Yn dilyn ymlaen o’r ddwy gofnod diwethaf am garismatiaeth carwn dynnu sylw at eitem oedd ar raglen John Roberts, Bwrw Golwg, ar Radio Cymru fore dydd Sul. Mae’r rhaglen ar yr awr anghymdeithasol o wyth o’r gloch y bore sy’n rhy gynnar i mi er fod rhaid i mi fod allan yn pregethu erbyn deg. Ond dwi’n tueddu i ddal fyny gyda’r rhaglen ar iPlayer rhyw dro yn ystod yr wythnos.
Tra’n Aberystwyth dros y flwyddyn newydd wnes i sylwi ar erthygl yn y Daily Post oedd yn sôn am ymchwil gan Stefanie Linden o Adran Seicoleg Prifysgol Bangor. Roedd ei hymchwil hi yn ymwneud a’r berthynas rhwng Diwygiad 04-05 ac achosion o bobl yn dioddef o achosion seicotig yn ardal Eryri yn yr un cyfnod. Or hyn deallaf i roedd hi’n dadlau fod perthynas bositif rhwng y ddau beth. Yr hyn daeth i’m meddwl yn syth oedd tybed a oedd Dr. Linden yn gyfarwydd gyda gwaith Dr. Gaius Davies (F.R.C. Psych., M.Phil., DPM) Seiciatrydd Ymgynghorol gynt o Kings College Hospital, Llundain. Mae e’n cyflwyno persbectif ddiddorol oherwydd ei fod ef ar un llaw yn awdurdod ym maes seiciatryddol ond ar y naill law yn ysgrifennu o bersbectif neilltuol Gristnogol sy’n pwyso a mesur y dimensiwn ysbrydol ochr yn ochr a’r ffeithiau seiciatryddol fel petai. Mae e wedi ysgrifennu’n helaeth ond hyd y gwn i yr unig ysgrif ganddo yn astudio Diwygiad 04-05 yn benodol ydy astudiaeth o’r llesmair meddyliol a syrthiodd ar Evan Roberts ei hun yn dilyn y Diwygiad – y mae ei theori yn tybio fod rhywbeth tebyg i Posttraumatic stress disorder wedi syrthio arno yn dilyn cynnwrf a phwysau arwain y Diwygiad.
Wrth gwrs, cafodd John Roberts a’i ymchwilwyr yn y BBC yr un syniad a mi ac fore Sul cawson nhw Gaius ar y rhaglen i gael ei ymateb i ymchwil Stefanie Linden. Y mae’r drafodaeth yn ddifyr tu hwnt. Dyma fe: