Category Archives: Ymchwil R. Tudur Jones

Ydw i’n efengýl?

Yn ddiweddar wnes i glywed Sally Mann yn siarad am y modd mae efengyliaeth (evangelicalism) fodern wedi dod i fod yn rhywbeth eithaf gwahanol i’r math o Gristnogaeth efengylaidd y cafodd hi ei magu ynddo heb sôn am be roedd y mudiad yn ei gynrychioli yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan oedd efengylwyr fel William Wilberforce ar flaen y gad yn ymgyrchoedd radical eu dydd, a hynny oherwydd eu ffydd efengylaidd nid er gwaethaf.

Aeth Sally Mann ymlaen i rannu am y gwewyr a’r tyndra heddiw rhwng teimlo bod yn rhaid taflu’r label i ffwrdd a’i anghofio ar un llaw, ond rhyw deimlad fod angen adfer ei enw da ar y naill. Ond mewn realiti ei bod hi, rhan fwyaf o’r amser, yn ceisio osgoi’r label yn llwyr.

Roedd profiad Sally Mann yn debyg iawn i fy mhrofiad i. Weithiau dwi eisiau anghofio am y label yn llwyr, dro arall dwi eisiau adfer ei enw da ond rhan fwyaf o’r amser dwi’n trio ei osgoi gan nad yw’n label gellid ei ddefnyddio heb cryn dipyn o esbonio.

1. Ni allaf ddianc rhag hon

Ond dydy ei osgoi ddim wir yn opsiwn i mi oherwydd er y pwyslais efengylaidd fod yn rhaid i chi gael eich ail-eni i fod yn Gristion nid oes rhaid i chi gael eich ail-eni i fod yn “efengýl” – mae’n label diwylliannol i raddau mae llawer yn cael ei eni i mewn iddo fel y gwnes i. Yn yr un ffordd ac mae gen i ffrindiau sy’n cyfri eu hunain yn Annibyns er eu bod heb dyllu capel annibynnol ers gadael ysgol. Cyn dod at yr hyn rwy’n ei gredu, rwy’n efengýl o ran fy nghefndir diwylliannol, dyna pwy ydw i – ni allaf ddianc rhag hon.

2. Label sy’n sticio

Yr ail reswm na fedra i ddianc rhag y label yw oherwydd ei fod yn sticio. Er nad ydy’r teitl efengylaidd yn agos i enw fy eglwys nac ar ein gwefan na’n llenyddiaeth dwi’n gwybod fod rhai yn adnabod ein heglwys fel “yr un efengylaidd” yn ein tref, er mawr ddoniolwch (a siŵr a fod balchder) i Mam! Hefyd, mae y byd Cymraeg yn fach: dim ond llynedd ges i nyrs yn Ysbyty Gwynedd yn fy nghyfarch fel y “boi o’r Gorlan” dros ddeg mlynedd ar ôl i mi weithio yn y Gorlan diwethaf a pymtheg mlynedd ar ôl iddi hi fod yn maes b diwethaf. Rwy’n gobeithio mod i wedi creu argraff am y rhesymau iawn … ond eto dwi ddim yn hollol sicr! Efengýl fydda i yn llygaid llawer am byth nawr dim ots lle aiff taith bywyd a fi a beth fydda i’n ei gredu! Mae’n label sy’n sticio.

3. Lle dwi’n teimlo ‘adre’

Y trydydd rheswm pam na alla i ddianc rhag y label yn llwyr ydy oherwydd er mod i’n aml yn teimlo ar ymylon y traddodiad efengylaidd, eto dyma yw’r adain o’r eglwys dwi’n teimlo’n fwyaf cyfforddus ynddi. Er ei brychau, rwy’n teimlo fod rhywbeth yma gwerth ymladd drosti.

Er mod i’n ffeindio fy hun yn aml yn cytuno gyda beirniadaeth traddodiadau Cristnogol eraill (gan gynnwys y traddodiad rhyddfrydol) y efengyliaeth dwi byth yn gyfforddus gyda lle mae traddodiadau eraill yn glanio ar ol cynnig beirniadaeth o broblemau Cristnogaeth efengylaidd. Dwi’n meddwl mai D.A. Carson esboniodd y peth orau drwy nodi fod Cristnogion efengylaidd a rhyddfrydol, fel ei , yn cam-ddeall a cam-ddehongli’r Beibl yn aml ond bod yna wahaniaeth ‘qualitative’ rhwng y ddau draddodiad. Mae y traddodiad rhyddfrydol yn taflu allan y Beibl yn llawer rhy hawdd tra fod y traddodiad efengylaidd, yn aml yn cam-ddehongli, a hyd yn oed pan fo’r dehongliad yn gywir fod yr ysbryd efallai ar goll, ond o leiaf bod y traddodiad efengylaidd yn ymdrechu i ymrafael a’r gwirionedd yn hytrach na bodloni ar ymgolli mewn amheuaeth a dirgelwch parhaus. A dyna pam mod i’n teimlo ‘adre’ ar begwn mwy agored y traddodiad efengylaidd yn fwy nag ar begwn mwy ceidwadol y traddodiad rhyddfrydol.

4. Traddodiad (dylai fod yn) eang

Y pedwerydd rheswm yw oherwydd mod i’n credu ei fod (neu o leiaf fe ddylai fod) yn draddodiad Cristnogol digon eang i gynnwys cryn dipyn o Gristnogion. Drwy ddewis canolbwyntio ar yr “hanfodion” fe ddylai fod yn draddodiad sydd wedyn yn rhoi mwy o ryddid pan mae’n dod i bethau sydd ddim yn cael eu hystyried yn hanfodol. Mae pwyslais mawr ar y dylai yn y pwynt yma oherwydd mewn realiti rwy’n gwybod nad ydy rhai Cristnogion efengylaidd yn fy ystyried yn un ohonyn nhw bellach; nid oherwydd fy nghredo am bethau hanfodol ond oherwydd mod i’n credu y dylai merched bregethu, a materion tebyg.

Ond dwi’n gynnyddol ddod i weld fod eu dehongliad o’r hanfodion yn llywio eu barn am ail bethau yn fwy nag oeddwn i’n gynt wedi ei werthfawrogi. Mae dealltwriaeth a dehongliad rhywun o’r hanfodion felly yn bwysig – dim ond hyn a hyn o’r ffordd y gall rhestr o ddogmau fynd a ni i ddeall beth yw ”Cristnogaeth efengylaidd” oherwydd gall dau berson gwahanol gytuno a chredu yn yr un gyffes ffydd ond gall eu dehongliad o’r gyffes ac yna eu gweithio allan ohoni mewn bywyd fod yn dra gwahanol. Dydy e ddim mor syml a dweud mai “pobl efengylaidd ydy pobl sy’n credu xyz”.

Beth yw’r hanfodion?

A siarad am yr hanfodion – beth yn union ydyn nhw? Mae pobl sydd wedi treulio eu hoes yn astudio hanes y traddodiad efengylaidd yn dweud ei fod yn draddodiad neilltuol o anodd ei ddiffinio gan ei fod yn llawer mwy eang ei gredo, amrywiol ei fynegiant a rhyngwladol ei leoliad nac y mae llawer yn ei werthfawrogi. Ond rwy’n meddwl fod diffiniad David Bebbington yn ddefnyddiol sef er y gwahanol bwysleisiadau o le i le ac o oes i oes fod modd dweud yn gyffredinol fod efengylwyr ym mhob oes wedi pwysleisio’r pedwar peth yma:

conversionism, the belief that lives need to be changed; 

activism, the expression of the gospel in effort; 

biblicism, a particular regard for the Bible; 

and what may be called crucicentrism, a stress on the sacrifice of Christ on the cross.

– David Bebbington

I fi mae diffiniad Bebbington yn ddigon penodol ond eto yn ddigon eang oherwydd, er enghraifft, er bod sôn am dröedigaeth nid oes sôn yn benodol sut dylai hynny edrych. Er yn sôn am ymdrech/buchedd y Cristion nid oes sôn penodol sut nac ym mha feysydd o fywyd a chymdeithas. Er y pwyslais ar y Beibl nid oes sôn am ddehongliad penodol o’r Beibl. Er y pwyslais ar waith Iesu ar y Groes nid oes sôn am oblygiadau penodol i waith aberthol Iesu. Hynny yw, galla i ddychmygu y byddai Mike Pence, er enghraifft, yn cytuno i’r crynodeb uchod fel ag yr ydw i. Ond mae’n bur debyg y byddai ein dealltwriaeth o’r pedwar pwynt a’u hoblygiadau yn bur wahanol.

Felly yn yr un ffordd a ddyfeisiwyd y label efengylaidd yn wreiddiol gan fod y label “Cristion” neu “Cristnogaeth” wedi mynd yn ddiystyr, heddiw mae’r label “efengylaidd” wedi mynd yn ddiystyr hefyd – rhaid wrth esbonio a gweld ffrwyth y ffydd.

Ydw i’n efengýl?

Felly ydw i’n Gristion Efengylaidd? Wel, mae’n dibynnu’n llwyr beth rydych chi’n ei olygu wrth hynny! Dwi’n meddwl fy mod i, ond bydd angen esbonio beth rydw i’n ei olygu a beth nad ydw i’n ei olygu a sut mae yr hyn rwy’n gredu wedyn (i fod) i effeithio sut rwy’n byw. Dyna fydda i’n gobeithio gwneud mewn cyfres o erthyglau dros y misoedd nesaf ac wedyn rhywbryd, efallai, ehangu arynt mewn llyfr.

Please follow and like us:
error

Mae ‘Cenedlaetholdeb Gristnogol’ yn air brwnt heddiw, ond yng Nghymru roedd yn arfer bod yn ddylanwad blaengar a chadarnhaol

Bydd fy llyfr Tynged Cenedl: Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones yn cael ei gyhoeddi yn Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg yn Rhydymain ymhen pythefnos ac ar gael ym mhob siop lyfrau Gymraeg a gwales.com wedyn. Yn gobeithio trefnu digwyddiadau eraill dros yr haf i rannu am y llyfr hefyd.

Ces i fy magu ar aelwyd Gristnogol oedd hefyd yn aelwyd genedlaetholgar. Roedd mynd i’r capel ar y Sul a chodi posteri Plaid Cymru yn ddwy ddefod cwbl naturiol na wnes i byth gwestiynu pan oeddwn i’n blentyn. Mae gen i lond trol o atgofion plentyndod hapus o fynd i weithgareddau’r capel a hefyd o fynd o gwmpas Comins Coch gyda fy nhad adeg lecsiwn yn dosbarthu taflenni’r Blaid. I’n teulu ni roedd ein Cristnogaeth a’n Cymreictod yn ddeubeth oedd yn eistedd yn naturiol o gyfforddus gyda’i gilydd. Ond maes o law, a finnau erbyn hyn yn fy arddegau ac yn cwestiynu popeth, dyma fi’n dod ar draws ffenomenon nad oeddwn i wedi dod ar ei draws o’r blaen sef Cymry Cymraeg oedd yn dewis addoli mewn eglwysi Saesneg! A maes o law dyma fi’n dechrau clywed rhai Cristnogion yn dweud fod hynny oherwydd bod ‘yr efengyl yn bwysicach nag iaith’.

Erbyn diwedd fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd fe drodd y posteri Plaid Cymru yn blacardiau Cymdeithas yr Iaith ac er mod i dal i fynd yn hapus i’r capel bob dydd Sul roeddwn yn barod i gwestiynu’n fwy y credoau roeddwn wedi derbyn yn ddi-gwestiwn cyn hynny. Er i’m rhieni fy annog i ymgodymu a chwestiynau mawr ffydd ac i daflu fy hun i frwydr yr iaith nid oedd fy ngwrthryfel yn rhyngu bodd pob Cristion y deuthum ar eu traws. Dwysaodd yr argyfwng oedd yn fy rhwygo ar ôl cyrraedd y Brifysgol gan fod cyfarfod yr Undeb Cristnogol yn aml yn digwydd yr un pryd a chyfarfod Cell Cymdeithas yr Iaith ac felly fe ddiriaethwyd y tensiwn ynof drwy orfod dewis mynd i un cyfarfod ac esgeuluso’r llall. Dywedwyd wrthyf gan rai bod rhaid i mi ddewis – a oeddwn i’n un o griw Duw neu’n un o fois yr iaith?

Tua’r cyfnod yna y gwnes i gyfarfod ag Arfon Jones am y tro cyntaf – daeth i’r Undeb Cristnogol yn Aberystwyth i siarad os cofiaf yn iawn. Ar ôl deall wedyn ei fod ef wedi bod yn weithgar iawn gyda Chymdeithas yr Iaith ar un adeg ac wedi bod ar dân hefyd dros waith yr efengyl yng Nghymru mentrais anfon e-bost iddo yn rhannu am fy ngwewyr. Rwy’n cofio rhannu gydag Arfon fy rhwystredigaeth fod llawer o’m cyd-Gristnogion efengylaidd ddim yn deall fy nghonsyrn dros yr iaith a bod llawer o’m cyd-ymgyrchwyr iaith heb unrhyw ddiddordeb yn fy ffydd. Beth oeddwn i’w wneud ar yr ynys unig hon? Ac fe gofiaf yn iawn sut yr oedd ateb Arfon yn dechrau: ‘Wyt ti’n gyfarwydd gyda gwaith Dr. Tudur?’ Newidiodd hynny bopeth.

Na, nid oeddwn yn gyfarwydd gyda gwaith Dr. Tudur, neu R. Tudur Jones. Wedi fy magu yn nhraddodiad y Mudiad Efengylaidd y Doctor arall, Martyn Lloyd-Jones, oedd pob dim. Ond diolch i Arfon am fy nghyflwyno i waith Dr. Tudur oherwydd yng ngwaith Dr. Tudur – yn arbennig yn ei syniadau am agwedd y Cristion tuag at iaith a chenedl – y ces gyfle i ddeall fy ngwead a’m argyhoeddiadau fy hun. Trwy waith Dr. Tudur y ces gyfle i ddeall pam y’m magwyd ar aelwyd oedd yn gweld ein ffydd a’n cenedlaetholdeb fel deubeth cwbl naturiol oedd yn perthyn i’w gilydd.

Diwedd y stori oedd cael cyfle i astudio syniadau Dr. Tudur am genedlaetholdeb fel doethuriaeth a rhyw fersiwn talfyredig o’r traethawd ymchwil hwnnw yw Tynged Cenedl

Er bod nifer o lyfrau arbennig wedi eu cyhoeddi dros y blynyddoedd diwethaf yn trafod hanes syniadaeth yng Nghymru ers oes Fictoria roeddwn o’r farn fod llawer o’r gweithiau hynny yn methu ag ymdrin â dylanwad ffydd ar syniadaeth wleidyddol rhai o brif ffigyrau’r cyfnod. Rwy’n gobeithio felly fod Tynged Cenedl yn help i Gristnogion heddiw feddwl trwy eu syniadau gwleidyddol o safbwynt diwinyddiaeth Gristnogol a’i fod yn gymorth hefyd i’r Cymry nad ydynt yn meddu ar ffydd ddeall rhyw ychydig am yr argyhoeddiadau Cristnogol fu’n ysgogiad i lawer o genedlaetholwyr y ganrif a fu.

Datblygiad annisgwyl ac anffodus yn y blynyddoedd ers i mi gyflwyno fy nhraethawd ymchwil a chyhoeddi Tynged Cenedl yw’r twf mewn cenedlaetholdeb adweithiol ym Mhrydain o ganlyniad i Brexit ac yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i Donald Trump. Yr hyn sy’n gwneud y datblygiadau yma yn frawychus o safbwynt Cristnogol yw fod llawer o’r twf mewn cenedlaetholdeb adweithiol yn menthyg rhethreg crefydd ac wedi llwyddo i werthu eu math o genedlaetholdeb fel petasai’n ‘Genedlaetholdeb Cristnogol’, yn arbennig felly yn yr Unol Daleithiau. Mae nifer o lyfrau Saesneg wedi eu cyhoeddi’n ddiweddar yn trafod y ffenomenon yma ac yn trafod y rôl mae ideoleg honedig ‘Gristnogol’ wedi ei gyfrannu i dwf ‘white supremacy’, yn arbennig yn yr Unol Daleithiau. 

Felly, yn annisgwyl efallai mae gan R. Tudur Jones a’r traddodiad Cymreig o Genedlaetholdeb Cristnogol lawer i’w ddweud wrth y byd a chymdeithas heddiw. Yn y llyfr mae yna feirniadaeth o fathau o genedlaetholdebau na ddylai’r Cristion a’r eglwys ymlynu a hwy, ond fe gyflwynir math dyrchafol o genedlaetholdeb y gallai’r Cristion a’r eglwys ymlynu â hi. Mae datblygiadau’r blynyddoedd diwethaf wedi dangos nad perthyn i lyfrau hanes yn unig mae’r testun a drafodir yn Tynged Cenedl – mae’r cwestiwn ynghylch natur a tharddiad cenedlaetholdeb a’i berthynas â ffydd a chrefydd eto’n fyw. 

Please follow and like us:
error

Teyrnged i Euros Wyn Jones

Rydw i dal mewn sioc yn dilyn y newyddion trist am farwolaeth sydyn Euros Wyn Jones. Dim ond ers rhyw ddeg mlynedd rwy’n adnabod Euros ond bu’n ddylanwad mawr a cyson arna i yn ystod y blynyddoedd hynny.

Y cyswllt cyntaf ges i gydag Euros oedd yn ystod yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg (yr ymgyrch arweiniodd i sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol). Roedd Euros yn frwd dros yr ymgyrch ac yn arbennig yn ei weld fel rhan o’r ateb i warchod addysg ddiwinyddol a Beiblaidd Cymraeg i’r dyfodol. Yna pan wnes i ddechrau’r broses fy hun o gael fy hyfforddi i’r Weinidogaeth roedd Euros yn un o fy athrawon yn y Coleg Gwyn. Er i mi ddysgu rhai gwersi pwysig ymarferol gan y tiwtoriaid eraill, Euros oedd yn rhoi’r sylwedd i ni. Roedd yn byrlymu o ddyfnder a chyfoeth y traddodiad Calfinaidd Cymraeg. A gyda chyn lleied o fyfyrwyr yn y Coleg Gwyn ar y pryd roedd llawer o’r sesiynau yma yn rhai un-wrth-un felly yn naturiol roedd y seminarau a’r darlithoedd yn aml yn troi yn seiat brofiad cyfoethog iawn gydag Euros.

Wedi i mi gychwyn fy ngweinidogaeth yng Nghaersalem Caernarfon fe barhaodd Euros yn ffrind da i mi, ac i Gaersalem fel eglwys hefyd. Roedd yn pregethu gyda ni bob rhyw chwe mis ac yn aml yn sleifio i mewn i gefn y gynulleidfa yn oedfa’r nos os byddai’n digwydd pasio heibio ar y ffordd adref i Langefni ar ôl pregethu rhywle arall yn y bore a’r pnawn. Roedd yn gwbl gyfforddus gyda ni, Fedyddwyr, yng Nghaersalem sy’n bwysig i’w nodi dwi’n meddwl. Er ei fod yn Annibynnwr mawr ac o argyhoeddiad nid oedd yn enwadwr yn yr ystyr cul – roedd yn ystyried yr undeb ysbrydol rhwng Cristnogion o argyhoeddiadau tebyg yn rhywbeth pwysicach.

Dros y ddwy flynedd diwethaf roedd yn cynnal dosbarth Groeg yng Nghaersalem bob pnawn Gwener, ond doeddwn i ddim digon dewr i fentro i’r dosbarth fy hun. A dyna pryd y gwelais Euros y tro diwethaf – pnawn Gwener bythefnos yn ôl. Roedd Euros yno gyda’i ddosbarth Groeg a fi’n ymaflyd codwm gyda peipen ddŵr yn brysur yn llenwi ein pwll bedydd ar gyfer bedydd trochiad y Sul dilynol. Roedd Euros wrth ei fodd yn busnesa ac yn tynnu fy nghoes y byddai powlen fach o ddŵr yn dipyn llai o drafferth. Chwerthin mawr!

Braint arbennig hefyd oedd cyd-weithio gydag Euros dros y flwyddyn ddiwethaf ar y gyfrol Blas ar Gristnogaeth Cymru sef cyfrol olaf R. Tudur Jones y gwnaeth Euros ei golygu a sgwennu pennod clo iddi. Bu Euros yn pwyso ar Aled Davies a fi am flynyddoedd i’w chyhoeddi ac mae rhagluniaeth ryfedd nawr yn adrodd i ni ddod i’w chyhoeddi, o’r diwedd, ond dim ond rai misoedd cyn i Euros farw ac ugain mlynedd ers i Dr. Tudur farw yn sydyn ac annisgwyl hefyd.

Ond y prif reswm i Euros ddod yn ffrind yn fwy nag athro i ni oedd trwy ein cyfeillgarwch gyda Gwenno ei ferch, Dafydd ei fab-yng-nghyfraith a John a Falmai, rhieni Dafydd. Yn dilyn dwy brofedigaeth lem roedd y teulu wedi profi’n barod roeddem ni’n gweld mwy o Euros o amgylch y lle yn ardal Caernarfon wrth iddo warchod ei wŷr ac ati. A thrwy hynny daethom i weld fod Euros yn berson crwn a diddorol iawn – nid oedd dim byd sych am ei Galfiniaeth! Yn gricedwr, yn Eisteddfodwr, yn gogydd cawl cennin heb ei ail, ac yn wneuthurwr diod Ysgawen bendigedig! Mewn ffordd roedd yn Galfinydd cwbl uniongred wrth ymhyfrydu a chael blas wrth addoli Duw ym mhob peth, nid dim ond mewn pethau ysbrydol pur.

Dwi mynd i golli Euros fel ffrind ac fel cefn yng ngwaith y weinidogaeth. Mae Caersalem hefyd yn colli ffrind. Ond yn fwy pwysig mae’r teulu yn colli Tad arbennig iawn. Ond fel Cristnogion nid ydym ni’n galaru fel rhai heb obaith a daw’r gobaith hwnnw i’r amlwg yn y peth olaf y rhannodd Euros ar Facebook sef geiriau Ann Griffiths:

Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae.

Please follow and like us:
error

Y ras arweinyddol a lle Plaid Cymru ar y sbectrwm dde-chwith

Un peth sydd wedi codi unwaith eto yn ystod etholiad arweinyddol Plaid Cymru yw’r cwestiwn am le’r Blaid ar y sbectrwm dde-chwith. Gyda Leanne yn glir ar y chwith, Adam efallai yn fwy tua’r canol erbyn hyn (er y byddai yn gwadu hynny!) â Rhun yn gwrthod cael ei diffinio yn ôl y sbectrwm dde-chwith draddodiadol.

Am sawl rheswm – personol a phroffesiynol – dwi ddim am ddweud yn gyhoeddus dros bwy fydda i’n pleidleisio – mae fy ffrindiau agos yn gwybod.

Fodd bynnag, dwi eisiau dweud rhywbeth am y ras a’r sgwrs o fewn y Blaid ar hyn o bryd. Felly pa beth well na rhannu rhywfaint am y sgwrs a fu rhwng R. Tudur Jones a Gwynfor un o’r troeon diwethaf i’r Blaid fod ar groesffordd – yn benodol gyda’r cwestiwn a oedd hi’n blaid ‘chwith’ neu’r blaid ‘trydedd ffordd’. Mae’r naratif, yn arbennig dylanwad Cristnogaeth ac arweinwyr Cristnogol ym Mhlaid Cymru wedi newid, ond eto mae’n rhoi blas i chi o wreiddiau rhai pwysleisiadau sydd dal i weld yn ideoleg a thraddodiad Plaid Cymru.

Rhai paragraffau allan o un o benodau fy PhD yw gweddill y blog yma…

Yn 1974, bu Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw datgan a oedd Plaid Cymru yn blaid “sosialaidd” ai peidio. Dywedodd Rhys Evans i Gwynfor ‘dan ddylanwad R. Tudur Jones… barhau i ddadlau mai’r ateb i Blaid Cymru oedd aros yn blaid ‘radical’ – plaid fyddai’n cyplysu cenedlaetholdeb a Christnogaeth…’. Gyda Gwynfor yn wynebu misoedd olaf ei lywyddiaeth hir roedd Tudur Jones, un o’i brif gynghorwyr, yn ddi-ildio ar y mater.

“I mi mae’r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda’r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a’r cwbwl trwy ei gilydd a chyda’i gilydd yn galluogi pobl i fyw’n rhydd a ffyniannus – i mi, mae’r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.”

Mae’r weledigaeth hon gan Tudur Jones yn adleisio dylanwad syniadaeth traddodiad yr Annibynwyr, sef y pwyslais ar osod cyfrifoldeb a hunanreolaeth i lawer o unedau bychain a lleol yn hytrach nac un uned fawr ganolog. Hefyd, gellir cyferbynnu’r weledigaeth hon gyda’r math o sosialaeth a oedd yn ei hamlygu ei hun ar y pryd yng ngweledigaeth yr adain chwith Brydeinig a Chymreig a hyrwyddai’r galw am genedlaetholi diwydiannau a’r angen am reoli’r economi’n ganolog. Hynny yw, math o sosialaeth a gynrychiolai werthoedd a oedd yn groes i bwyslais yr Annibynwyr ar sofraniaeth leol, ac yn fwyaf arwyddocaol roedd yn weledigaeth a filwriai yn erbyn y syniad o Gymru fel cenedl hunanreolus. Gwelwyd mwy o rinwedd mewn rheoli’r economi’n ganolog, ar lefel Prydain Fawr, gan bleidwyr sosialaeth. Mae hyn yn awgrymu rheswm posibl am ddrwgdybiaeth Tudur Jones o sosialaeth a’i wrthwynebiad i’r label ‘sosialaidd’ gael ei roi ar syniadaeth a pholisïau’r Blaid.

Gyda Phlaid Cymru yn ei chynhadledd yn 1981 yn ethol Dafydd Wigley fel ei llywydd newydd cyntaf ers 1945 yn ogystal â derbyn y cynnig i’r Blaid fabwysiadu’r safbwynt ‘sosialaidd-gymdeithasol,’ dyma weld dylanwad Gwynfor, ac felly Tudur Jones, i raddau helaeth iawn, yn dirwyn i ben. Erbyn 1981 gwelwyd gan rai bod gweledigaeth a dylanwad Tudur Jones a’r Anghydffurfwyr yn fwyfwy amherthnasol gan iddynt lynu at weledigaeth a welsant fel un Gristnogol a hynny mewn Cymru oedd yn brysur yn cael ei secwlareiddio.

Yn 1981 cyhoeddwyd adroddiad Comisiwn Ymchwil i ddyfodol syniadaethol Plaid Cymru. Argymhellwyd y dylai’r Blaid ‘ymlynu wrth fath o sosialaeth ddatganoledig wedi ei seilio ar y gymuned.’ Yn ôl Richard Wyn Jones roedd hwn yn ddatblygiad arwyddocaol oherwydd ei fod yn ‘bwrw heibio ymdrech trigain mlynedd gan brif feddylwyr y Blaid i hepgor labeli chwith/dde wrth geisio ffordd amgenach o leoli ei hathroniaeth wleidyddol.’ Dangoswyd bod Tudur Jones yn un o’r meddylwyr hynny a oedd erbyn 1981 yn perthyn i orffennol y Blaid, o leiaf yn syniadaethol. Fodd bynnag, dadleuodd Richard Wyn Jones fod y pylu a welwyd ar ddylanwad Ymneilltuaeth Tudur Jones wedi peri i Blaid Cymru golli ei hunig droedle diogel ac ‘wrth i Anghydffurfiaeth ymddatod… aeth y troedle’n un cynyddol ansicr. Ond pa dir neu droedle cymharol sicr oedd ar gael i sefyll arno wedyn? Dyna ddeilema canolog Plaid Cymru… gyda sawl opsiwn amgen – sosialaeth? Ewrop? – yn profi’r un mor ansad.’

Please follow and like us:
error

Bobi Jones (1929 – 2017)

Llun: Llenyddiaeth Cymru / Marian Delyth

Ddiwedd Tachwedd bu farw R.M. (Bobi) Jones un o ysgolheigion Cristnogol mwyaf ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Roedd yn academydd wrth ei alwedigaeth, yn llenor o bwys, yn bencampwr dros ddysgu Cymraeg i oedolion ac yn amddiffynnydd digyfaddawd o’r traddodiad Calfinaidd Cymreig.

Pan oeddwn i’n blentyn roedd llawer o sôn am Yncl Bobi ac Anti Beti. Maes o law, a finnau yn fy arddegau hwyr, ces y fraint o gael Yncl Bobi ynghyd â’i gyfaill Geraint ‘Gruff’ (yr Athro Geraint Gruffydd) yn athrawon ysgol Sul arnaf. Cofiaf yn arbennig eu cyfres yn ein harwain drwy Lyfr yr Actau gyda’i mewnwelediadau difyr am gefndir a chyd-destun gwleidyddol a diwylliannol cyfnod y Beibl ac yna eu gallu i dynnu’r wers at fan lle’r oedd yr hanes bob tro yn gosod her i’r Cristion ac i’r eglwys heddiw. Dynion agos atoch, gostyngedig a hawdd eu dilyn oedd Bobi a Geraint yn yr ysgol Sul.

Wel, am sioc wrth fentro darllen un o gyfrolau Bobi am y tro cyntaf pan oeddwn yn y Brifysgol. Roedd y gwerinwr agos atoch roeddwn i wedi fy magu yn ei gwmni yn yr ysgol Sul wedi troi’n athrylith oedd yn ymdrin â’i destun mewn modd y tu hwnt i’m deall a’m gallu syml i. Dyma brawf fod Bobi mewn gwirionedd yn athro wrth reddf – gwyddai pryd roedd angen i Yncl Bobi siarad a gwyddai hefyd pryd roedd y llwyfan yn barod i wrando ar R.M. Jones. I unrhyw un sy’n awyddus i ddechrau deall campweithiau academaidd Bobi mae cyfrol Eleri James, Casglu Darnau’r Jig-so: Theori Beirniadaeth R.M. (Bobi) Jones, yn fan cychwyn da a mawr yw ein diolch i Eleri am fentro cyflwyno theorïau mawr Bobi i ni feidrolion.

Dysgu Cymraeg
Magwyd Bobi yng Nghaerdydd ar aelwyd hollol Saesneg. Roedd ei dad-cu a’i fam-gu ar ochr ei dad yn medru’r Gymraeg ond, yn ôl yr arfer ym Merthyr Tudful ar y pryd, dewiswyd magu’r genhedlaeth nesaf yn Saesneg ac felly collwyd y Gymraeg. Yn yr ysgol uwchradd yn Cathays y daeth Bobi i gyfarfod â’r Gymraeg am y tro cyntaf. Dewisodd Sbaeneg i gychwyn ond fe’i heriwyd gan y prifathro ar y diwrnod cyntaf: “Listen to me. I’m an Englishman from Lancashire. And even I know what ‘good night’ is in Welsh.” Ac erbyn drannoeth roedd wedi symud o’r dosbarth Sbaeneg i’r dosbarth Cymraeg. Aeth ymlaen i astudio’r Gymraeg yn y Brifysgol, a maes o law peidiodd â gweld ei hun fel dysgwr ac fe ddaeth y Gymraeg yn iaith gyntaf iddo.

Y profiad hwn a sbardunodd ei ymdrechion i hybu’r gwaith o ddysgu Cymraeg i oedolion. Yn ôl ei gyffes ei hun roedd yn agnostig gwleidyddol, ac er bod posteri Plaid Cymru i’w gweld yn glir ar ei dŷ yn Llangawsai adeg pob etholiad a’i fod wedi cefnogi rhai o ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith (ac wedi gwrthod gwahoddiad i fynd am de i Balas Buckingham ar ôl rhoi gwersi Cymraeg i Carlo) dewisodd sianelu ei egni i’r ymdrechion i ddysgu Cymraeg i oedolion – yn benodol trwy gyfrwng CYD – Cymdeithas y Dysgwyr.

Tröedigaeth
Fe’i magwyd yn gapelwr mewn cyfnod pryd yr oedd cysylltiad agos, yn arbennig yn ne Cymru, rhwng yr efengyl Gristnogol a Marcsiaeth. Ac felly tra oedd yn y Brifysgol, ar ôl yr Ail Ryfel Byd, swm a sylwedd ei Gristnogaeth oedd arddel heddychiaeth ac ymgeisio at ryw fath o foesoldeb cyffredinol. Roedd y cyfan yn faterol iawn heb lawer o ystyriaeth i’r goruwchnaturiol. Ond wrth ddarllen gwaith Saunders Lewis dechreuodd gymryd y posibilrwydd o’r goruwchnaturiol o ddifri am y tro cyntaf. Y flwyddyn allweddol oedd 1952. Roedd newydd briodi â Beti ac roeddent yn byw yn Llanidloes. Un Sul aeth i’r oedfa ac roedd y gweinidog yn darllen y Gair cyn y cymun o Luc 22:21 – “Wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd.” Ac meddai Bobi: “Stopiodd, oedodd ychydig, ac yn yr eiliadau yna, mewn bwlch rywsut, drwy’r Ysbryd Glân, fe ddaeth Iesu Grist yn fyw yn fy nghalon.”

Bu ei dröedigaeth yn gyfrwng i ddyfnhau ei wreiddiau Cymraeg a Chymreig gan fod ei ffydd newydd efengylaidd wedi agor y drws iddo i’r traddodiad Cristnogol Cymreig. Yn gyffredinol ei arwyr mawr oedd Awstin, Luther a Chalfin ond, yng Nghymru, y ffigwr a fu’n arwr ac yn gydymaith defosiynol iddo trwy’r blynyddoedd oedd William Williams, Pantycelyn. O ran ei gyfoeswyr bu ei gefnder, y Parch Geoff Thomas, yn ddylanwad arno – yn arbennig felly wedi iddo ddychwelyd i Gymru yn yr 1960au ar ôl derbyn hyfforddiant yng ngholeg diwinyddol enwog Westminster, Philadelphia oedd yn fagwrfa i’r dadeni Calfinaidd ar y pryd. Dylanwad mawr arall oedd y pregethwr Martyn Lloyd-Jones, a bu’n gŵyn gyson gan Bobi nad oedd Dr Martyn yn cael sylw haeddiannol yng Nghymru ag ystyried mai ef oedd yr awdur Cymreig â’r gwerthiant mwyaf ar ei gyfrolau yn rhyngwladol. Debyg iawn mai ffordd anuniongyrchol o brotestio nad oedd y safbwynt efengylaidd clasurol yn cael sylw haeddiannol gan y Gymru gyfoes oedd hyn.

Gras Cyffredin a Sofraniaeth y Sfferau
Yn y byd academaidd darganfu yn R. Tudur Jones enaid hoff cytûn, yn arbennig oherwydd dylanwad Calfinwyr yr Is-Almaen. Daeth Bobi a Tudur fel ei gilydd dan ddylanwad unigolion fel Kuyper a Dooyweerd oedd yn hyrwyddo ffurf ar Galfiniaeth oedd yn cyflwyno fframwaith diwinyddol i’r Cristion ymhél â phynciau fel gwleidyddiaeth, llên, y gyfraith a diwylliant yn gyffredinol.

Mae dau gysyniad o’r traddodiad Calfinaidd yn haeddu sylw penodol gan eu bod yn gysyniadau roedd Bobi yn achub ar bob cyfle i siarad amdanynt. Y cyntaf oedd athrawiaeth Gras Cyffredin. Yn ôl yr athrawiaeth hon, mae gras yn syrthio ar bawb yn ddiwahân – nid yw Duw’n penderfynu pwy gaiff dderbyn bendithion cyffredinol gras. Yn ôl Bobi yr athrawiaeth hon sy’n esbonio bodolaeth llenorion Cristnogol ofnadwy a llenorion seciwlar disglair. Hynny yw, mae yna fendithion o ras Duw yn syrthio ar bawb – yn gredadun neu beidio a dyna sy’n gwneud diwylliant yn bosib.

Yr ail wedd ar ddiwinyddiaeth y traddodiad Calfinaidd a hawliodd sylw Bobi oedd athrawiaeth sofraniaeth y sfferau. Dadleuai Bobi fod gan Dduw ordinhadau ar gyfer bywyd cymdeithasol dyn. Mae i bob sffêr, o’r ‘teulu’ i’r ‘gwleidyddol’ i ‘iaith’ a hyd yn oed ‘chwaraeon,’ ei hannibyniaeth a’i sofraniaeth ei hun ond credai mai i Dduw, yn y bôn, y perthyn pob sofraniaeth. Mae i bob sffêr felly gyfrifoldeb uniongyrchol i Dduw ac nid i unrhyw sffêr arall. Felly, mae hon yn athrawiaeth sy’n dadlau yn erbyn i’r sffêr Eglwysig ddylanwadu ar y sffêr ddiwylliannol neu wleidyddol, dyweder, na’i rheoli. Mae hefyd yn gwarchod annibyniaeth yr eglwys oddi wrth y wladwriaeth.

Gwaddol
Mae rhai wedi awgrymu fod cyfundrefn Galfinaidd Bobi yr un mor ddamcaniaethol a haearnaidd ag athrawiaeth y dyneiddwyr modern y taranai’n aml yn eu herbyn. Gellir gwerthfawrogi hefyd sut y bu i rai nad oedd yn rhannu profiad Cristnogol Bobi deimlo ei fod ar adegau yn awgrymu fod eu diffyg profiad ysbrydol hwy yn golygu fod eu dirnadaeth o’r byd rywsut yn gyfyngedig ac anghyflawn. Gellir hefyd weld tuedd tuag ag sectyddiaeth ynddo wrth gyffredinoli am eglwysi a Christnogion nad oedd yn rhannu ei union olygiad ef o’r ffydd.

Ond drwodd a thro roedd Bobi nid yn unig yn arloeswr yn ein llên ond hefyd yn un o amddiffynwyr y ffydd mewn oes pan oedd llawer, yn arbennig yn y byd academaidd, yn prysur anghofio ein gwaddol Cristnogol. Ac mae’n amhosib deall ein stori ni fel Cymry heb ystyried cyd-destun y gwaddol Cristnogol. Ni ellir gwneud synnwyr o stori’r Cymry heb roi ystyriaeth lawn i’r Ysbryd Glân fel ffactor hanesyddol – dyma a wnaeth Bobi a dyna pam y mae ei waith a’i ddylanwad mor bwysig.

Ar achlysur ei angladd ni chlywyd sôn am ei raddau, ei gyhoeddiadau na’r hyn a gyflawnodd gydol ei yrfa. Beth a gafwyd, yn syml iawn, oedd pregeth am ei Arglwydd a’i Waredwr.

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn Cristion (Ionawr / Chwefror 2018 | Rhifyn 206)

Please follow and like us:
error

Saunders, Ewrop a’r Refferendwm

Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol yn rhifyn Mai/Mehefin 2016 o Cristion. Cliciwch yma i danysgrifio.

Wrth i mi ysgrifennu’r geiriau yma mae sôn bod UKIP yn debygol o ennill ambell sedd yn Etholiadau Cymru a bod canran nid ansylweddol o Gymry yn bwriadu pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd fis Mehefin. Ag adleisio geiriau Saunders Lewis yn y Llenor yn 1927: ‘Ofn sydd arnaf wybod pa mor anewropeaidd y gall hyd yn oed arweinwyr meddwl Cymru heddiw fod.’

I Saunders nid oedd ‘Cymru’n bod namyn fel rhan o Ewrop’. Mae tuedd ynom i ddiffinio pwy ydym ni mewn perthynas ag eraill. Yn anffodus fel Cymry y duedd yw diffinio ein hunain mewn cyferbyniad â ‘nhw’ y “Saeson”. Y syniad goleuedig am Ewrop yw ei fod yn ein rhyddhau i ddiffinio ein hunain fel ein bod yn rhan o rywbeth yn hytrach nag yn bobol sydd ddim yn rhywbeth. Llawer gwell yw dweud ein bod ni’n Gymry yn Ewrop nag ein bod ni’n Gymry nid yn Saeson.

Mae’r syniad o undod organig drwy Ewrop yn eithriadol o bwysig i’n hunaniaeth ni fel Cymry sy’n arddel ffydd yng Nghrist. Cyn twf gwladwriaethau modern, yr hyn oedd yn diffinio Ewrop ac yn pennu ei ffiniau oedd terfynau Gwledydd Cred (Christendom). Yn 1964 dywedodd D. Myrddin Lloyd yn ei ysgrif ‘Cymru a Ewrop’ yn Efrydiau Athronyddol mai llwyddiant Islam a barodd i derfynau Gwledydd Cred syrthio’n daclus gyda ffiniau daearyddol cyfandir Ewrop yn y diwedd. Mae’n eironig braidd fod polemig gwrth-Foslemaidd yn ganolog bellach i naratif y rhai sydd eisiau chwalu’r freuddwyd Ewropeaidd.

Er i ni ymfalchïo yn ein treftadaeth Gristnogol Gymraeg, boed yn ei wedd Geltaidd Gatholig neu Brotestannaidd Anghydffurfiol, ni allwn wadu nad ydym yn perthyn i draddodiad mwy sy’n sylfaenol Ewropeaidd. Er y byddai Saunders Lewis, efallai, yn dadlau mai dim ond y Catholigion all hawlio’r fantell Ewropeaidd, gallaf dystio nad oedd llawer o bellter rhwng pulpud Protestannaidd fy mhlentyndod a drws Eglwys Wittenberg neu ddinas Genefa. Fel Cristnogion Cymraeg rydym yn ymwybodol iawn ein bod ni’n rhan o deulu Ewrop.

Efallai nad ydym wedi rhoi sylw teg i’r Pêr Ganiedydd fel un o’n Hewropeaid enwocaf. Yn ei waith Pantheologia, Neu Hanes Holl Grefyddau’r Byd mae Pantycelyn yn hiraethu am weld ei gyd-Gymry yn dod yn fwyfwy ymwybodol eu bod yn rhan o rywbeth mwy. Dywedodd D. Myrddin Lloyd amdano:

“Gwelai berygl crefyddol mawr yn yr agwedd meddwl hon, sef temtasiwn i weld ein ffurfiau crefyddol ni fel rhan o drefn natur, ac fe’n rhybuddia hefyd mai dinasyddion gwael a wnawn heb y weledigaeth ehangach o Ewrop a’r byd . . . ofnai’n fawr yr hunan-fodlonrwydd a darddai o wrthod cymryd o ddifri y byd y tu allan i Brydain, a chwilio am y norm yn unig o’i mewn.”

Yn ôl D. Myrddin Lloyd ‘proffwyd mawr Ewropeaeth fodern’ oedd neb llai nag Emrys ap Iwan: ‘Y mae’n werth, meddai, i Gymro fynd i Ffrainc pe na bai’n unig er mwyn ei gael ei hun mewn gwlad lle nad yw “I say” y Sais ddim yn hollol gyfystyr â “Fel hyn y dywed yr Arglwydd”’. Y mae gennym fel Cristnogion yng Nghymru draddodiad cryf felly o weld ein hunain fel cenedl ie, ond cenedl sy’n perthyn i deulu ehangach o genhedloedd na dim ond y genedl drws nesaf.

O ddychwelyd at yr arch-Ewropead ei hun, Saunders Lewis, gallwn fel Cristnogion werthfawrogi’r grymoedd ideolegol sydd ar waith yn y naratif cyfoes ynglŷn â chenhedloedd a sofraniaeth. Yn un o ddogfennau sylfaen Plaid Cymru yn 1926, Egwyddorion Cenedlaetholdeb, esboniodd Saunders mai cenedlaetholdeb oedd y broblem! Fel y mae sawl Cristion, o Saunders i R. Tudur Jones i Rowan Williams, wedi ceisio dangos, y mae sawl math o genedlaetholdeb ar gael yn archfarchnad yr ideolegau. Ceir y math sinistr mewnblyg sy’n dangos ei hun, ar y gorau, yng ngwleidyddiaeth rad a thrahaus Nigel Farage, ac ar y gwaethaf, ym mhenllanw hyll y Drydedd Reich. Ond y mae yna genedlaetholdeb arall hefyd, y math o genedlaetholdeb sy’n ddigon hunan-hyderus i fod yn gwbl gyfforddus wrth ei weld ei hun yn rhan o deulu’r cenhedloedd, yn rhan o Ewrop.

Ond tybed oes angen i ni wahaniaethu rhwng hen wareiddiad Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd fel sefydliad modern? Ydy hi’n bosib talu gwrogaeth i’r naill a gobeithio am ddiwedd y llall? Tybed beth fyddai gan Saunders, y rhyddewyllysiwr gwrth-wladwriaethol, i’w ddweud am y lefiathan biwrocrataidd ag ydyw’r Undeb Ewropeaidd? Fe wyddom mai ei ddelfryd economaidd ef, pa mor naïf bynnag ydoedd, oedd gweld Cymru’n troi cefn ar ei diwydiannau a chanolbwyntio ar amaethu. Ag ystyried mai’r Undeb Ewropeaidd, i raddau helaeth, sy’n dal y Gymru amaethyddol rhag syrthio i ddinistr llwyr, efallai fod hynny’n awgrymu sut y byddai’n pleidleisio? Ond wedyn, wn i ddim a fyddai ystyriaethau mor faterol ac ymarferol â hynny yn llywio ei farn!

I orffen ar nodyn ysgafn, efallai y cawn ddymuno’n dda i’r Cymry hynny fydd yn dilyn galwad Emrys ap Iwan i fynd i Ffrainc i brofi Ewrop yr haf yma. Yn benodol profi Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop gyda Chymru wedi llwyddo i gyrraedd y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1976. Fel mae’n digwydd, mae Cymru’n chwarae yn erbyn Lloegr yn y gystadleuaeth wythnos yn unig cyn y Refferendwm ar Ewrop – eironi dramatig y byddai Saunders y dramodydd mae’n siŵr yn falch ohono.

Please follow and like us:
error

Beth a gadwodd ein hunaniaeth a’n hiaith yn fyw?

Daeth y newyddion da ddoe fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud tro pedol a bellach ni fydd toriadau sylweddol yn dod i gyfarfod y grantiau sy’n mynd tuag at gyhoeddi Cymraeg a Chymreig. Bu’n ymgyrch fer ond brwd ers cyhoeddi’r bwriad i dorri rhai wythnosau’n ôl, ac un rhan o’r ymgyrch oedd y llythyr at y Llywodraeth ar ran yr awduron ac ysgolheigion wedi ei ysgrifennu gan Angharad Price. Roedd yn llythyr arbennig, ond fel arweinydd Eglwys a diwinydd-amatur fe safodd un frawddeg allan i mi am y rhesymau anghywir.

“Am ganrifoedd, llenyddiaeth oedd unig sefydliad cenedlaethol y Cymry. Dyma sut y buom yn ein mynegi ein hunain fel pobl: dyma a gadwodd ein hunaniaeth a’n hiaith yn fyw.”

Er mod i’n cytuno gydag ergyd dadl Angharad Price, roedd problem gen i gyda’r haeriad mai llenyddiaeth oedd unig sefydliad cenedlaethol y Cymry. Fy nheimlad i oedd bod yna eliffant mawr yn y ‘stafell – eglwys Iesu Grist! Siawns y bu honno hefyd yn sefydliad cenedlaethol a fu’n fodd i gadw a meithrin ein hiaith ân hunaniaeth dros y canrifoedd?

Datblygodd sgwrs wedyn ar twitter gyda Dylan Foster Evans a Cynan, fy mrawd, ynglŷn â’r cwestiwn a oedd Eglwys Iesu Grist wir yn sefydliad cenedlaethol trwy’r canrifoedd ynteu ddod yn sefydliad cenedlaethol a wnaeth yn gymharol ddiweddar? Yn ôl un diffiniad o ‘sefydliad cenedlaethol’ (sefydliad unedig, tiriogaethol genedlaethol a chydnabyddedig ei statws?) efallai na ellir dadlau fod yr eglwys wedi bod yn sefydliad cenedlaethol tan y G19. Ac yn ôl y diffiniad hwnnw efallai nad yw’r eglwys yn ‘sefydliad cenedlaethol’ o hyd gan nad oes gyda ni (a da felly) eglwys wladol, a bod llawer o eglwysi yn rhai ‘annibynnol’ (o ran natur, nid o ran enwad). Ond wedyn a mesur ‘sefydliad cenedlaethol’ yn ôl y safon honno i ba raddau mae ‘llenyddiaeth’ felly yn ‘sefydliad cenedlaethol’?

Rwy’n tybio fod defnydd Angharad Price o’r term ‘sefydliad cenedlaethol’ yn ddefnydd mwy llac, ac mewn gwirionedd yn siarad am lenyddiaeth Gymraeg fel traddodiad a symudiad yn fwy ‘na ‘sefydliad’ yn yr ystyr modern o’r gair ‘sefydliad’. Ac felly dyna pam dwi ddim yn meddwl mai llenyddiaeth oedd yr unig ‘sefydliad cenedlaethol’ oedd gyda ni’r Cymry. Mae yna draddodiad a symudiad arall y gellir ei olrhain, yn ôl rhai, yr holl ffordd yn ôl i oes y Seintiau sef traddodiad eglwys Iesu Grist.

Please follow and like us:
error

R. Geraint Gruffydd (1928-2015) – atgofion personol

r-g-gruffydd-e1427370781445Roedd hi’n drist iawn clywed am farwolaeth R. Geraint Gruffydd wythnos yma. Ces i’r fraint anghyffredin o’m magu yn yr un Eglwys ag yr oedd e’n aelod, yr Eglwys Efengylaidd yn Aberystwyth. Am rai blynyddoedd ces i’r fraint o’i alw e, gyda Bobi Jones, yn athrawon Ysgol Sul. Rwy’n medru dwyn i gof y gwersi yn mynd trwy lyfr yr Actau gyda Geraint a Bobi’n dod a’r cyfan yn fyw drwy eu dealltwriaeth a’u dehongliad o gyd-destun a chefndir diwylliannol a gwleidyddol cyffrous cyfnod yr Eglwys fore.

Daeth i’m cof wythnos yma hefyd mae Geraint oedd y cyntaf i fy holi a oedd fy mryd ar y Weinidogaeth Gristnogol. Yr ateb pendant ar y pryd, a minnau ddim hŷn na dwy ar bymtheg os nad iau, oedd na! Rwy’n ei gofio’n dod i siarad â mi rai wythnosau wedyn a holi, ‘os ddim y Weinidogaeth beth am fod yn Aelod Seneddol?’ Roedd y sgyrsiau hyn yn ddadlennol yn yr ystyr eu bod yn dangos fod Geraint yn cyfri gwerth arbennig i’r ddwy rôl yn ei Gymru ef, ond fod yr arweiniad ysbrydol yn cael y flaenoriaeth. Wrth gwrs erbyn heddiw mi rydw i’n Weinidog, er i mi anghofio tan wythnos yma mae Geraint a’m holodd yn gyntaf ynglŷn â’r llwybr posib hwnnw.

Cof arall sydd gen i ynglŷn â Geraint oedd ei gyngor a’i ddoethineb wrth i mi ddechrau fy ngwaith ymchwil ar Genedlaetholdeb Cristnogol R. Tudur Jones. Wrth drafod y testun, y syniadau a’r bobl gyda Geraint roedd hi’n amlwg mae nid trafod hanes yr oedd Geraint ond trafod digwyddiadau roedd wedi byw trwyddynt a phobl roedd wedi eu hadnabod yn dda. Dau gyfaill pennaf ei Dad, Moses Gruffydd, oedd Saunders a J.E. Daniel – dau genedlaetholwr a dau uniongredwr diwinyddol yn eu lliwiau gwahanol. Wrth golli Geraint rwy’n amau ein bod ni wedi colli ein cyswllt uniongyrchol olaf allai wir roi cyfri am haen ysbrydol syniadaeth wleidyddol Saunders a J.E. Daniel.

A dyna gyffwrdd ar yr hyn a ddaethai a gwefr i mi fel Cristion a chenedlaetholwr ifanc – yn Geraint, fel Bobi, roedd gen i athrawon Ysgol Sul oedd nid yn unig yn Gristnogion uniongred ond hefyd yn genedlaetholwr cadarn. Pan oeddwn yn fy arddegau hwyr ychydig oedd gan y Cristnogion efengylaidd roeddwn yn eu hadnabod i’w ddweud am genedlaetholdeb ac ychydig oedd gan y cenedlaetholwr roeddwn yn eu hadnabod i’w ddweud am Gristnogaeth efengylaidd (ac eithrio fy rhieni, ynddyn nhw ces i fy magu yn sŵn llawen y ddau!). Felly roedd dod i ddarllen a chlywed syniadau Geraint a Bobi yn chwa o awyr iach i Gristion o genedlaetholwr ifanc. Nid oedd rhaid i mi ddewis rhwng fy Nghristnogaeth a fy nghenedlaetholdeb fel roedd rhai Cristnogion ‘efengylaidd’ eraill yn ceisio fy mherswadio ar y pryd.

Yn olaf, mi fydd gostyngeiddrwydd Geraint yn aros yn y cof. Gostyngeiddrwydd oedd yn deillio o’i ffydd Gristnogol. Rwy’n cofio clywed rhywun yn dweud na fyddai gobaith gan Geraint gael yr yrfa lwyddiannus a gafodd heddiw gan na fyddai’n medru “gwerthu ei hun” mewn cyfweliadau. Ar adegau roedd ei ostyngeiddrwydd yn rhwystredig, rwy’n cofio y tro es i i’w holi ynglŷn â gwaith R. Tudur Jones – dros y ffôn ac ar ôl i mi gyrraedd roedd yn mynnu na fyddai dim o werth gyda fe rannu o gwbl – cyn mynd ymlaen i rannu perlau dwfn amhrisiadwy o wybodaeth am fywyd, dylanwadau a syniadau R. Tudur Jones. Mae yna wybodaeth am J.E. Daniel a dylanwad Daniel ar R. Tudur Jones yn fy ngwaith ymchwil nad yw wedi ei gyhoeddi na’i ddatgelu yn unrhyw le arall heblaw am y sgwrs ces i gyda Geraint y diwrnod hwnnw.

Mae fy nghydymdeimlad a’m gweddïau gyda Luned, ei Weddw, a’r teulu cyfan. Er i ni golli cawr, nid ydym yn galaru fel y rhai heb obaith oherwydd ‘Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â’r rhai a hunodd drwy Iesu.’ (1 Thes. 4:14)

Please follow and like us:
error

Dadlau’n erbyn y boogeyman ffwndamentalaidd

Dros y ddeuddydd diwethaf mae sgwrs ddifyr wedi digwydd ar Twitter. Yn ddigon diniwed fi wnaeth ddechrau’r cyfan gyda’r neges yma:

Rhywsut fe ddehonglwyd y neges fel person o ffydd yn ymosod ar ymchwil gwyddonol. Fel person o ffydd rwy’n credu mewn gwyddoniaeth ac yn credu mewn ymchwil gwyddonol – roedd fy ngwestiwn yn ymwneud â blaenoriaethau o fewn byd ymchwil gwyddonol. Ar ôl i bobl ateb fy neges roeddwn i’n ddigon hapus fod y daith i’r Comet yn debygol o ddod a gwerth.

Ond rhywsut aeth y drafodaeth ymlaen a mynd yn ddadl fawr gwyddoniaeth Vs ffydd. Yn bersonol tydw i ddim yn meddwl fod yn rhaid i rywun ddewis rhwng gwyddoniaeth a ffydd. Fel sydd yn hysbys i bawb tydw i ddim yn wyddonydd, does gen i ddim meddwl gwyddonol ac fe wnes i’n drychunebus yn y pynciau yn yr ysgol. Ond, dydy hynny ddim i ddweud nad ydw i’n gwerthfawrogi pwysigrwydd a gwerth gwyddoniaeth, ddim o gwbwl. I mi mae’r gwyddonydd yn derbyn ei ddoniau gan Dduw, ac fel mae’r gwyddonydd o Gristion John Houghton (sy’n enwog am dynnu sylw’r byd am broblemau cynhesu byd eang) yn dweud yn aml, un o gyfrifoldebau’r gwyddonydd yw dod i ddeall a dygymod a creadigaeth Duw yn well.

Wrth i’r sgwrs nol a blaen ar twitter ddatblygu yr hyn ddaeth yn amlwg oedd fod pobol, eto, yn cam-ddeall fy safbwynt. Gan mod i’n Gristion “efengylaidd”, roedd pobol yn gwneud y camgymeriad o feddwl mod i felly yn Gristion “ffwndamentalaidd” o’r math a gwelir yn aml yn bytheirio ar y teledu.

Felly jest i glirio pethau i fyny dyma rannu tabl dwi wedi rhannu sawl tro o’r blaen yn dangos y gwahaniaethau rhwng fy nghristnogaeth ‘efengylaidd’ i a Christnogaeth ‘ffwndamentalaidd’ anffodus eraill.

Pan mae anffyddwyr yn mynd i’r afael a Christnogaeth yr opsiwn hawdd, diog efallai, ydy mynd i’r afael a’r boogeyman ffwndamentalaidd. Weithiau byddwn i’n hoffi petai anffyddwyr yn eu gadael nhw allan o’r sgwrs er mwyn i ni gael sgwrs gall go-iawn. Ond wedyn mae’n haws dadlau yn erbyn yr abswrd yn tydi?

5615432225_04d6d8ceba_o

Please follow and like us:
error

Cynhadledd Plaid Cymru

Ar y ffordd adre o gynhadledd y BMS yn Sheffield ddoe fe wnaethom ni alw mewn yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llangollen. Dyma oedd y tro cyntaf i mi fynd i gynhadledd y Blaid.

Pan yn astudio bywyd a gwaith R. Tudur Jones dwi’n cofio dod ar draws gohebiaeth rhyngo fe a Gwynfor yn trafod sut roedd cynadleddau’r Blaid wedi newid dros y blynyddoedd. Cynhadledd Plaid Cymru yn Nolgellau yn 1967 oedd y trobwynt yn ôl Tudur Jones. Yno y dechreuodd y Blaid lunio polisïau ymarferol a phellhau oddi wrth rethregu ar egwyddorion yn unig. Rhybuddiodd Tudur nad oedd hyn heb ei beryglon: ‘Ni cheid mwyach y darlithiau i ysbrydoli. Prin y soniwyd am hanes Cymru. Ychydig a glywyd mwyach am egwyddorion cenedlaetholdeb. Bellach symudwyd y pwyslais a’i osod yn hytrach ar yr elfennau pragmataidd hynny sy’n ennill pleidleisiau yn awr.’

Dywedodd Tudur Jones wrth Gwynfor Evans yn 1981, wrth i’w lywyddiaeth ef ddod i ben, ei fod yn parhau’n fwy cyfforddus gyda’r ‘hen bwyslais’ ac iddo ‘orwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.’ Er bod Tudur Jones yn cydnabod pwysigrwydd trafod ‘y pethau sy’n debyg o ddenu cefnogaeth ar ddydd etholiad,’ mynnai bwysleisio nad ‘mater o gofleidio set o dybiaethau athronyddol yw cenedlaetholdeb ond yn hytrach cael pobl i gydnabod nodweddion eu dynoliaeth eu hunain. Ffurf ar hunan-adnabyddiaeth ydyw.’ Tybiodd fod perygl yn perthyn i’r trywydd mwy ymarferol yma, sef mabwysiadu agweddau ar wahanol athroniaethau economaidd, arwain Plaid Cymru i’r un gors a’r pleidiau Prydeinig: ‘Gwelsom eisoes beth a ddigwyddodd i’r Blaid Lafur pan lyncodd bragmatiaeth Harold Wilson,’ meddai. ‘Yn lle ymddiosg o’r caledwch doctrinaire a oedd yn mygu’r haenau dynol yn ei neges, fe ddatblygodd yn blaid ddiegwyddor yn yr ystyr lythrennol.’ Mynnodd Tudur Jones fod rhaid cadw’r ffocws ar raison d’être y Blaid, sef rhyddid i’r Cymry: ‘Nid ymgiprys am rym yn unig yr ydym. Grym er mwyn cyrraedd nod rhyddid y genedl yw’r peth yr ydym eisiau ei gael.’ Y rhyddid hwnnw oedd rhyddid oddi wrth Brydeindod.

Rhyddid sydd yn parhau i fod yn bosib yn unig drwy amcan hir dymor y Blaid, annibyniaeth. Ymlaen!

Please follow and like us:
error