by admin | Sep 27, 2023 | Caersalem, Diwylliant, Ffydd
Pan dwi’n siarad am fy ngwaith yn gyhoeddus rwy’n tueddu i siarad yn bennaf am Gaersalem Caernarfon gan fod stori’r eglwys yna, ar y cyfan, yn stori o dwf a newid. Pobl newydd yn dod, addoliad cyfoes, cynlluniau interniaeth, mentrau newydd, addasu’r adeilad, y fenter...
by admin | Sep 25, 2023 | Diwylliant, Ffydd, Gwleidyddiaeth
Y llyfr diweddaraf i mi ddarllen yw Nonconformist gan Jane Parry, darn ffeithiol-greadigol Saesneg sy’n olrhain hanes teuluol yr awdur gan ganoli ar un o arloeswyr ymneilltuaeth y ddeunawfed ganrif ym Môn sef Wiliam Pritchard. Ar ôl cyfnod byr o fyw yn Llydaw symudodd...
by admin | Sep 21, 2023 | Caersalem, Diwylliant, Ffydd
Dwi wedi darllen mwy o lyfrau ar hanes Cymru, ac yn benodol am hanes yr eglwys yng Nghymru, nag sy’n iach i unrhywun. Pan gyhoeddwyd ‘A History of Christianity in Wales’ gan David Ceri Jones, Barry J Lewis, Madeleine Gray a D. Densil Morgan fy ymateb cyntaf oedd: pam...
by admin | Sep 18, 2023 | Caersalem, Diwylliant, Ffydd, Gwleidyddiaeth
Fe ddywedais yn fy mhregeth ddoe fod Iesu “yn ein hachub mewn ac nid allan o hanes” a dyna pam nad yw ein hunaniaeth/dinasyddiaeth nefol yn cymryd lle ein hunaniaethau daearol; ond yn hytrach mae’n ei drawsffurfio. Rwy’n deall fod hwn yn syniad cymhleth efallai, ac...
by admin | Sep 11, 2023 | Diwylliant, Ffydd
Pan ddarllenais Llyfr Glas Nebo a The Ruthless Elimination of Hurry yn syth ar ôl ei gilydd ychydig a wyddwn i eu bod, yn y bôn, yn trafod yr un thema: beth yw hanfod bod yn ddynol? Neu yn hytrach, sut i ail ddarganfod beth yw bod yn ddynol wrth ddianc o ruthr bywyd...
by admin | Sep 10, 2023 | Diwylliant, Ffydd
Y nofel gyntaf cydiais ynddi eleni oedd Gwynt y Dwyrain gan Alun Ffred, ac yn ei dro fe gydiodd y nofel ynof finnau. Wedi ei lleoli ym Meirionnydd, yr ardal lle’r oedd Nain yn byw, roedd yr hin yn ddigon cartrefol. Y disgrifiadau o wyntoedd oer Ardudwy yn...