Category Archives: Diwylliant

The Godfather, Brexit a’r Ffŵl Cyfoethog (Luc 12:13-21)

Mae yna lawer o sôn wedi bod ar y newyddion wythnos yma ynglŷn â pharatoadau Brexit. Yn arbennig manylion ynglŷn â sut mae’r llywodraeth, y gwasanaeth iechyd a chwmnïau trwy’r wlad wedi bod yn pentyrru nwyddau, bwyd, meddyginiaethau ayb. yn barod ar gyfer Brexit. Yn rhyfedd iawn, roeddwn i’n aros gyda fy rhieni wythnos ddiwethaf ar y ffordd i gyfarfod yn y De ac roeddwn i’n cysgu yn fy hen ystafell wely ac fe wnes i sylwi ar gwpwrdd rhyfedd yr olwg. Dyma fi’n ei agor, ac er mawr syndod i mi dyna lle’r oedd cwpwrdd yn llawn tuniau a jariau o fwyd a deall wedyn mai dyna oedd “Cwpwrdd Brexit” Mam! Dyma ddameg o Efengyl Luc sy’n amserol iawn, dameg sy’n gofyn ymhle mae ein diogelwch a’n sicrwydd? Yn ein gallu i storio mwy a mwy i ni ein hunain? Neu yn rhywle arall?

1. Y galon tu ôl i’r cais

Er mwyn gwneud synnwyr o’r ddameg yma mae’n rhaid i ni ddeall rhywbeth am y cyd-destun lle’r oedd Iesu yn ei rannu. Galwodd rhywun allan ar Iesu ac esbonio fod ei frawd yn gwrthod rhoi iddo ei gyfran o etifeddiaeth y teulu. Roedd yn gobeithio y byddai Iesu yn dweud wrth ei frawd i rannu, dyna oedd y peth cyfiawn i wneud. Ond er bod y brawd iau yn gywir i nodi’r anghyfiawnder, roedd Iesu rhywsut wedi gweld fod yna ddolur mwy angen ei ddelio ag e gyntaf. Cyn delio gyda’r anghyfiawnder penodol yma roedd angen i’r brawd iau, a’r dorf oedd yn gwrando, ddeall rhywbeth am natur cyfiawnder ei hun. Roedd angen dysgu ynglŷn â lle, yn y diwedd, roedd rhywun yn ffeindio gwir ddiogelwch. Neu fel dywedodd Kenneth E. Bailey yn ei esboniad: ‘Jesus refuses to answer the cry but rather strives to heal the condition that produced the cry.’ Ac mae Iesu’n mynd ymlaen i wneud hynny drwy adrodd dameg y ffŵl cyfoethog.

2. Arian ac eiddo fel duw

Roedd y ffŵl cyfoethog yn ymffrostgar: “Fy nghnwd i! Fy ysguboriau i! Fy nwyddau i!” Ar y gwaethaf mae’n adleisio dynion busnes llwyddiannus heddiw – fel y Dragons a’r Dragons Den sy’n ymfalchïo yn y cwmnïau mawr maen nhw wedi eu hadeiladu. Yn ei ffurf fwy cynnil mae’n adleisio’r balchder yna rydym ni i gyd wedi ei ddangos ar ôl cael ffôn, car neu ryw eiddo newydd. 

Yr hyn sy’n ddiddorol am arian ac eiddo yw ei fod wedi clymu’n agos gyda’n hofn o beidio cael digon o arian ac eiddo. Dim ots faint o bethau sydd gyda chi, chi wastad eisiau mwy. Dim ots faint o arian chi wedi cynilo ar gyfer diwrnod glawiog, chi byth a heddwch eich bod wedi cynilo digon. Does byth digon o arian ac eiddo gyda ni ac nid yw’r pryder yna byth yn diflannu. Beth sydd tu ôl i hyn yw’r duedd yna i adael arian ac eiddo fod yn “dduw” yn ein bywyd.

3. Dyn cyfoethog, dyn unig 

Yn y ddameg rydym yn darllen fod y ffŵl cyfoethog yn “Dweud wrthoi hun”, o’i gyfieithu yn llythrennol mae’n debyg fod hyn yn golygu “siarad gyda fe ei hun”. Mewn cymdeithas a diwylliant lle’r oedd hi’n arferol i bawb drin a thrafod penderfyniadau bach a mawr gyda’u teulu a’r gymuned ehangach dyma lle’r oedd y dyn cyfoethog, ond unig, yma yn siarad gyda fe ei hun. Dywedodd y Fam Theresa wrth newyddiadurwr unwaith mai yn y Gorllewin roedd hi wedi gweld y tlodi mwyaf: ‘The most terrible poverty is loneliness…‘ Mae’r ffŵl cyfoethog yma yn dyst i hyn. Mae’r ddameg yma yn ein helpu i diwnio mewn i beth ydy gwir gyfoeth a deall fod yna sawl math o dlodi. Mae’n fy atgoffa o olygfa olaf The Godfather III pan mae Michael oedd unwaith yn oll bwerus, yn llawn cyfoeth a theulu mawr o’i gwmpas yn marw ar ben ei hun nol yn yr hen wlad.

4. “Dwi mynd i fwynhau fy hun…” 

Wrth gyfarch ei hun mae’r ffŵl cyfoethog yn cyfarch ei enaid, ei berson cyfan. Y gair gwreiddiol yn y Roeg yw nepeś sy’n golygu “Soul” neu “Self”. Mae llawer o Gristnogion heddiw yn gwneud y camgymeriad o feddwl am y “Soul”/“Enaid” fel y rhan ysbrydol o’n person a’n bodolaeth. Ond syniad anghristnogol sydd wedi ei fenthyg o athroniaeth Roegaidd yw’r syniad fod y corff a’r ysbryd yn ddau beth ar wahân fydd yn cael eu gwahanu yn derfynol yn nhragwyddoldeb. I’r Hebreaid, ac felly i ni hefyd os ydym ni am ddeall y Beibl yn iawn, pan mae yna sôn am “Soul”/“Enaid” beth mae’n golygu yw’r person cyfan – yn gorff ac yn enaid.

Mae esboniad Kenneth E. Bailey yn esbonio’r arwyddocâd y peth yn dda:  

“The division between body and soul … was foreign to the Hebrew mind where the nepeś – the self, the whole person – was an undissolvable composite of body and spirit. Thus for Paul, resurrection included the resurrection of the body, which he defined as a “spiritual body” (1 Cor 15:44). It follows that there is no “spiritual gospel” that can be endorsed in isolation from the reality of the physical world that God created, called “good” and into which he placed human beings. This combination of the spiritual and the physical and its relationship to God is at the heart of the teachings of Jesus.”

Kenneth E. Bailey, ‘Jesus Through Middle Eastern Eyes: Cultural studies in the Gospels’

Roedd y ffŵl cyfoethog yn meddwl fod ei hun/enaid (h.y.. ei berson cyfan) yn hapus gyda phethau materol a dim mwy. Ond er mwyn i’w enaid wir orffwys roedd e angen trysor yn y nef. Hynny yw, roedd e angen gwneud yr un nefol yn drysor iddo fe. Roedd y ffŵl cyfoethog yn ffŵl oherwydd wrth weld ei ysguboriau yn llawn a dweud fod e nawr am eistedd nôl a mwynhau ei hun roedd e’n dweud: “This is as good as it gets”. Ac ar ryw wedd roedd e’n iawn, oherwydd heb Dduw y bywyd yma fel y mae hi yw “As good as it gets”. Ond y newyddion da roedd Iesu yn dysgu oedd: gyda Duw “This is as bad as it gets”, mae y gorau eto i ddod.

5. Y ffŵl! 

Mae Iesu’n dod a’r ddameg i ben drwy alw’r dyn sydd â thipyn o feddwl ohono ei hun yn ffŵl. Mae e’n amlygu ei wir dlodi a’i unigrwydd drwy ddweud, yn y diwedd, fod y trysor oedd ganddo ddim yn cyfri dim. Y gwir amdani yw ein bod ni i gyd, i ryw raddau neu’i gilydd, wedi syrthio i drap y ffŵl yma. Ond y newyddion da yw bod Iesu yn ein gwahodd i ffeindio heddwch i’n henaid wrth gyfri Iesu fel trysor. Mae yna hen emyn enwog Saesneg sy’n dweud: It is well, With my soul, It is well, it is well, with my soul.

Twyllo ei hun roedd y ffŵl cyfoethog yn gwneud wrth ganu’r geiriau yma yn edrych allan dros ei ysguboriau. Ond heddwch dwfn y gallwn ni brofi wrth ganu’r geiriau yma a diolch fod Duw yn Iesu wedi ein caru ni.

Ond beth bynnag am y ffŵl yn y ddameg beth am y brawd ofynnodd y cwestiwn i Iesu ar y dechrau? A ddylai’r brawd hŷn rannu hanner ei eiddo gyda’i frawd iau? Wrth gwrs y dylai, dyna’r peth cyfiawn i wneud. Ond roedd Iesu eisiau dangos iddo a dangos i’r byd fod gwir gyfiawnder dim ond yn bosib ar ôl i ni ddod dan adain Teyrnas cyfiawnder ac ildio i gyfiawnder ei hun sef Iesu Grist.

Please follow and like us:
error

Pryder a gor-bryder

Mae yr erthygl yma yn addasiad o sgwrs/pregeth sy’n rhan o gyfres ‘Pobl gobaith mewn byd o ofn’ o Caersalem Caernarfon.

Beth, tybed yw eich pryder mwyaf? Oes gennych chi ryw fath o ffobia? Tybed ydych chi’n dioddef o chorophobia ac yn ofn dawnsio? Neu beth am geliophobia ac yn ofn chwerthin? Neu’r gwaethaf ohonynt: phobophobia sef yr ofn o gael ffobia!?

Mae’n hawdd chwerthin wrth glywed am y ffobias yma ond y realiti yw ein bod ni i gyd yn ofn rhywbeth. A mwy na thebyg fod yr ofn yna, ar ryw adeg, wedi arwain i or-bryder sef anxiety. Ac i rai mae’r gor-bryder yna yn salwch difrifol sy’n rheoli eu bywyd ac yn rhywbeth maen nhw’n gorfod byw gyda bob dydd.

Mae arbenigwyr yn dweud fod datblygiadau technolegol yn gwneud i’n cymdeithas ni heddiw gario hyd yn oed mwy o bryder na’r genhedlaeth flaenorol. Pwy tybed sydd wedi cael rhyw banig bach pan rydych chi’n ffeindio eich hun yn rhywle heb signal ffôn? Pwy tybed sy’n clywed eich ffôn yn pingio, ond ar y pwynt yna chi methu edrych ar y neges ond tan eich bod chi yn gallu darllen y neges rydych chi’n hollol distracted a methu meddwl am ddim byd arall? Mae rhywbeth am dechnoleg a’n diwylliant cyfoes sy’n chwarae ar y duedd yma sydd ynom ni i boeni am bethau.

Ond er bod pryder a gor-bryder yn dangos ei hun mewn ffordd newydd ym mhob oes mae e’n rhan o’r profiad dynol ac felly mae hyd yn oed gan y Beibl – cyfres o lyfrau gafodd eu tynnu at ei gilydd bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl rhywbeth i ddweud am y cyflwr.

“Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi – y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg – yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.”

Philipiaid 4:6-8

Cyd-destun y pryder roedden nhw’n ei brofi fan hyn oedd tensiwn rhwng dau berson yn yr eglwys yn Philipi. Mae tensiwn sydd heb ei ddatrys rhwng pobl dal yn ffynhonnell pryder a gor-bryder heddiw. Ond beth bynnag yw’r rheswm tu ôl i’ch pryder chi gobeithio bydd y pwyntiau isod yn help:

1. Enwch y pryder

Yn gyntaf, mae angen i chi enwi’r pryder sydd yn eich bywyd. Beth yw’r eliffant yn y stafell? Ydych chi bob amser yn poeni am rywbeth? Pa bethau sy’n tueddu i’ch rheoli chi? Am beth ydych chi’n tueddu i boeni? Oes yna bethau sy’n iawn i boeni amdanyn nhw, fel gyrru yn ddiogel, ond wedyn chi’n gadael i’r pryder yna fynd allan o reolaeth a throi yn or-bryder a chi’n osgoi mynd i lefydd oherwydd ei fod e’n golygu gyrru eich car? Mae’r weithred o enwi’r pryder yn aml yn gam cyntaf da i symud tuag at ddelio gydag e. 

2. Adnabod y pryder

Ar ôl enwi’r pryder ceisiwch weld sut mae’r pryder hwnnw yn amlygu ei hun yn eich bywyd. Edrychwch allan am yr arwyddion. I rai pobl, y teimladau o banig falle. I eraill efallai fod rhyw syniad neu ryw senario yn ail-adrodd ei hun drosodd a throsodd yn eich meddwl. I eraill rydych chi’n ffeindio eich hun yn gwneud esgusodion er mwyn cuddio’r pryder e.e. peidio mynd i gyfarfod ffrindiau. I bobl eraill, mae pryder yn dangos ei hun mewn salwch corfforol e.e. cur pen, methu cysgu ayb. I rai, falle eich bod chi’n troi i comfort eating, neu hyd yn oed i yfed fel ffordd o beidio wynebu’r pryder? Mae’n bwysig sylwi ar yr arwyddion. Mae’n gam enfawr ymlaen pan rydych chi’n gallu adnabod yr arwyddion yn eich bywyd – gweld y golau coch ac yna ceisio peidio mynd yna a gadael i’r pryder eich llorio.

3. Gofynnwch pam eich bod chi’n pryderu?

Yn drydydd, gofynnwch i’ch hun, pam ydw i’n bryderus? Mae pryder, fel arfer, yn dechrau fel rhywbeth rhesymol sydd wedyn yn mynd allan o reolaeth. Ydw i’n chwilio am berthynas, ond ddim yn ei ffeindio? Ydw i’n chwilio am heddwch sydd byth yn dod? Ydw i’n chwilio am sicrwydd sydd jest ddim yna? 

Ac yn olaf, a dwi’n dewis fy ngeiriau yn ofalus fan hyn, oes yna bechod – rhywbeth sy’n dod rhyngoch chi a Duw – yn bwydo mewn i’ch pryder? Nid fod dioddef o bryder yn arwydd fod yna bechod yn eich bywyd. Dim ond fod pechod yn gyfrwys ac yn aml yn mynd ar ôl ein gwendid ac yn gallu cymryd mantais a hawlio ei le.

4. Cyflwynwch eich pryder i Iesu

Felly, ar ôl enwi, adnabod a deall patrwm ein pryder beth rydym ni mynd i wneud am y peth? Gadewch i ni edrych ar gyngor Paul i’r Philipiaid 4.6-8: ‘Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi.’ Dydy Paul ddim yn dweud ‘Pull yourself together’ neu ‘Snap out of it’ neu rywbeth flippant fan yma. Beth mae’n ei olygu yw: peidiwch â gadael iddo eich rheoli.

‘Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen …’ Cyflwynwch eich pryder i Dduw a gadewch iddo fe gario’r pryderon yna chi wedi bod yn cario ar ben eich hun cyn hynny.

‘… a byddwch yn ddiolchgar bob amser.’ Beth bynnag yw eich pryderon, mae’n siŵr fod yna gymaint os nad mwy o bethau i ddiolch amdanyn nhw hefyd. Mewn geiriau eraill: mae’n bwysig cael persbectif. Ydych chi wedi bod yn edrych ar eich bywyd trwy’r lens anghywir? 

Os wnawn ni roi ein pryderon i Iesu, fydd bywyd ddim yn sortio ei hun allan dros nos – ond bydd e’n gwneud gwahaniaeth gadael i Dduw gerdded gyda ni trwy ein pryderon.

6. Rydych chi’n rhydd! Felly, peidiwch a gadael i’ch pryder eich diffinio

Yn olaf, er bod y Cristion fel pawb arall yn cario pryderon a bod y pryderon hynny yn gallu arwain at y salwch o or-bryder, nid oes rhaid i’r cyflwr ddiffinio pwy ydych chi. Oherwydd pwy ydych chi yn Iesu (neu beth sydd ar gynnig i chi os nad ydych eto yn dilyn Iesu) does dim angen i’r pryder yna eich diffinio chi mwyach. Nid chi yw’r pryder a does gan y pryder ddim gafael ynoch chi.

Yn y byd meddygol mae rhai pobl sy’n dioddef o or-bryder yn cael y cyfle i drio Cognitive behavioural therapy (CBT).

CBT is based on the concept that your thoughts, feelings, physical sensations and actions are interconnected, and that negative thoughts and feelings can trap you in a vicious cycle. CBT aims to help you deal with overwhelming problems in a more positive way by breaking them down into smaller parts. You’re shown how to change these negative patterns to improve the way you feel. Unlike some other talking treatments, CBT deals with your current problems, rather than focusing on issues from your past. It looks for practical ways to improve your state of mind on a daily basis.

Gwefan NHS

Dwi am awgrymu fod CBT, neu fath o CBT, i’w weld yn y Beibl. Drwy droi ein ffocws oddi wrthym ni ein hunain a’n pryderon a tuag at Iesu sy’n ein rhyddhau gall afael pryder arnom ni gael ei ryddhau. Drwy ffocysu wedyn ar fyw bywyd o gariad mewn ymateb i gariad Iesu atom ni rydym ni’n torri allan o’r cylch dieflig o adael i’n hofnau ein rheoli ni.

Yng nghanol byd o bryder mae gor-bryder yn broblem real sy’n rhwystro llawer rhag profi cariad, heddwch a bodlonrwydd. Mae’r Duw wnaeth ddewis dod mewn i’r byd yn gweld ein pryderon ac yn ein gwahodd i’w cyflwyno iddo fe. Dyma sut mae Cristnogion, hyd yn oed rhai sy’n stryglo gyda gor-bryder, yn gallu bod yn bobl gobaith mewn byd o ofn.

Please follow and like us:
error

Adolygiad: Inspiration and Incarnation gan Peter Enns

Roeddwn i wedi clywed am Peter Enns ers blynyddoedd ac wedi gwrando ambell dro ar ei bodlediad, The Bible for Normal People, ond dyma oedd y llyfr cyntaf i mi ddarllen ganddo. Mae’n awdur dadleuol ac mi wnaeth cyhoeddi’r llyfr hwn arwain yn y diwedd i ymddiswyddiad Enns fel Athro Hen Destament Coleg Diwinyddol enwog Westminster Philadelphia. Os ydw i wedi deall yr hanes yn iawn fe wnaeth Enns neidio cyn iddo gael ei wthio gan fod y mwyafrif o’i gyd-athrawon yn y Coleg yn meddwl fod y llyfr yn mynd tu hwnt a thu allan i’r traddodiad diwinyddol diwygiedig-efengylaidd roedd cyfansoddiad y Coleg yn mynnu fod pob athro yn ffyddlon iddo.

Cyn dweud dim byd mwy mae’n bwysig i mi nodi nad ydw i erioed wedi astudio astudiaethau Beiblaidd ar lefel academaidd felly roeddwn i’n darllen y llyfr fel Cristion cyffredin ac felly yn ôl y safon yna, ac nid safon academaidd, rwy’n mesur y llyfr.

Prif amcan Enns yn y llyfr yw awgrymu trydedd ffordd rhwng rhyddfrydiaeth ddiwinyddol – sy’n defnyddio beirniadaeth Feiblaidd i danseilio awdurdod y Beibl – a diwinyddiaeth efengylaidd sydd wedi arfer ‘esbonio i ffwrdd’ beirniadaeth Feiblaidd mewn ymgais i warchod awdurdod y Beibl. Mae Enns yn cynnig llwybr canol sef dilyn cyfatebiaeth o’r ymgnawdoliad, neu fel mae Enns yn dweud: “…as Christ is both God and human, so is the Bible.”

Wrth drafod yr holl ddatblygiadau modern sydd wedi dangos fod yr athrawiaeth draddodiadol o’r Beibl yn dod yn gynyddol ansad beth mae Enns yn ceisio ei wneud ydy dangos sut nad yw cydnabod dyndod a chyd-destun diwylliannol y Beibl yn tanseilio ei awdurdod. Mewn ffordd debyg i sut nad oedd dyndod Iesu yn tanseilio ei Dduwdod.

Rwy’n cydnabod y gallai’r llyfr fod yn heriol, efallai yn rhy heriol, i rai Cristnogion. Ar y gorau gallai wneud rhai yn grac, ar y gwaethaf gallai arwain at ddatgymalu ffydd rhai sydd ddim wedi eu harfogi i ofyn cwestiynau critigol adeiladol am eu ffydd. Ond i eraill sydd eisoes yn ymgodymu a rhai o’r cwestiynau am awdurdod a chefndir diwylliannol y Beibl gall y llyfr fod yn gymorth i ail-sefydlu ffydd yn Iesu ar sail gwerthfawrogiad newydd o’r Beibl. Ar ryw ystyr felly nid yw’r llyfr yn un i bawb a dyna’r rheswm, i raddau, pam fy mod i wedi ei ddarllen: dwi wedi ei ddarllen fel bod dim angen i chi.

Y prif beth wnaeth argraff arni i wrth ddarllen y llyfr oedd trafodaeth Enns am hanesyddiaeth yr Hen Destament. Hynny yw sut a pham roedd awduron yr Hen Destament yn cofnodi hanes a pam fod deall hyn wedyn yn ein harwain ni i ddeall y Beibl yn well yn ei gyd-destun gwreiddiol.

Un camgymeriad a wneir yn gyson gan Gristnogion modern, yn ôl Enns, yw darllen a cheisio deall y Beibl yn yr un ffordd ac rydym yn darllen a deall ffynonellau modern – yn arbennig felly rhannau o’r Hen Destament sy’n cyflwyno hanes. Nid oedd hanes yn cael ei gofnodi a’i adrodd yn yr un ffordd ac yr ydym ni’n cofnodi hanes heddiw. Camgymeriad felly yw dal hanesyddiaeth yr Hen Destament i fyny i’r run safon a meini prawf ag y byddem yn ei ddisgwyl gan waith hanesyddol modern heddiw. 

Beth a geir yn llawer o’r Hen Destament ydy cyflwyno hanes fel “myth”. Mae’n bwysig nodi yn syth fod Enns ddim yn golygu “myth” yn yr ystyr o fod yn alegori, yn stori dylwyth teg neu yn rhywbeth sydd wedi ei wneud i fyny. Beth mae’n ei olygu yw bod hanes yn cael ei gofnodi a’i basio mlaen yn y Beibl yn defnyddio techneg neu genre llenyddol gwahanol i be fydde ni heddiw yn meddwl amdano wrth feddwl am hanes:

‘It is important to understand, however, that not all historians of the ancient Near East use the word myth simply as shorthand for “untrue,” “made-up,” “storybook.” It may include these ideas for some, but many who use the term are trying to get at something deeper. A more generous way of defining myth is that it is an ancient, premodern, prescientific way of addressing questions of ultimate origins and meaning in the form of stories: Who are we? Where do we come from?’

Peter Enns, Inspiration and Incarnation

Drwy ddal hanesyddiaeth yr Hen Destament i fyny i safon fodern rydym yn colli beth sydd yn mynd ymlaen a’r gwirionedd mae’n ceisio ei gyfleu yn unol â chonfensiwn y cyfnod o gofnodi hanes. Dydy hyn ddim i ddweud fod rhannau o’r Beibl yn colli awdurdod neu ystyr, dim ond i ddweud fod hi’n gamgymeriad parhau i’w darllen fel y mae’r eglwys yn y Gorllewin wedi bod yn eu darllen yn y canrifoedd diwethaf. Enns sy’n esbonio eto:

“It is a fundamental misunderstanding of Genesis to expect it to answer questions generated by a modern worldview, such as whether the days of creation can be lined up with modern science, or weather the flood was local or universal. The question that Genesis is prepared to answer is whether Yahweh, the God of Israel, is worthy of worship.”

Peter Enns, Inspiration and Incarnation

Mae Duw wedi datguddio ei hun i ni yn y Beibl ond, yn unol â chyfatebiaeth ymgnawdoliad Enns, mae’r datguddiad yn gyson gyda’r hyn roedd pobl a diwylliant yn gyfarwydd ag e ar y pryd ac nid felly gyda sut mae diwylliant ôl-oleuedigaeth fodern yn deall pethau. Enns eto:

“We will not understand the Bible if we push aside or explain away its cultural setting, even if that setting disturbs us. We should, rather, learn to be thankful that God come to them just as he did more fully in Bethlehem many, many centuries later. We must resist the notion that for God to enculturate himself is somehome beneath him. This is precisely how he shows his love to the world he made.”

Peter Enns, Inspiration and Incarnation

Sgwennwyd y llyfr gan rywun oedd yn ystyried ei hun yn Gristion efengylaidd ac yn athro mewn coleg efengylaidd. Wn i ddim a ydy Peter Enns dal yn ystyried ei hun yn Gristion efengylaidd heddiw, yn sicr nid yw llawer o Gristnogion efengylaidd yn ei ystyried yn un ohonyn nhw a’r llyfr yma oedd y ‘red flag’ cyntaf fod Enns, yn eu golwg nhw, yn llithro i lawr y llwybr llithrig. 

Ond ar sail yr un llyfr yma o eliaf rwy’n meddwl y gall Enns fod yn ffrind. I fi o leiaf mae cyfatebiaeth Enns o fod y Beibl, fel Iesu, yn waith dynol ac yn waith dwyfol yn cynnig fframwaith i gadarnhau awdurdod y Beibl yn wyneb cwestiynau lletchwith mae’r traddodiad efengylaidd fel arfer yn eu hanwybyddu neu yn cynnig atebion slic ac annigonol iddyn nhw. 

Please follow and like us:
error

Gwyliau Cristnogol a’r Eglwys Leol

Dros y blynyddoedd mae nifer o bobl wedi dweud wrtha i fod Caersalem “wedi elwa o Souled Out” (sef cwrs ieuenctid hŷn ac oedolion ifanc Coleg y Bala), “wedi elwa o Llanw” (gŵyl Gristnogol gyfoes Gymraeg) neu “wedi elwa o Soul Survivor” (gŵyl fawr Gristnogol Saesneg) ayb. Mae hynny yn wir. Mae rhai wedi mynd i’r gwyliau Cristnogol yma heb fod yn mynd i’r capel a dod adre ac yna cychwyn dod i Gaersalem. Mae eraill wedi bod yn mynd i un capel, mynd i ŵyl Gristnogol, ac yna dod adre a dod i’n capel ni yn lle’r capel roedden nhw’n mynd iddi yn flaenorol. Do, rydym wedi elwa.

Er ein bod yn ceisio bod yn eglwys genhadol ei naws nid ydym wedi gwneud ymdrech i ddenu Cristnogion o eglwysi eraill atom ni. Beth sydd wedi digwydd felly? Rydym ni wedi ceisio addasu’r ffordd rydym yn ‘gwneud eglwys’ er mwyn cynnwys yr ieuenctid hŷn a’r oedolion ifanc drwy:

  • ymddiried a buddsoddi ynddynt a rhoi cyfle iddynt arwain eu hunain ac nid dim ond rhoi arweiniad iddynt hwy,
  • newid yr addoliad i fod yn fwy cyfoes
  • ceisio paratoi pregethau byrrach a mwy perthnasol,
  • meithrin ymdeimlad o weinidogaeth tîm yn yr eglwys lle mae pawb (sydd eisiau) yn rhan o weinidogaeth yr eglwys.
  • Ond yn fwy na dim wedi ceisio gwneud yr Efengyl ei hun yn fwyaf blaenllaw dros draddodiad a cheisio rhoi profiad byw a real i bobl o Gristnogaeth.

Y peth hyfrytaf am hyn i gyd yw ein bod wedi llwyddo i gadw undod yr eglwys a bod y (rhan fwyaf) o’r criw hŷn wedi mynd ar y daith gyda ni oherwydd efallai fod yr arddull ddim wastad at eu dant nhw OND maen nhw’n deall fod yn rhaid i’r eglwys ddiwygio ei hun yn barhaus er mwyn ei genhadaeth Ef a bod yr efengyl ei hun yn llawer pwysicach na pha gyfrwng neu idiom ddiwylliannol y defnyddir i’w chyfleu.

I fi, er bod gwyliau a chyrsiau Cristnogol fel Llanw a Souled Out yn werthfawr ynddyn nhw eu hunain, eu pwysigrwydd pennaf yw’r effaith y gallant gael ar yr eglwys leol fel rydym ni wedi ei brofi yng Nghaersalem. Ond i eglwysi lleol dderbyn y fendith honno rhaid iddynt gael calon, clust a meddwl agored am sut all Dduw wneud rhywbeth newydd yn eu mysg ac nid jest gweld gwyliau a chyrsiau Cristnogol fel recruitment drive i jest cynnal yr eglwysi lleol fel y maen nhw a heb newid am genhedlaeth arall.

Fe ddylai’r gwyliau Cristnogol yma wneud mwy i ddysgu am bwysigrwydd yr eglwys leol ac arfogi pobl ifanc i fyw mewn cymuned Gristnogol lle nad yw pawb yr un oedran a nhw a lle na fydd yr arddull wedi ei gywreinio’n benodol iddyn nhw bob tro. Ond cyn pwyntio bys at Spring Harvest, Coleg y Bala, Llanw ayb. beth am edrych yn nes at adre a holi pam nad yw’r fendith yn y gwyliau yma yn cyfieithu bob tro i adfywiad ym mywyd yr eglwys leol? Fel y dywedodd Albert Einstein unwaith: “The definition of insanity is doing the same thing over and over again, but expecting different results.”

Please follow and like us:
error

Ydw i’n efengýl?

Yn ddiweddar wnes i glywed Sally Mann yn siarad am y modd mae efengyliaeth (evangelicalism) fodern wedi dod i fod yn rhywbeth eithaf gwahanol i’r math o Gristnogaeth efengylaidd y cafodd hi ei magu ynddo heb sôn am be roedd y mudiad yn ei gynrychioli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd efengylwyr fel William Wilberforce ar flaen y gad yn ymgyrchoedd radical eu dydd, a hynny oherwydd eu ffydd efengylaidd nid er gwaethaf.

Aeth Sally Mann ymlaen i rannu am y gwewyr a’r tyndra heddiw rhwng teimlo bod yn rhaid taflu’r label i ffwrdd a’i anghofio ar un llaw, ond rhyw deimlad fod angen adfer ei enw da ar y naill. Ond mewn realiti ei bod hi, rhan fwyaf o’r amser, yn ceisio osgoi’r label yn llwyr.

Roedd profiad Sally Mann yn debyg iawn i fy mhrofiad i. Weithiau dwi eisiau anghofio am y label yn llwyr, dro arall dwi eisiau adfer ei enw da ond rhan fwyaf o’r amser dwi’n trio ei osgoi gan nad yw’n label gellid ei ddefnyddio heb cryn dipyn o esbonio.

1. Ni allaf ddianc rhag hon

Ond dydy ei osgoi ddim wir yn opsiwn i mi oherwydd er y pwyslais efengylaidd fod yn rhaid i chi gael eich ail-eni i fod yn Gristion nid oes rhaid i chi gael eich ail-eni i fod yn “efengýl” – mae’n label diwylliannol i raddau mae llawer yn cael ei eni i mewn iddo fel y gwnes i. Yn yr un ffordd ac mae gen i ffrindiau sy’n cyfri eu hunain yn Annibyns er eu bod heb dyllu capel annibynnol ers gadael ysgol. Cyn dod at yr hyn rwy’n ei gredu, rwy’n efengýl o ran fy nghefndir diwylliannol, dyna pwy ydw i – ni allaf ddianc rhag hon.

2. Label sy’n sticio

Yr ail reswm na fedra i ddianc rhag y label yw oherwydd ei fod yn sticio. Er nad ydy’r teitl efengylaidd yn agos i enw fy eglwys nac ar ein gwefan na’n llenyddiaeth dwi’n gwybod fod rhai yn adnabod ein heglwys fel “yr un efengylaidd” yn ein tref, er mawr ddoniolwch (a siŵr a fod balchder) i Mam! Hefyd, mae y byd Cymraeg yn fach: dim ond llynedd ges i nyrs yn Ysbyty Gwynedd yn fy nghyfarch fel y “boi o’r Gorlan” dros ddeg mlynedd ar ôl i mi weithio yn y Gorlan diwethaf a pymtheg mlynedd ar ôl iddi hi fod yn maes b diwethaf. Rwy’n gobeithio mod i wedi creu argraff am y rhesymau iawn … ond eto dwi ddim yn hollol sicr! Efengýl fydda i yn llygaid llawer am byth nawr dim ots lle aiff taith bywyd a fi a beth fydda i’n ei gredu! Mae’n label sy’n sticio.

3. Lle dwi’n teimlo ‘adre’

Y trydydd rheswm pam na alla i ddianc rhag y label yn llwyr ydy oherwydd er mod i’n aml yn teimlo ar ymylon y traddodiad efengylaidd, eto dyma yw’r adain o’r eglwys dwi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus ynddi. Er ei brychau, rwy’n teimlo fod rhywbeth yma gwerth ymladd drosti.

Er mod i’n ffeindio fy hun yn aml yn cytuno gyda beirniadaeth traddodiadau Cristnogol eraill (gan gynnwys y traddodiad rhyddfrydol) y efengyliaeth dwi byth yn gyfforddus gyda lle mae traddodiadau eraill yn glanio ar ol cynnig beirniadaeth o broblemau Cristnogaeth efengylaidd. Dwi’n meddwl mai D.A. Carson esboniodd y peth orau drwy nodi fod Cristnogion efengylaidd a rhyddfrydol, fel ei , yn cam-ddeall a cam-ddehongli’r Beibl yn aml ond bod yna wahaniaeth ‘qualitative’ rhwng y ddau draddodiad. Mae y traddodiad rhyddfrydol yn taflu allan y Beibl yn llawer rhy hawdd tra fod y traddodiad efengylaidd, yn aml yn cam-ddehongli, a hyd yn oed pan fo’r dehongliad yn gywir fod yr ysbryd efallai ar goll, ond o leiaf bod y traddodiad efengylaidd yn ymdrechu i ymrafael a’r gwirionedd yn hytrach na bodloni ar ymgolli mewn amheuaeth a dirgelwch parhaus. A dyna pam mod i’n teimlo ‘adre’ ar begwn mwy agored y traddodiad efengylaidd yn fwy nag ar begwn mwy ceidwadol y traddodiad rhyddfrydol.

4. Traddodiad (dylai fod yn) eang

Y pedwerydd rheswm yw oherwydd mod i’n credu ei fod (neu o leiaf fe ddylai fod) yn draddodiad Cristnogol digon eang i gynnwys cryn dipyn o Gristnogion. Drwy ddewis canolbwyntio ar yr “hanfodion” fe ddylai fod yn draddodiad sydd wedyn yn rhoi mwy o ryddid pan mae’n dod i bethau sydd ddim yn cael eu hystyried yn hanfodol. Mae pwyslais mawr ar y dylai yn y pwynt yma oherwydd mewn realiti rwy’n gwybod nad ydy rhai Cristnogion efengylaidd yn fy ystyried yn un ohonyn nhw bellach; nid oherwydd fy nghredo am bethau hanfodol ond oherwydd mod i’n credu y dylai merched bregethu, a materion tebyg.

Ond dwi’n gynnyddol ddod i weld fod eu dehongliad o’r hanfodion yn llywio eu barn am ail bethau yn fwy nag oeddwn i’n gynt wedi ei werthfawrogi. Mae dealltwriaeth a dehongliad rhywun o’r hanfodion felly yn bwysig – dim ond hyn a hyn o’r ffordd y gall rhestr o ddogmau fynd a ni i ddeall beth yw ”Cristnogaeth efengylaidd” oherwydd gall dau berson gwahanol gytuno a chredu yn yr un gyffes ffydd ond gall eu dehongliad o’r gyffes ac yna eu gweithio allan ohoni mewn bywyd fod yn dra gwahanol. Dydy e ddim mor syml a dweud mai “pobl efengylaidd ydy pobl sy’n credu xyz”.

Beth yw’r hanfodion?

A siarad am yr hanfodion – beth yn union ydyn nhw? Mae pobl sydd wedi treulio eu hoes yn astudio hanes y traddodiad efengylaidd yn dweud ei fod yn draddodiad neilltuol o anodd ei ddiffinio gan ei fod yn llawer mwy eang ei gredo, amrywiol ei fynegiant a rhyngwladol ei leoliad nac y mae llawer yn ei werthfawrogi. Ond rwy’n meddwl fod diffiniad David Bebbington yn ddefnyddiol sef er y gwahanol bwysleisiadau o le i le ac o oes i oes fod modd dweud yn gyffredinol fod efengylwyr ym mhob oes wedi pwysleisio’r pedwar peth yma:

conversionism, the belief that lives need to be changed; 

activism, the expression of the gospel in effort; 

biblicism, a particular regard for the Bible; 

and what may be called crucicentrism, a stress on the sacrifice of Christ on the cross.

– David Bebbington

I fi mae diffiniad Bebbington yn ddigon penodol ond eto yn ddigon eang oherwydd, er enghraifft, er bod sôn am dröedigaeth nid oes sôn yn benodol sut dylai hynny edrych. Er yn sôn am ymdrech/buchedd y Cristion nid oes sôn penodol sut nac ym mha feysydd o fywyd a chymdeithas. Er y pwyslais ar y Beibl nid oes sôn am ddehongliad penodol o’r Beibl. Er y pwyslais ar waith Iesu ar y Groes nid oes sôn am oblygiadau penodol i waith aberthol Iesu. Hynny yw, galla i ddychmygu y byddai Mike Pence, er enghraifft, yn cytuno i’r crynodeb uchod fel ag yr ydw i. Ond mae’n bur debyg y byddai ein dealltwriaeth o’r pedwar pwynt a’u hoblygiadau yn bur wahanol.

Felly yn yr un ffordd a ddyfeisiwyd y label efengylaidd yn wreiddiol gan fod y label “Cristion” neu “Cristnogaeth” wedi mynd yn ddiystyr, heddiw mae’r label “efengylaidd” wedi mynd yn ddiystyr hefyd – rhaid wrth esbonio a gweld ffrwyth y ffydd.

Ydw i’n efengýl?

Felly ydw i’n Gristion Efengylaidd? Wel, mae’n dibynnu’n llwyr beth rydych chi’n ei olygu wrth hynny! Dwi’n meddwl fy mod i, ond bydd angen esbonio beth rydw i’n ei olygu a beth nad ydw i’n ei olygu a sut mae yr hyn rwy’n gredu wedyn (i fod) i effeithio sut rwy’n byw. Dyna fydda i’n gobeithio gwneud mewn cyfres o erthyglau dros y misoedd nesaf ac wedyn rhywbryd, efallai, ehangu arynt mewn llyfr.

Please follow and like us:
error

Mae ‘Cenedlaetholdeb Gristnogol’ yn air brwnt heddiw, ond yng Nghymru roedd yn arfer bod yn ddylanwad blaengar a chadarnhaol

Bydd fy llyfr Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones yn cael ei gyhoeddi yn Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg yn Rhydymain ymhen pythefnos ac ar gael ym mhob siop lyfrau Gymraeg a gwales.com wedyn. Yn gobeithio trefnu digwyddiadau eraill dros yr haf i rannu am y llyfr hefyd.

Ces i fy magu ar aelwyd Gristnogol oedd hefyd yn aelwyd genedlaetholgar. Roedd mynd i’r capel ar y Sul a chodi posteri Plaid Cymru yn ddwy ddefod cwbl naturiol na wnes i byth gwestiynu pan oeddwn i’n blentyn. Mae gen i lond trol o atgofion plentyndod hapus o fynd i weithgareddau’r capel a hefyd o fynd o gwmpas Comins Coch gyda fy nhad adeg lecsiwn yn dosbarthu taflenni’r Blaid. I’n teulu ni roedd ein Cristnogaeth a’n Cymreictod yn ddeubeth oedd yn eistedd yn naturiol o gyfforddus gyda’i gilydd. Ond maes o law, a finnau erbyn hyn yn fy arddegau ac yn cwestiynu popeth, dyma fi’n dod ar draws ffenomenon nad oeddwn i wedi dod ar ei draws o’r blaen sef Cymry Cymraeg oedd yn dewis addoli mewn eglwysi Saesneg! A maes o law dyma fi’n dechrau clywed rhai Cristnogion yn dweud fod hynny oherwydd bod ‘yr efengyl yn bwysicach nag iaith’.

Erbyn diwedd fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd fe drodd y posteri Plaid Cymru yn blacardiau Cymdeithas yr Iaith ac er mod i dal i fynd yn hapus i’r capel bob dydd Sul roeddwn yn barod i gwestiynu’n fwy y credoau roeddwn wedi derbyn yn ddi-gwestiwn cyn hynny. Er i’m rhieni fy annog i ymgodymu a chwestiynau mawr ffydd ac i daflu fy hun i frwydr yr iaith nid oedd fy ngwrthryfel yn rhyngu bodd pob Cristion y deuthum ar eu traws. Dwysaodd yr argyfwng oedd yn fy rhwygo ar ôl cyrraedd y Brifysgol gan fod cyfarfod yr Undeb Cristnogol yn aml yn digwydd yr un pryd a chyfarfod Cell Cymdeithas yr Iaith ac felly fe ddiriaethwyd y tensiwn ynof drwy orfod dewis mynd i un cyfarfod ac esgeuluso’r llall. Dywedwyd wrthyf gan rai bod rhaid i mi ddewis – a oeddwn i’n un o griw Duw neu’n un o fois yr iaith?

Tua’r cyfnod yna y gwnes i gyfarfod ag Arfon Jones am y tro cyntaf – daeth i’r Undeb Cristnogol yn Aberystwyth i siarad os cofiaf yn iawn. Ar ôl deall wedyn ei fod ef wedi bod yn weithgar iawn gyda Chymdeithas yr Iaith ar un adeg ac wedi bod ar dân hefyd dros waith yr efengyl yng Nghymru mentrais anfon e-bost iddo yn rhannu am fy ngwewyr. Rwy’n cofio rhannu gydag Arfon fy rhwystredigaeth fod llawer o’m cyd-Gristnogion efengylaidd ddim yn deall fy nghonsyrn dros yr iaith a bod llawer o’m cyd-ymgyrchwyr iaith heb unrhyw ddiddordeb yn fy ffydd. Beth oeddwn i’w wneud ar yr ynys unig hon? Ac fe gofiaf yn iawn sut yr oedd ateb Arfon yn dechrau: ‘Wyt ti’n gyfarwydd gyda gwaith Dr. Tudur?’ Newidiodd hynny bopeth.

Na, nid oeddwn yn gyfarwydd gyda gwaith Dr. Tudur, neu R. Tudur Jones. Wedi fy magu yn nhraddodiad y Mudiad Efengylaidd y Doctor arall, Martyn Lloyd-Jones, oedd pob dim. Ond diolch i Arfon am fy nghyflwyno i waith Dr. Tudur oherwydd yng ngwaith Dr. Tudur – yn arbennig yn ei syniadau am agwedd y Cristion tuag at iaith a chenedl – y ces gyfle i ddeall fy ngwead a’m argyhoeddiadau fy hun. Trwy waith Dr. Tudur y ces gyfle i ddeall pam y’m magwyd ar aelwyd oedd yn gweld ein ffydd a’n cenedlaetholdeb fel deubeth cwbl naturiol oedd yn perthyn i’w gilydd.

Diwedd y stori oedd cael cyfle i astudio syniadau Dr. Tudur am genedlaetholdeb fel doethuriaeth a rhyw fersiwn talfyredig o’r traethawd ymchwil hwnnw yw Tynged Cenedl

Er bod nifer o lyfrau arbennig wedi eu cyhoeddi dros y blynyddoedd diwethaf yn trafod hanes syniadaeth yng Nghymru ers oes Fictoria roeddwn o’r farn fod llawer o’r gweithiau hynny yn methu ag ymdrin â dylanwad ffydd ar syniadaeth wleidyddol rhai o brif ffigyrau’r cyfnod. Rwy’n gobeithio felly fod Tynged Cenedl yn help i Gristnogion heddiw feddwl trwy eu syniadau gwleidyddol o safbwynt diwinyddiaeth Gristnogol a’i fod yn gymorth hefyd i’r Cymry nad ydynt yn meddu ar ffydd ddeall rhyw ychydig am yr argyhoeddiadau Cristnogol fu’n ysgogiad i lawer o genedlaetholwyr y ganrif a fu.

Datblygiad annisgwyl ac anffodus yn y blynyddoedd ers i mi gyflwyno fy nhraethawd ymchwil a chyhoeddi Tynged Cenedl yw’r twf mewn cenedlaetholdeb adweithiol ym Mhrydain o ganlyniad i Brexit ac yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i Donald Trump. Yr hyn sy’n gwneud y datblygiadau yma yn frawychus o safbwynt Cristnogol yw fod llawer o’r twf mewn cenedlaetholdeb adweithiol yn menthyg rhethreg crefydd ac wedi llwyddo i werthu eu math o genedlaetholdeb fel petasai’n ‘Genedlaetholdeb Cristnogol’, yn arbennig felly yn yr Unol Daleithiau. Mae nifer o lyfrau Saesneg wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar yn trafod y ffenomenon yma ac yn trafod y rôl mae ideoleg honedig ‘Gristnogol’ wedi ei gyfrannu i dwf ‘white supremacy’, yn arbennig yn yr Unol Daleithiau. 

Felly, yn annisgwyl efallai mae gan R. Tudur Jones a’r traddodiad Cymreig o Genedlaetholdeb Cristnogol lawer i’w ddweud wrth y byd a chymdeithas heddiw. Yn y llyfr mae yna feirniadaeth o fathau o genedlaetholdebau na ddylai’r Cristion a’r eglwys ymlynu a hwy, ond fe gyflwynir math dyrchafol o genedlaetholdeb y gallai’r Cristion a’r eglwys ymlynu â hi. Mae datblygiadau’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos nad perthyn i lyfrau hanes yn unig mae’r testun a drafodir yn Tynged Cenedl – mae’r cwestiwn ynghylch natur a tharddiad cenedlaetholdeb a’i berthynas â ffydd a chrefydd eto’n fyw. 

Please follow and like us:
error

Teyrnged i Euros Wyn Jones

Rydw i dal mewn sioc yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth sydyn Euros Wyn Jones. Dim ond ers rhyw ddeg mlynedd rwy’n adnabod Euros ond bu’n ddylanwad mawr a cyson arna i yn ystod y blynyddoedd hynny.

Y cyswllt cyntaf ges i gydag Euros oedd yn ystod yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg (yr ymgyrch arweiniodd i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Roedd Euros yn frwd dros yr ymgyrch ac yn arbennig yn ei weld fel rhan o’r ateb i warchod addysg ddiwinyddol a Beiblaidd Cymraeg i’r dyfodol. Yna pan wnes i ddechrau’r broses fy hun o gael fy hyfforddi i’r Weinidogaeth roedd Euros yn un o fy athrawon yn y Coleg Gwyn. Er i mi ddysgu rhai gwersi pwysig ymarferol gan y tiwtoriaid eraill, Euros oedd yn rhoi’r sylwedd i ni. Roedd yn byrlymu o ddyfnder a chyfoeth y traddodiad Calfinaidd Cymraeg. A gyda chyn lleied o fyfyrwyr yn y Coleg Gwyn ar y pryd roedd llawer o’r sesiynau yma yn rhai un-wrth-un felly yn naturiol roedd y seminarau a’r darlithoedd yn aml yn troi yn seiat brofiad cyfoethog iawn gydag Euros.

Wedi i mi gychwyn fy ngweinidogaeth yng Nghaersalem Caernarfon fe barhaodd Euros yn ffrind da i mi, ac i Gaersalem fel eglwys hefyd. Roedd yn pregethu gyda ni bob rhyw chwe mis ac yn aml yn sleifio i mewn i gefn y gynulleidfa yn oedfa’r nos os byddai’n digwydd pasio heibio ar y ffordd adref i Langefni ar ôl pregethu rhywle arall yn y bore a’r pnawn. Roedd yn gwbl gyfforddus gyda ni, Fedyddwyr, yng Nghaersalem sy’n bwysig i’w nodi dwi’n meddwl. Er ei fod yn Annibynnwr mawr ac o argyhoeddiad nid oedd yn enwadwr yn yr ystyr cul – roedd yn ystyried yr undeb ysbrydol rhwng Cristnogion o argyhoeddiadau tebyg yn rhywbeth pwysicach.

Dros y ddwy flynedd diwethaf roedd yn cynnal dosbarth Groeg yng Nghaersalem bob pnawn Gwener, ond doeddwn i ddim digon dewr i fentro i’r dosbarth fy hun. A dyna pryd y gwelais Euros y tro diwethaf – pnawn Gwener bythefnos yn ôl. Roedd Euros yno gyda’i ddosbarth Groeg a fi’n ymaflyd codwm gyda peipen ddŵr yn brysur yn llenwi ein pwll bedydd ar gyfer bedydd trochiad y Sul dilynol. Roedd Euros wrth ei fodd yn busnesa ac yn tynnu fy nghoes y byddai powlen fach o ddŵr yn dipyn llai o drafferth. Chwerthin mawr!

Braint arbennig hefyd oedd cyd-weithio gydag Euros dros y flwyddyn ddiwethaf ar y gyfrol Blas ar Gristnogaeth Cymru sef cyfrol olaf R. Tudur Jones y gwnaeth Euros ei golygu a sgwennu pennod clo iddi. Bu Euros yn pwyso ar Aled Davies a fi am flynyddoedd i’w chyhoeddi ac mae rhagluniaeth ryfedd nawr yn adrodd i ni ddod i’w chyhoeddi, o’r diwedd, ond dim ond rai misoedd cyn i Euros farw ac ugain mlynedd ers i Dr. Tudur farw yn sydyn ac annisgwyl hefyd.

Ond y prif reswm i Euros ddod yn ffrind yn fwy nag athro i ni oedd trwy ein cyfeillgarwch gyda Gwenno ei ferch, Dafydd ei fab-yng-nghyfraith a John a Falmai, rhieni Dafydd. Yn dilyn dwy brofedigaeth lem roedd y teulu wedi profi’n barod roeddem ni’n gweld mwy o Euros o amgylch y lle yn ardal Caernarfon wrth iddo warchod ei wŷr ac ati. A thrwy hynny daethom i weld fod Euros yn berson crwn a diddorol iawn – nid oedd dim byd sych am ei Galfiniaeth! Yn gricedwr, yn Eisteddfodwr, yn gogydd cawl cennin heb ei ail, ac yn wneuthurwr diod Ysgawen bendigedig! Mewn ffordd roedd yn Galfinydd cwbl uniongred wrth ymhyfrydu a chael blas wrth addoli Duw ym mhob peth, nid dim ond mewn pethau ysbrydol pur.

Dwi mynd i golli Euros fel ffrind ac fel cefn yng ngwaith y weinidogaeth. Mae Caersalem hefyd yn colli ffrind. Ond yn fwy pwysig mae’r teulu yn colli Tad arbennig iawn. Ond fel Cristnogion nid ydym ni’n galaru fel rhai heb obaith a daw’r gobaith hwnnw i’r amlwg yn y peth olaf y rhannodd Euros ar Facebook sef geiriau Ann Griffiths:

Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae.

Please follow and like us:
error

Man cyfarfod Cymru Fydd: Dyffryn Aman.

Coleg Trefeca

Heddiw roeddwn i’n siarad mewn diwrnod hyfforddiant i Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Ngholeg Trefeca, cyfle a drodd yn daith bersonol ac annisgwyl. Wrth i mi yrru draw i Drefeca roeddwn i’n hel meddyliau ynglŷn â sut i agor y sesiwn – yn trio cofio rhyw hanesyn difyr am Howell Harris neu rywbeth tebyg. Ac yna dyma fi’n cofio fod gen i gysylltiad personol gyda’r lle oherwydd i Dad-cu dreulio cyfnod ar ddechrau ei hyfforddiant fel Gweinidog yno. Nid yn unig hynny ond rwy’n credu mai yno (neu o leiaf dan ddylanwad rhywun oedd yno gydag ef) y daeth i gredu yn Iesu fel Arglwydd a Gwaredwr go-iawn yn gyntaf. Er i Dad-cu gael ei adnabod maes o law fel un o arweinwyr y Mudiad Efengylaidd a Phregethwr grymus efengyl maddeuant fe ddechreuodd ei lwybr i’r weinidogaeth fel Sosialydd – aeth ymlaen yn wreiddiol fel ymgeisydd i’r Weinidogaeth fel ffordd o hyrwyddo’r efengyl gymdeithasol a dim byd arall … ond yna daeth y dröedigaeth.

Wrth hel yr atgofion yma dyma fi’n meddwl – beth am gymryd detour ar y ffordd nol i’r Gorllewin trwy rai o’r pentrefi lle’r oedd Tad-cu wedi gweinidogaethu ond llefydd lle nad oeddwn i (fel oedolyn o leiaf) erioed wedi ymweld â nhw.

Oni bai eich bod chi a rheswm i fynd trwy Gwm Tawe, topiau Dyffryn Aman ac ati, yna ni fyddai rhywun yn mynd trwy’r llefydd yma. Ardaloedd ôl-ddiwydiannol lle mae’r cymoedd yn cyfarfod y wlad, y Gymru ddi-gymraeg yn toddi i mewn i’r Fro Gymraeg. Ardal, tase chi’n cymryd cyllell ati, y byddech chi’n gallu edrych mewn i hanfod yr hyn sydd wedi gwneud Cymru’r hyn ydyw hi heddiw.

Workmens Hall, Garnant

Yn byllau glo, yn gapeli, yn glybiau cymdeithasol, yn ffwrnesi, yn aceri o dir diffaith ac yna yn sydyn cymuned a phawb yn byw ar ben ei gilydd mewn rhes ar ôl rhes o dai teras ond bellach dim arwydd fod gwaith i’r bobl yna. Ambell i Gapel Saesneg i weld fel petai gweithgaredd o’i mewn cyn pasio hanner dwsin o Gapeli Cymraeg yn edrych fel eu bod wedi cau. Ond erbyn hyn y “Welfare” a golwg yr un mor druenus â Siloh, Salem neu Smyrna.

Dirywiad cymdeithasol ac iddo bob math o haenau – ieithyddol, diwylliannol, diwydiannol ac wrth gwrs ysbrydol hefyd.

Wrth yrru trwy Gwaun-cae-gurwen stopiais i chwilio am y capel lle’r oedd Tad-cu yn Weinidog arni yn yr 1960au. Nid yn unig roedd wedi cau erbyn hyn ond roedd yr adeilad hefyd wedi ei dymchwel. Yr unig beth oedd ar ôl oedd pyst y giatiau a rhes o dai new build crand wedi eu codi ar y safle. Yn ystadegol mae dal yn ardal a nifer sylweddol yn siarad Cymraeg – dros 60%.

Ar y ffordd rhwng Cwmllynfell a Brynaman dyma basio hen blacard ‘Jonathan Edwards – Plaid Cymru’ ar ochr y ffordd a chofio mae yma – yn y gymuned ôl-lofaol hon – mae’r bleidlais gryfaf dros Blaid Cymru trwy’r wlad. Nid yn nhref Caernarfon lle mae’r Blaid yn dal gafael o drwch blewyn, nac ymhlith ffermwyr Meirionnydd na chapelwyr Môn lle mae’r Blaid i’w gweld yn stêl bellach; ond yma, yn hagrwch ôl-ddiwydiannol Dyffryn Aman. Yma mae pobl yn pleidleisio fesul berfa dros Adam Price a Jonathan Edwards – dros Blaid Cymru – dros blaid sy’n pregethu Annibyniaeth i Gymru. Beth mae hynny’n dweud wrthym ni? Tybed a’i yma, rhwng y cymoedd a’r wlad, rhwng y di-gymraeg a’r Cymry Cymraeg, rhwng ffydd ac anffyddiaeth, y mae Cymru yn teimlo’r catharsis a’r syched fwyaf am ddyfodol gwell a gwahanol? A’i argyfwng gwleidyddol sydd tu ôl i hyn? Argyfwng diwylliannol? Neu argyfwng ysbrydol? Cyfuniad o’r tri meiddiwn awgrymu.

Yn ddiweddar roedd Densil Morgan yn pregethu yng nghwrdd sefydlu Casi Jones ym Mangor ac un o’r pethau ddywedodd e oedd ei fod e’n caru Cymru … er gwaethaf ei hanghrediniaeth. Dyna i chi ddweud mawr. Mae’n hawdd caru pobl pan mae’r bobl yna’n debyg i chi, yn meddwl yn yr un ffordd a chi a byd olwg tebyg i chi. Ond mae’n cymryd rhywbeth i garu pobl sy’n meddwl yn wahanol i chi … hyd yn oed wedi gwrthod eich byd olwg chi. Ond eto caru yw’r gorchymyn a pharhau i dystio’n ffyddlon.

Golygfa o Mynydd Betws

Aeth Tad-cu i Drefeca fel Sosialydd a dod adref fel Efengylwr. Ar ôl can mlynedd o Sosialaeth a hanner can mlynedd o Gristnogaeth efengylaidd arallfydol (nid fod hynny yn wir am Efengyliaeth fy Nhad-cu cofiwch … er mae y consyrn ysbrydol oedd yn dod gyntaf bob tro, roedd yn credu fod y Beibl yn dysgu efengyl oedd yn newyddion da i’r person cyfan.) dydy Cymru ddim mewn lle gwell – os rhywbeth mae’r argyfwng yn dwysau. Tybed a’i trasiedi Cymru’r ganrif ddiweddaf oedd bod pobl wedi meddwl fod rhaid dewis rhwng mynd ar ôl lles materol neu ysbrydol pobl a chenedl? Rhai wedi mynd i lawr y llwybr sosialaidd … eraill wedi mynd i lawr y llwybr ysbrydol. Tybed a’i syched mawr yr hen ardaloedd dwi wedi teithio trwyddynt heddiw – a syched Cymru yn gyffredinol – yw cael clywed am newyddion da sy’n rhoi gwerth tragwyddol yn ôl i fywyd unigolion ond hefyd yn rhoi urddas a phwrpas iddynt yn y fan a’r Gymru hon lle y maen nhw’n byw hyd nes y daw?

Mae’n hen weledigaeth, ond dyma yw’r stori dwi dal i gredu ynddi a dyma’r stori wnaiff newid stori ein Cymru ni. Y stori am Deyrnas Dduw sydd ar gallu i newid bywydau unigolion, cymdeithas a chenedl gyfan.

Please follow and like us:
error

Y ras arweinyddol a lle Plaid Cymru ar y sbectrwm dde-chwith

Un peth sydd wedi codi unwaith eto yn ystod etholiad arweinyddol Plaid Cymru yw’r cwestiwn am le’r Blaid ar y sbectrwm dde-chwith. Gyda Leanne yn glir ar y chwith, Adam efallai yn fwy tua’r canol erbyn hyn (er y byddai yn gwadu hynny!) â Rhun yn gwrthod cael ei diffinio yn ôl y sbectrwm dde-chwith draddodiadol.

Am sawl rheswm – personol a phroffesiynol – dwi ddim am ddweud yn gyhoeddus dros bwy fydda i’n pleidleisio – mae fy ffrindiau agos yn gwybod.

Fodd bynnag, dwi eisiau dweud rhywbeth am y ras a’r sgwrs o fewn y Blaid ar hyn o bryd. Felly pa beth well na rhannu rhywfaint am y sgwrs a fu rhwng R. Tudur Jones a Gwynfor un o’r troeon diwethaf i’r Blaid fod ar groesffordd – yn benodol gyda’r cwestiwn a oedd hi’n blaid ‘chwith’ neu’r blaid ‘trydedd ffordd’. Mae’r naratif, yn arbennig dylanwad Cristnogaeth ac arweinwyr Cristnogol ym Mhlaid Cymru wedi newid, ond eto mae’n rhoi blas i chi o wreiddiau rhai pwysleisiadau sydd dal i weld yn ideoleg a thraddodiad Plaid Cymru.

Rhai paragraffau allan o un o benodau fy PhD yw gweddill y blog yma…

Yn 1974, bu Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw datgan a oedd Plaid Cymru yn blaid “sosialaidd” ai peidio. Dywedodd Rhys Evans i Gwynfor ‘dan ddylanwad R. Tudur Jones… barhau i ddadlau mai’r ateb i Blaid Cymru oedd aros yn blaid ‘radical’ – plaid fyddai’n cyplysu cenedlaetholdeb a Christnogaeth…’. Gyda Gwynfor yn wynebu misoedd olaf ei lywyddiaeth hir roedd Tudur Jones, un o’i brif gynghorwyr, yn ddi-ildio ar y mater.

“I mi mae’r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda’r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a’r cwbwl trwy ei gilydd a chyda’i gilydd yn galluogi pobl i fyw’n rhydd a ffyniannus – i mi, mae’r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.”

Mae’r weledigaeth hon gan Tudur Jones yn adleisio dylanwad syniadaeth traddodiad yr Annibynwyr, sef y pwyslais ar osod cyfrifoldeb a hunanreolaeth i lawer o unedau bychain a lleol yn hytrach nac un uned fawr ganolog. Hefyd, gellir cyferbynnu’r weledigaeth hon gyda’r math o sosialaeth a oedd yn ei hamlygu ei hun ar y pryd yng ngweledigaeth yr adain chwith Brydeinig a Chymreig a hyrwyddai’r galw am genedlaetholi diwydiannau a’r angen am reoli’r economi’n ganolog. Hynny yw, math o sosialaeth a gynrychiolai werthoedd a oedd yn groes i bwyslais yr Annibynwyr ar sofraniaeth leol, ac yn fwyaf arwyddocaol roedd yn weledigaeth a filwriai yn erbyn y syniad o Gymru fel cenedl hunanreolus. Gwelwyd mwy o rinwedd mewn rheoli’r economi’n ganolog, ar lefel Prydain Fawr, gan bleidwyr sosialaeth. Mae hyn yn awgrymu rheswm posibl am ddrwgdybiaeth Tudur Jones o sosialaeth a’i wrthwynebiad i’r label ‘sosialaidd’ gael ei roi ar syniadaeth a pholisïau’r Blaid.

Gyda Phlaid Cymru yn ei chynhadledd yn 1981 yn ethol Dafydd Wigley fel ei llywydd newydd cyntaf ers 1945 yn ogystal â derbyn y cynnig i’r Blaid fabwysiadu’r safbwynt ‘sosialaidd-gymdeithasol,’ dyma weld dylanwad Gwynfor, ac felly Tudur Jones, i raddau helaeth iawn, yn dirwyn i ben. Erbyn 1981 gwelwyd gan rai bod gweledigaeth a dylanwad Tudur Jones a’r Anghydffurfwyr yn fwyfwy amherthnasol gan iddynt lynu at weledigaeth a welsant fel un Gristnogol a hynny mewn Cymru oedd yn brysur yn cael ei secwlareiddio.

Yn 1981 cyhoeddwyd adroddiad Comisiwn Ymchwil i ddyfodol syniadaethol Plaid Cymru. Argymhellwyd y dylai’r Blaid ‘ymlynu wrth fath o sosialaeth ddatganoledig wedi ei seilio ar y gymuned.’ Yn ôl Richard Wyn Jones roedd hwn yn ddatblygiad arwyddocaol oherwydd ei fod yn ‘bwrw heibio ymdrech trigain mlynedd gan brif feddylwyr y Blaid i hepgor labeli chwith/dde wrth geisio ffordd amgenach o leoli ei hathroniaeth wleidyddol.’ Dangoswyd bod Tudur Jones yn un o’r meddylwyr hynny a oedd erbyn 1981 yn perthyn i orffennol y Blaid, o leiaf yn syniadaethol. Fodd bynnag, dadleuodd Richard Wyn Jones fod y pylu a welwyd ar ddylanwad Ymneilltuaeth Tudur Jones wedi peri i Blaid Cymru golli ei hunig droedle diogel ac ‘wrth i Anghydffurfiaeth ymddatod… aeth y troedle’n un cynyddol ansicr. Ond pa dir neu droedle cymharol sicr oedd ar gael i sefyll arno wedyn? Dyna ddeilema canolog Plaid Cymru… gyda sawl opsiwn amgen – sosialaeth? Ewrop? – yn profi’r un mor ansad.’

Please follow and like us:
error

Faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?

Bydd pobl yn gofyn i fi’n aml ‘faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?’. Nid oes ateb syml. Fel arfer dwi’n cymryd un diwrnod gwaith i baratoi ar gyfer y Sul. Weithiau nid yw hynny’n bosib ac mae rhaid paratoi neges mewn awr neu ddwy bnawn dydd Sadwrn. Ond weithiau os nad oes gormod o alwadau eraill yr wythnos honno mae modd cymryd mwy ‘na diwrnod i baratoi (anaml iawn iawn mae hyn yn digwydd!). Felly i ateb y cwestiwn ‘faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?’ mae’n cymryd faint bynnag o amser ac sydd gen i! Os oes gen i ddiwrnod i baratoi yna gwych. Ond os mai dim ond dwy awr sydd gen i yna rhaid gwneud y mwyaf o’r ddwy awr yna!

Dwi’n ffodus mai dim ond un bregeth newydd sy’n rhaid i mi baratoi bob wythnos, a dwi’n ffodus hefyd mod i’n cael wyth Sul rhydd y flwyddyn. Ond mae dal angen i mi baratoi 44 pregeth newydd bob blwyddyn. Mae hynny’n 352 o bregethau ers cychwyn fel Gweinidog. Dwi’n paratoi tua 1,500 o eiriau o nodiadau i bob pregeth felly cyfanswm o dros hanner miliwn o eiriau o nodiadau erbyn hyn – digon ar gyfer pump PhD! Dychmygwch faint o ddeunydd a nodiadau sydd gan Weinidogion sydd wedi bod yn pregethu ers dros hanner can mlynedd yn eu stydis!

Ond o ddifri, mae paratoi neges ffres newydd bob wythnos yn her, mae’n anodd ar adegau. Ond mae dwy egwyddor yn bwysig i fi. Y cyntaf yw gadael i’r Ysbryd Glân arwain. Roedd yna gyfnod lle roeddwn i’n mynd yn syth at lyfrau, esboniadau Beiblaidd a podcasts gan bregethwyr eraill – bron cyn mynd at y testun Beiblaidd ei hun. Roedd y pregethau hynny yn ddiflas a mwy fel darlithoedd na phregethau mewn gwirionedd. Bellach dwi jest yn treulio amser gyda’r testun Beiblaidd ei hun a gadael i’r Ysbryd Glân wneud i bethau neidio allan o’r testun. Dim ond wedyn dwi’n troi at esboniadau Beiblaidd. Gan nad ydw i yn deall yr ieithoedd gwreiddiol nac a rhyw lawer o wybodaeth am gyd-destun llawer o’r Beibl mae yn bwysig darllen beth sydd gan yr arbenigwyr i ddweud. Rhan fwyaf o’r amser mae’r esboniadau Beiblaidd yn ategu’r hyn oedd wedi sefyll allan i mi. Ond weithiau, rhaid cyfaddef, fod rhaid i mi ail-ystyried rhai pethau ac ail-sgwennu peth o’r nodiadau oherwydd mod i wedi cam-ddeall y testun.

Yr ail ddisgyblaeth wrth baratoi pregeth yw cofio mae rôl y pregethwr yw dod a Gair Duw yn fyw i bobl heddiw. Nid rôl pregeth yw jest esbonio’r testun Beiblaidd yn sych a strêt. Os ydych chi am wneud hynny ma’ ‘na man i’ch praidd aros adre yn darllen esboniadau Beiblaidd. Rhaid i bregeth gyd-destunoli y testun. Gweld beth sydd gan y testun i ddweud wrth bobl heddiw. Dyna pam dwi’n hoffi’r hen ddelwedd ynglŷn â’r pregethwr fel rhywun sy’n dal y Beibl mewn un llaw a’r papur newydd yn ei law arall. Os na fydd y pregethwr yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn y byd, mewn cymdeithas ac ym mywydau ei braidd sut all bregethu’r Beibl i’r bobl yna yn effeithiol?

Ond fy ngwir broblem i yw diffyg amser i wneud unrhyw beth o’r hyn dwi wedi nodi uchod yn iawn. Neu efallai fod diffyg disgyblaeth yn fwy o broblem ‘na diffyg amser. Dwi’n ffeindio amser i wneud pethau llai pwysig a llai dyrchafol wedi’r cyfan … fel sgwennu’r blog yma!

Felly tymor yma dwi’n gobeithio bod yn fwy disgybledig wrth neilltuo un diwrnod penodol bob wythnos i weddïo, darllen y Beibl a pharatoi fy mhregethau. I warchod y diwrnod hwnnw bydd rhaid i mi fod yn fwy disgybledig i gael pob dim arall wedi ei wneud ar y diwrnodau eraill ac mi fydd rhaid i mi fod yn ddigon cadarn i ddweud “na” pan fydd pobl yn gofyn i mi wneud pethau eraill ar y diwrnod neu ofyn am gael cyfarfod ac ati.

Rhan fwyaf o wythnosau dydd Iau fydd y diwrnod hwnnw. Felly, helpwch fi! Os gallwch chi aros tan ddydd Gwener cyn fy e-bostio neu ofyn am gyfarfod, neu ofyn i mi wneud yr hwn a’r llall, bydd hynny yn help mawr.

Ar wythnos arferol dyma sut fydd fy mhatrwm gwaith yn gweithio tymor yma gobeithio:
Dydd Llun – diwrnod off/gofalu am Cadog
Dydd Mawrth – bugeilio / cyfarfodydd / manion gweinyddol
Dydd Mercher – gweithio i Gyhoeddiadau’r Gair
Dydd Iau – gweddi / astudio’r Beibl / paratoi at ddydd Sul
Dydd Gwener – bugeilio / cyfarfodydd / manion gweinyddol
Dydd Sadwrn – gorffen paratoi at y Sul (bore) / rhydd (pnawn)
Dydd Sul – oedfaon (bore, pnawn a nos … fel arfer)

Yn amlwg bydd rhaid ffeirio diwrnodau o gwmpas weithiau – ond dwi am drio cadw at y patrwm gwaith yma.

Please follow and like us:
error