaid unwaith gan ddweud eu bod nhw’n ‘rhoi gormod o bwyslais ar yr Ysbryd Glan’. Ystyriais ei eiriau am ychydig cyn atgoffa fi fy hun fod yr Ysbryd Glan yn Dduw, yn gyflawn rhan o’r Drindod gyda’r Tad a’r Mab. A ellir felly rhoi gormod o bwyslais ar yr Ysbryd Glan ag ystyried ei fod yn Dduw? Fe sylwir fod yr eglwysi sy’n rhoi lle teilwng i arweiniad yr Ysbryd Glan yn fwy parod i fentro mewn ffydd gyda dulliau cyfoes a newydd o addoli a chenhadaeth. Ni ddylai “bod yn gyfoes” fod yn ddiben ynddo ef ei hun ond y mae’n bwysig oherwydd ei fod yn ymwneud a’n dyletswydd i ddangos perthnasedd yr efengyl i fywydau pobl o’n cwmpas ni yn 2010. Y mae’r eglwysi carismataidd llawer mwy effeithiol yn cyfathrebu’r efengyl i bobl yn eu sefyllfaoedd go-iawn heddiw. Ond y wers bwysicaf i ddysgu o’r traddodiad carismataidd yw y dylem ni fel Cristnogion fentro mewn ffydd a bod yn ddisgwylgar i’r Ysbryd weithio.

Fe allwn ni barhau i bwyso ar ein traddodiad a’r hyn rydym ni’n gyfforddus a chyfarwydd ag ef. Neu fe allwn ni ail-ddarganfod yr hyn y mae llawer o eglwysi Saesneg carismataidd yng Nghymru wedi ei ddarganfod eisoes. Rhaid dyrchafu Crist, dysgu’r Beibl yn ffyddlon a bod yn halen yn ein cymunedau ond ofer fydd hyn oni fyddwn ni’n fodlon ildio ac ymollwng a’n parchusrwydd crefyddol a galw a disgwyl i’r Ysbryd Glan roi’r anadl o fywyd i’n heglwysi a’n cenhadaeth. Efallai bydd hi’n flêr, efallai fydd yna grio a chwerthin am yn ail ond o leiaf fydd hynny’n arwydd o fywyd!

Deued fflam yr adnewyddiad,
rhodded Gymru oll ar dân;
deuwn ato’n edifeiriol
ac fe droir ein gwarth yn gân:
dwyfol ias, nefol flas
ddaw drwy’r Ysbryd Glân a’i ras.

Please follow and like us: