Category Archives: Uncategorized

Fatalism neu Gristnogaeth?

Beth ddylai’r ymateb Cristnogol fod pan fo democratiaeth yn rhoi’r ateb ‘anghywir’ yn ôl ein cwmpawd moesol ni? Encilio a rhoi’n sylw’n unig i faterion ysbrydol pur? Golchi ein dwylo â’r byd gan ymddiried yn ‘rhagluniaeth fawr y nef … trwy bob helyntoedd blin [a] therfysgoedd o bob rhyw’?

Rwy’n sylwi fod llawer o Gristnogion eisioes yn baglu dros ei gilydd i ddweud bod ‘Duw yn dal wrth y llyw’ a bod ‘rhaid i ni ymddiried yn ei gynllun ef’ a hefyd ‘dim ond am dymor mae XYZ wedi ei ethol, mae Iesu ar ei orsedd dragwyddol!’. Er mod i’n deall sentiment yr ymatebion, mae’r agwedd meddwl na allwn (ac na ddylem) wneud dim yn wyneb buddugoliaeth swmpus y dde yn debycach i dynghediaeth (fatalism) nag i Gristnogaeth Feiblaidd i’m golwg i. Dywed tynghediaeth fod yr hyn sydd i fod i fod ac na allwn ni wneud dim i newid hynny. Ar y llaw arall fe gred Cristnogaeth fod Iesu ar ei orsedd, ac ei fod yn galw ar ei Eglwys i fod yn rym creadigol ac adferol yn ei fyd ac yn galw arnom i fod yn bartneriaid gydag ef wrth ddwyn i mewn Deyrnas Nef rhwng y ddau atgyfodiad.

Er bod yna rinwedd i eglwysi ryddhau datganiadau, arwyddo deisebau a chynnal cyfarfodydd cyhoeddus mewn ymateb i ddatblygiadau gwleidyddol ein dydd, mewn gwirionedd mae angen i ni ganolbwyntio’n bennaf ar y gwaith ar lawr gwlad – yr eglwys leol yw egin Teyrnas Dduw yn y byd – ac mae angen i ni ymroi o’r newydd i’r gwaith o wneud disgyblion fydd yn eu tro yn gwneud disgyblion hefyd. Y ffordd o newid cymdeithas ydy newid y person. Credwn fod Iesu yn Arglwydd sy’n galw ar bobl i gredu yn ei enw – ond credwn hefyd ei fod yn Arglwydd sy’n dymuno, trwy ei eglwys, chwarae rhan fyw a dynamig yn y byd heddiw. Felly, cofiwn fod ein gobaith yn Iesu, ond ein gwaith yn y byd.

What should the Christian response be when democracy gives the ‘wrong’ answer according to our moral compass? Retreat and focus solely on spiritual matters? To distance our selves from the world and trust blindly in the providence of heaven?

I’ve noticed that many Christians are already tripping over each other to say that ‘God is still in charge’ and that ‘we must trust His plan’ and also ‘XYZ has only been elected for a term, Jesus is on his eternal throne!’ Although I understand the sentiment of these responses, the attitude of thinking that we cannot (and should not) do anything in the face of the rampant victory of the right is more akin to fatalism than biblical Christianity. Fatalism says that what is was meant to be and that we can do nothing to change that. Christianity, on the other hand, believes that Jesus is on his throne, and calls on his Church to be a creative and restorative force in his world and calls on us to partner with him in bringing in the Kingdom of Heaven between the two resurrection.

Some churches issue declarations, arrange the signing of petitions and hold public meetings in response to the political developments of our day, but we really need to focus on the work on the ground – the local church is the green shoots of God’s Kingdom in the world – and we need to re-engage in the work of making disciples who will in turn make other disciples. The way to change society is to change the person. We believe that Jesus is a Lord who calls on people to believe in his name – but we also believe that he is a Lord who, through his church, wants to play a living and dynamic role in today’s world. Therefore, we remember that our hope is in Jesus, but our work is in the world.

Please follow and like us:
error

Ganwyd Iesu’n nyddiau Herod – Rhan 3

Ddoe fe wnes i rannu fod Teyrnas Dduw a thuedd tuag at bobl sydd ddim yn cael chware teg a chyfiawnder yn y byd fel y mae – y tlawd, y caeth a’r di-lais. O ganlyniad roeddwn i’n rhannu fy nghred y dylai lles pobl felly mewn cymdeithas fod yn flaenllaw ym meddwl y Cristion wrth benderfynu sut i bleidleisio.

Heddiw dwi’n troi fy sylw at ffenomenon “Fake News” a’r duedd ddiweddar o weld gwleidyddion yn osgoi cael eu sgrwtineiddio. Y gwir amdani yw fod dim byd newydd dan yr haul. Roedd arweinwyr gwleidyddol hyd yn oed yn amser y Beibl yn llac gyda’r gwirionedd os oedd hynny’n gweithio o’u plaid – roedd geiriau ffals Herod i’r Doethion yn ceisio cuddio ei wir gymhellion yn enghraifft o wleidydd yn lledu math o “Fake News” reit yng nghanol stori’r Nadolig cyntaf.

Dwi ddim yn meddwl ei fod yn gyd-ddigwyddiad fod y pwysau mae pobl yn rhoi ar wirionedd yn lleihau wrth i gymdeithas hefyd gredu llai a llai yn Nuw yn Iesu Grist oedd yn honni mae fe oedd “y ffordd, y gwirionedd a’r bywyd.” Mewn cyd-destun diwylliannol sy’n gwadu’r syniad fod yna’r fath beth a gwirionedd cyffredinol mae gwleidyddion yn cael rhwydd hynt i ddweud pethau fydden nhw byth yn cael dweud a pharhau mewn bywyd cyhoeddus genhedlaeth yn ôl.

Mae cymeriad gwleidydd yn bwysig. Mae gwybod fod rhywun yn dweud y gwir yr un mor bwysig, bron yn bwysicach, na beth yw eu polisïau.

Er na allwn ddisgwyl i wleidyddion sydd ddim yn rhannu ein ffydd fyw fel disgyblion i Iesu – mae yna ryw lefel sylfaenol o gymeriad rydym yn disgwyl gan bawb sydd am wasanaethu mewn bywyd cyhoeddus, os ydyn nhw yn rhannu ein ffydd neu beidio. Felly i’m tyb i mae pwyso a mesur cymeriad gwleidydd yn ystyriaeth yr un mor bwysig i’r Cristion ag ydyw pwyso a mesur eu polisïau.

Yn olaf, gair am genedlaetholdeb. Bydd rhai yn gwybod mod i wedi treulio (neu wastraffu!) bron i bum mlynedd o’m bywyd yn astudio PhD mewn i berthynas Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb. Ar y pryd roedd llawer yn dweud fod y pwnc yn amherthnasol ond ddeg mlynedd yn ddiweddarach mae wedi profi i fod yn bwnc perthnasol iawn. Cenedlaetholdeb sydd wedi bod yn gyrru agenda Brexit, cenedlaetholdeb yr SNP sy’n cynhyrfu pethau yn yr Alban, cenedlaetholdeb sydd tu ôl i brosiect ‘Get Brexit Done’/’One Nation’ Boris Johnson a chenedlaetholdeb sydd tu ôl i ymgyrchoedd YES Cymru a Phlaid Cymru yma. Mae cenedlaetholdeb yn rym real yn ein gwleidyddiaeth heddiw. Beth ddylai ymateb y Cristion fod?

Wel, o geisio crynhoi’r PhD mewn i ychydig frawddegau: mae’n dibynnu! Mae yna wahanol fathau o genedlaetholdeb – mae gyda chi genedlaetholdeb sy’n gwneud ‘duw’ o’r genedl – mae’r math yma o genedlaetholdeb yn eilunaddolgar ac mi ddylai’r Cristion ei wrthwynebu yn syth. Ond mae yna fath arall o genedlaetholdeb sef un sy’n dathlu’r egwyddor Feiblaidd o ‘undod mewn amrywiaeth’. Ar ôl pwyso a mesur dwi’n meddwl y gall ac y dylai’r Cristion gefnogi’r math yma o genedlaetholdeb. Mae’n amlwg i bawb fod cenedlaetholdeb Adam Price, er enghraifft, yn gwbl wahanol i genedlaetholdeb Nigel Farage.

Felly i gloi, ewch allan i bleidleisio ddydd iau. Pleidleisiwch gan adael i werthoedd Teyrnas Dduw lywio eich penderfyniad.

Dylai’r Cristion ddiystyru pleidleisio i UKIP a’r Brexit Party yn syth. Er nad ydw i’n dweud na allwch chi fod yn Gristion a phleidleisio i’r Ceidwadwyr, a phwyso a mesur yr ystyriaethau dwi wedi rhannu yn y tair erthygl yma, i mi o leiaf ni fyddwn i fel Cristion yn gallu ystyried pleidleisio drostynt.

Mae hynny yn gadael yr SNP, Y Blaid Werdd, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru. Dan wahanol amgylchiadau ac yn byw mewn gwahanol etholaethau dros y Deyrnas Unedig gallaf weld fy hun yn pleidleisio i bob un o’r pleidiau hynny yn eu tro. Ond yma yng Ngogledd Orllewin Cymru dim ond un blaid sy’n ticio’r blwch ‘bias tuag at y tlawd a’r di-lais’ a hefyd anrhydeddu’r egwyddor o ‘undod mewn amrywiaeth’ pan mae’n dod i iaith, diwylliant a chenhedloedd.

Ond beth bynnag fydd y canlyniad fore dydd Gwener cofiwch y bydd Brenin Brenhinoedd dal ar ei orsedd.

Please follow and like us:
error

Ganwyd Iesu’n nyddiau Herod – Rhan 2

Ddoe fe wnes i rannu fod y Beibl yn ein dysgu i barchu a gweddïo dros ein harweinwyr gwleidyddol ond fod hynny ddim yn golygu rhoi ein ffydd ddall ynddyn nhw. Mae’n gywir i gwestiynu cymhellion, ac mae’n gywir i’w dal yn atebol. Ac nid oes dim o’i le mewn gwrthwynebu llywodraeth y dydd neu’r status quo os ydy hynny’n golygu ufuddhau i werthoedd uwch Teyrnas Dduw. Roedd gweithred y Doethion o beidio ufuddhau i Herod yn dangos fod anuffudd-dod i bwerau gwleidyddol y dydd weithiau’n angenrheidiol er mwyn bod yn ufudd i alwad Iesu.

Ond beth am ymwneud y Cristion gyda gwleidyddiaeth mewn ffordd adeiladol?

Mae’n amlwg fod Teyrnas Dduw a thuedd tuag at bobl sydd ddim yn cael chware teg a chyfiawnder yn y byd fel y mae. Edrychwch ar y geiriau wnaeth Iesu eu hadrodd pan ddechreuodd ei weinidogaeth gyhoeddus yn Nasareth yn Luc 4:

“Safodd ar ei draed i ddarllen o’r ysgrifau sanctaidd. Sgrôl proffwydoliaeth Eseia gafodd ei rhoi iddo, a dyma fe’n ei hagor, a dod o hyd i’r darn sy’n dweud: ‘Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i, oherwydd mae wedi fy eneinio i i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd. Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid, a phobl sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl, a’r rhai sy’n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr, a dweud hefyd fod y flwyddyn i’r Arglwydd ddangos ei ffafr wedi dod.’”

Luc 4

Er nad dod i bregethu efengyl wleidyddol wnaeth Iesu. Mae’n amlwg fod yna oblygiadau gwleidyddol i efengyl Iesu. Ac ymhlith yr oblygiadau yna mae consyrn arbennig am y tlawd, y caeth a’r di-lais. O ganlyniad rwy’n credu y dylai lles pobl felly mewn cymdeithas fod yn flaenllaw ym meddwl y Cristion wrth benderfynu sut i bleidleisio.

Mae brwdfrydedd Cristnogion ac eglwysi trwy’r wlad yn sefydlu a rhedeg Banciau Bwyd i’w nodi a’i edmygu ond fel Cristnogion dylem ddweud a gwneud rhywbeth ynglŷn â’r achos pam fod pobl yn troi at Fanciau Bwyd i ddechrau gan beidio bod ag ofn cael ein gweld yn cyffwrdd a chwestiynau gwleidyddol weithiau. Fel y dywedodd Hélder Câmara, Archesgob Catholig o Frasil unwaith: “When I give food to the poor, they call me a saint. When I ask why they are poor, they call me a communist.”

Mi roedd yna lun yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol wythnos diwethaf oedd yn dangos poster home-made mewn ffenestr rhywle oedd yn dweud: “Think of the most vulnerable person you know, and vote in their best interests.” Dwi’n meddwl fod hwnna yn egwyddor y gallwn ni fel Cristnogion bwyso arno cyn gwneud ein penderfyniad ddydd Iau.

Mwy o ystyriaethau eto fory…

Please follow and like us:
error

Ganwyd Iesu’n nyddiau Herod

Byddai rhai yn cwestiynu a ydy hi’n briodol i arweinwyr eglwysig drafod pynciau gwleidyddol o gwbl. Yn bersonol rwy’n ei weld yn ddyletswydd cyhyd a bod hynny’n cael ei wneud yn ofalus. Mae’r eglwys ar wahanol adegau wedi cael y balans yn anghywir. Bu cyfnodau lle syrthiodd yr eglwys Gristnogol yn ysglyfaeth i bwerau gwleidyddol y dydd ac wedi dod yn rhan o beiriant propaganda llywodraeth neu blaid wleidyddol. Bu cyfnodau hefyd lle ciliodd yr eglwys o gwestiynau gwleidyddol yn llwyr. Perygl yr eithaf yma yw bod y byd yn methu gweld perthnasedd ein ffydd a bod gwleidyddiaeth a diwylliant yn cael ei adael i bobl sydd ddim yn rhannu ein gwerthoedd.

Gan ei bod hi yn dymor y Nadolig dwi’n meddwl fod hanes y Doethion a’r Brenin Herod yn berthnasol. Yn yr hanes yn Mathew 2 rydym yn gweld Herod, yr arweinydd gwleidyddol, yn teimlo dan fygythiad wrth glywed fod yna Frenin arall wedi ei eni sef Iesu. Fel llawer o arweinwyr gwleidyddol mae Herod yn mynd ati i geisio manipiwleiddio’r sefyllfa o’i blaid. Mae Duw yn dangos cymhellion amhur Herod i’r Doethion ac wedyn mewn gweithred o anuffudd-dod sifil (o fath) maen nhw’n gwrthod ei gais i alw heibio iddo i adrodd am Iesu ac maen nhw’n dewis teithio adref ffordd wahanol.

Er bod y Beibl yn ein dysgu i barchu a gweddïo dros ein harweinwyr gwleidyddol dydy hynny ddim yn golygu rhoi ein ffydd ddall ynddyn nhw. Mae’n gywir i gwestiynu cymhellion, ac mae’n gywir i’w dal yn atebol. Mae’r ffaith fod Herod yn gweld dyfodiad y Brenin Iesu fel bygythiad yn ein hatgoffa fod galwad Teyrnas Dduw weithiau yn ein galw i wrthod teyrnasoedd y byd. Mae’r hanes yma yn ein hatgoffa ni fel Cristnogion fod ein teyrngarwch cyntaf i Iesu.

Ac felly yng ngoleuni hynny yr ydym yn pwyso a mesur pwy y dylem bleidleisio drosto.

Please follow and like us:
error

Patriarchiaeth yn hanes Ruth a Naiomi

Beth ydi patriarchiaeth?

Dyma yw’r diffiniad sydd yn yr Oxford Dictionary:

“A system of society or government in which the father or eldest male is head of the family and descent is reckoned through the male line.”

Oxford Dictionary

Neu…

“A system of society or government in which men hold the power and women are largely excluded from it.”

Oxford Dictionary

Dyma oedd y cyd-destun diwylliannol lle roedd hanes Ruth a Naiomi o’r Beibl yn chwarae allan. Ac ar y pwynt yma mae’n bwysig i ni baentio y darlun cefndirol yma yn glir i’n hunain er mwyn llawn werthfawrogi pa mor chwyldroadol, gobeithiol a counter-cultural ydy beth mae Duw yn gwneud wedyn yn hanes y ddwy yma.

Dyma ddyfyniad allan o ‘Finding God in the Margins’:

“The deaths of her sons represented a complete destruction of her life’s work. Within the context of the ancient patriarchal culture, the day they buried Mahlon and Kilion, they essentially buried Naomi too. Now past childbearing years, Naomi has no future and no hope.”

Finding God in the Margins – Carolyn Custis James

Yn llygaid diwylliant a cyfraith y cyfnod roedd Naomi yn llythrennol yn ddi-werth. Dim gŵr a dim meibion. Neb i ofalu amdani a neb i’w hamddiffyn hi. Ac yn aml byddai gwragedd oedd yn mynd i’r sefyllfa yma yn agored iawn wedyn i gael eu cam-drin, eu ecsbloetio a hyd yn oed i gael eu cipio ffwrdd fel caethweision, yn aml i’w cam-drin yn rhywiol.

O dan y diwylliant patriarchaidd yma doedd gan wragedd ddim hawliau a dim llais. Byddai diwylliant patriarchaidd y cyfnod yn cyfri gwerth Naiomi wrth gyfri faint o feibion oedd ganddi. Ac wrth gwrs yr ateb yn dilyn marwolaeth ei gwr a’i ddau fab oedd DIM.

Yr her i heddiw

Mae’n hawdd iawn i ni yn y Gorllewin feddwl mae rhywbeth sy’n perthyn i gyfnod yn hen hen hanes yw patriarchaeth. Ond mewn gwirionedd mae stori Naiomi yn ein helpu i agor ein llygaid i broblemau patriarchaeth yn ein byd ni heddiw. Trwy’r byd heddiw mae diwylliannau patriarchaidd dal i anwybyddu hawliau dynol merched mewn sawl ffordd.

Mae pethau fel gorfodi merched ifanc i briodi dynion hŷn a hyd yn oed gwerthu merched ifanc ffwrdd i weithio fel gweithwyr rhyw yn digwydd trwy’r byd gan gynnwys yma yng Nghymru fach heddiw.

Mewn rhai diwylliannau mae’n cael ei ystyried yn fraint i eni bachgen bach ond yn fwrn os nad yn warch i eni merch fach. Dyma ddyfyniad eto allan o ‘Finding God in the Margins’:

“A woman who worked as an obstetrical nurse in India observed those values in action. She described the dramatic difference between what happened when a woman gave birth to a son verses a daughter. When a son was born, the news was greeted with noisy, jubilant celebration. In contrast, the birth of a daughter was met with silence. She expressed distress over how difficult it often was to persuade a mother to hold her newborn daughter. Often the bride who fails to produce a son will experience abuse as the hand of her husband and in-laws.”

Finding God in the Margins – Carolyn Custis James

Mae’n hawdd i ni yn y Gorllewin dwt-twtio’n nawddoglyd am agweddau fel hyn yn niwylliannau pobl eraill. Ond y gwir amdani yw fod patriarchiaeth yn dangos ei hun yn ddigon amlwg yn ein diwylliant ni hefyd. Weithiau mewn ffordd di-niwed fel y duedd sydd gan rai dynion, gan fy nghynwys i, i #mansplaining. Hynny yw pan mae dyn yn teimlo fod yn rhaid iddo esbonio rhywbeth i ddynes ac yn hollol anymwybodol o’r modd tra-nawddoglyd mae’n gwneud hynny!

Ychydig yn fwy difrifol yw pethau fel y gender pay gap – y realiti yma fod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn y wlad dal yn talu tipyn yn llai i ferched am wneud yr union run swydd neu ddal yr union run lefel o gyfrifoldeb a dyn.

Brett Kavanaugh

Ond wedyn yn fwy difrifol ydy’r ffaith fod dynion dal yn cael rhyw fath o fantais a braint yng ngolwg y gyfraith a chymdeithas. Ac mae hynny wedi amlygu ei hun yn glir iawn yn yr hanes trist diweddar am y cyhuddiadau yn erbyn Brett Kavanaugh. Ei gair hi yn erbyn ei air ef. Efallai nad oedd digon o dystiolaeth i’w gael yn euog mewn llys barn. Ond yn y diwedd penderfynodd y rhan fwyaf o’r bobl mewn grym – y rhan fwyf ohonyn nhw yn ddynion gwyn – eu bod am gredu’r dyn mewn safle o braint yn hytrach na’r wraig doredig.

A dyna enghraifft wych a thrist o batriarchaeth yn gwarchod ei fuddiannau ei hun ac yn dal gafael ar rym am genhedlaeth arall.

Ddoe a heddiw

Cyfrannodd batriarchaeth at sefyllfa druenus Naiomi a Ruth. Yn yr un modd a mae patriarchaeth yn cyfrannu at orthrwm a dioddefaint i ferched yng nghymdeithas heddiw.

Ond term modern yw patriarchaeth – syniad anthropolegol sydd wedi ei ddatblygu er mwyn dadansoddi diwylliannau ers rhai canrifoedd yn unig. Doedd e’n sicr ddim yn derm nag yn syniad y byddai Naomi yn gyfarwydd ag e na hyd yn oed yr eglwys fore yn y Testament Newydd.

Felly beth am ddefnyddio gair fwy Beiblaidd am beth sy’n mynd ymlaen: Pechod.

Beth ydi patriarchaeth yn y bôn ydy amlygiad o bechod. Pechod yn amlygu ei hun mewn cymdeithas wrth i bobl – dynion yn yr achos yma – gam-drin, ddangos hunanoldeb a defnyddio grym, weithiau yn gorfforol, weithiau yn economaidd, weithiau yn emosiynol. Beth ydi patriarchaeth ydy amlygiad o broblem sylfaenol pobl a’r byd sef pechod.

Dynion yn meddwl eu bod yn gwybod yn well na Duw.

Mae Duw yn cyfri gwerth i ferched

Oherwydd mae Duw yn edrych ar ferched drwy lygaid gwahanol i gymdeithas. Dydy Duw ddim yn cyfri gwerth merch ar sail faint o feibion sydd ganddi. Dydy Duw ddim yn cyfri bywyd a thystiolaeth dyn yn fwy gwerthfawr a chredadwy na bywyd a thystiolaeth merch. Oherwydd mae’r Beibl yn dweud:

“Felly dyma Duw yn creu pobl ar ei ddelw ei hun.

Yn ddelw ohono’i hun y creodd nhw.

Creodd nhw yn wryw ac yn fenyw.”

Genesis 1:27

O’r dechrau un rydym ni’n gweld fod Duw wedi creu dynion a merched yn gydradd a fod merched, llawn gymaint a dynion, wedi eu creu ar lun a delw Duw. Ond wedyn yn dilyn y cwymp – ar ôl i bechod ddod i mewn i fyd perffaith Duw rydym ni’n dechrau gweld merched yn cael eu trin yn israddol.

Trwy’r Beibl rydym ni’n gweld merched yn cael ei cam-drin a’u trin yn israddol. Nid bwriad Duw oedd hyn – ond canlyniad pechod.

Ac wedyn ym mherson Iesu Grist rydym ni’n gweld Duw yn dechrau ar y gwaith o roi urddas a gwerth yn ôl i ferched. Ac os ydych chi eisiau cyfri faint ydych chi werth yng ngolwg Duw – boed yn ddyn neu yn ddynes – does dim rhaid edrych yn bellach na’r Groes. Dyna faint rydych chi werth yng ngolwg Duw.

Yn dilyn y Groes a’r Atgyfodiad roedd rhai o’r tystion cyntaf yn wragedd. Roedd rhai o’r apostolion a’r cenhadon cyntaf yn wragedd. Ac wedyn ar ddydd y Pentecost mae Pedr yn dweud fod yr hyn broffwydodd Joel wedi dod yn wir: “Bydd eich meibion a’ch merched yn proffwydo.”

Patriarchaeth

Wrth farw ar y Groes ac atgyfodi fe drechodd Iesu bechod. Ac os ydym ni’n meddwl mae amlygiad o bechod yw patriarchaeth yna rydym ni’n credu fod patriarchaeth wedi derbyn ergyd ar y Groes a trwy Atgyfodiad Iesu.

Tristwch y peth yw fod yr eglwys dros y canrifoedd gan gynnwys rhai traddodiadau yn yr eglwys heddiw heb weld hyn. Yn anffodus mae rhai traddodiadau Cristnogol dal i weld pethau o berspectif patriarchaeth ac nid o berspectif Duw.

Felly i gloi – ydw i’n galw ar bawb heno i fod yn ffemenists? Na, dwi’n galw ar bawb i fod yn ddisgyblion i Iesu. Trystiwch a dilynwch Iesu sydd wedi ein creu ni’n gyfartal ac sydd wedi prynu bob un ohonom ni’n rhydd ar y Groes.

Please follow and like us:
error

Pobi: dechrau’r daith – torth wen

Fis Hydref 2017 fe gaeodd cwmni Morris Bros, Cwm-y-Glo. Roedd ganddyn nhw siop rownd y gornel i’n tŷ ni felly ers blynyddoedd roeddem ni’n prynu bara yno sawl gwaith yr wythnos. Bellach mae’r cwmni wedi ail-sefydlu mae’n debyg ond ar raddfa lai ac yn anffodus nid yw’r siop yng Nghaernarfon wedi ail-agor. Roedden nhw’n gwneud chwip o dorth wen dda ac roedd eu torth frown yn neis hefyd.

Pan gaeodd Morris Bros yng Nghaernarfon doedd newid i nôl bara o unig bopty arall y dre ddim yn ymarferol – maen nhw mewn rhan o’r dre dydyn ni ddim yn pasio’n aml a beth bynnag dydy eu bara ddim gymaint â hynny’n well na bara’r archfarchnad. Mae bara Morrisons fymryn yn well na bara Tesco ond y gwir amdani yw bod bara’r archfarchnad yn sâl iawn. Dwi’n credu mai Lidl ydy’r archfarchnad sy’n gwneud y bara gorau … ond nid oes Lidl yng Nghaernarfon.

Rheswm arall i osgoi bara o’r archfarchnadoedd yw eu bod yn cynnwys pob math o gynhwysion di-angen. Dyma restr cynhwysion torth wen arferol o’r archfarchnad:

Wheat Flour (with calcium, iron, niacin (B3) and thiamin (B1)), Water, Yeast, Salt, Soya Flour, Vegetable Oils (Rapeseed, Sustainable Palm), Emulsifiers: E471, E472e, E481; Vinegar, Preservative: Calcium Propionate; Flour Treatment Agent: Ascorbic Acid (Vitamin C). 

14 o gynhwysion yn cynnwys rhai artiffisial. Er fod y bara isod yn cynnwys 6 o gynhwysion mae bara yn ei hanfod yn gallu cael ei wneud gyda dim ond tri – blawd, dŵr a halen.

Beth oedd yr ateb felly? Wel, dechrau pobi bara ein hunain siŵr iawn!

Er ein bod ni’n byw bywydau reit brysur rydym ni’n ffodus ein bod ni’n gweithio o adref – ‘da ni allan rhywbryd bob bore a bob pnawn yn ymweld a chyfarfod pobl – ond adre mae’r swyddfa ac felly rydym ni mewn ac allan o’r tŷ trwy’r dydd ac roedd gweithio mewn patrwm o bobi mewn i’r diwrnod yn bosib i ni beth bynnag. Efallai nad ydy pobi yn ystod yr wythnos yn bosib i lawer o bobl – beth am fentro arni ddydd Sadwrn felly?

Ar ôl tipyn o arbrofi a tipyn o lanast a tipyn o amynedd gan Menna dwi’n meddwl mod i (ar ôl tri mis) wedi setlo ar dorth wen burum dwi’n hapus ag e. Dwi’n nodi mae torth furum yw hwn oherwydd mod i newydd ddechrau’r broses o ddysgu sut i bobi gyda lefain (sourdough) … mwy am hynny rhywbryd eto.

Cynhwysion
300g Blawd Cryf Gwyn
200g Dŵr llugoer
7g Burum Cyflym
7g Halen
7g Siwgr
30g Olew Olewydd

Dull

  • Cymysgwch y cynhwysion yn dda.
  • Tylunio’r toes am 10 munud gyda llaw neu am 6 munud mewn peiriant stand mixer gyda’r dough hook mlaen. Mae rhai hand mixers yn dod efo dough hooks ond dydy hand mixers hyd yn oed gyda’r dough hook ddim yn gweithio’r toes ddigon ar gyfer gwneud bara. Er bod rhywbeth therapiwtig am dylunio toes gyda llaw dwi wedi gweld fod defnyddio peiriant yn gynt ac, yn allweddol, yn gwneud llawer llai o lanast!
  • Rhoi’r toes mewn powlen a’i orchuddio.
  • Gadael i’r toes ddyblu mewn maint – os ydy eich tŷ yn gynnes gall hyn gymryd cyn lleied ag awr, ond gallai gymryd cymaint â 4 awr.
  • Troi’r toes allan a churo’r aer allan ohono.
  • Ei siapio fel pêl dynn, ei osod ar bapur greaseproof a’i orchuddio eto a’i adael am 45 munud.
  • Yn y cyfamser cynheswch y popty i 225C a gosod oven tray ynddo i gynhesu ac oven tray arall ar waelod y ffwrn.
  • Ar ôl tua 45 munud codwch y papur greaseproof sydd a’r bara arno a’i osod ar yr oven tray sydd wedi bod yn cynhesu.
  • Glychwch wyneb y toes, gwasgarwch ychydig o flawd ar wyneb y toes ac yna ei sgathru gyda chyllell siarp.
  • Rhowch y trey a’r toes arno yn y ffwrn a thywallt rhywfaint o ddŵr ar y trey arall sydd ar waelod y ffwrn i greu stêm. Caewch y popty yn sydyn.
    Ar ôl 10 munud rhowch y ffwrn i lawr i 200C a phobi am 20 munud arall (felly pobi am 30 munud i gyd).
  • Bydd y dorth yn barod pan fydd o leiaf 96C tu mewn. Mae cael themometr yn handi i wybod yn sicr ei fod wedi gorffen pobi yn y canol.
  • Cewch eich temtio i ddechrau bwyta’r dorth yn syth ond gadewch iddo orffwys ar wire rack am awr.

Dyna ni – lot haws nag y mae’n swnio! Ewch amdani.

Please follow and like us:
error

Berlin – Tachwedd 2014

Nol ym mis Tachwedd es i a Menna i Ferlin am benwythnos hir. Roedd hi’n oer IAWN, fe wnes i brynnu a gwisgo long johns am y tro cynta erioed! Ond dyma rai o’r uchafbwyntiau gyda lluniau.

Y diwrnod cyntaf aetho ni ar daith gerdded amgen o gwmpas y ddinas yn ein cyflwyno ni i hanes a chelf tanddaearol y ddinas. Difyr iawn, er roedd yn daith oedd bron yn bedair awr, felly yn reit flinedig erbyn y diwedd. Dyma flas o’r daith:

rhysllwyd-7591

rhysllwyd-7596

rhysllwyd-7600

rhysllwyd-7609

rhysllwyd-7613

Roedd bwyd Berlin yn dda iawn ac yn rhad iawn! Roedd llawer o’u ‘street food’ nhw yn fwyd o safon nid jest junk food.

Bwyd…

rhysllwyd-7615

Bwyd o’r farchnad …

rhysllwyd-7635

Mwy o fwyd …

rhysllwyd-7647

rhysllwyd-7699

Lot pulled pork hyfryd yn bobman …

rhysllwyd-7711

Un o uchafbwyntiau’r trip oedd mynd i Holy Haimat ar y noson olaf. Hyd yn oed ar ôl bod yna doedde ni ddim cweit yn siŵr beth yn union oedd e. Roedd e fel rhyw fath o gyfuniad o wyl gerddoriaeth a ffair Nadolig gyda theimlad tanddaearol mewn hen warehouses enfawr. Roedd mwy o fwyd stryd gwych yna, cerddoriaeth fyw a sawl bar. Gall y lluniau adrodd y stori.

rhysllwyd-7688

rhysllwyd-7695

rhysllwyd-7696

rhysllwyd-7713

rhysllwyd-7729

rhysllwyd-7722

Roedd y trip i Ferlin yn arbennig, a byddwn i’n argymell mynd yna yn y gaeaf er gwaetha’r angen am long johns!

Please follow and like us:
error

Dyma gariad, pwy a’i traetha?

Dyma gariad, pwy a’i traetha?
Anchwiliadwy ydyw ef;
Dyma gariad, i’w ddyfnderoedd
Byth ni threiddia nef y nef;
Dyma gariad gwyd fy enaid
Uwch holl bethau gwael y llawr,
Dyma gariad wna im ganu
Yn y bythol wynfyd mawr.

Ymlochesaf yn ei glwyfau,
Ymgysgodaf dan ei groes,
Ymddigrifaf yn ei gariad,
Cariad mwy na hwn nid oes;
cariad lletach yw na’r moroedd,
Uwch na’r nefoedd hefyd yw:
Ymddiriedaf yn dragwyddol
Yn anfeidrol gariad Duw.
Mary Owen 1796-1875

Please follow and like us:
error

Pedwar o resymau da pam y dylai Cristnogion yr Alban bleidleisio IE

1. Byd o genhedloedd nid byd o ymerodraethau greodd Duw
Rwy’n credu fod y Beibl yn dangos yn weddol glir mae dymuniad Duw oedd i ddyn greu byd o genhedloedd. Byd sydd ag undod mewn amrywiaeth gyda pob dyn a dynes yn gyfartal gan fod pawb wedi ei greu ar lun a delw Duw. Trwy’r Beibl a thrwy hanes mae dyn wedi ceisio chwalu’r amrywiaeth yma trwy geisio unffurfiaeth moel a haerllug tebyg i ddrygioni Tŵr Babel (Genesis 11). Trwy gymryd y cam dewr o adael un o’r ymerodraethau mwyaf unffurf a welodd y byd erioed gall Gristnogion yr Alban gyfrannu tuag at y gwaith o greu byd sy’n glytwaith o genhedloedd sy’n cyfrannu tuag at yr amrywiaeth hyfryd oedd yn fwriad gan Dduw o’r dechrau.

2. Gall Alban Annibynnol fod yn stiwardiaid gwell o greadigaeth Duw
Mae’r Cristion yn cael ei alw i fod yn stiward cyfrifol a doeth o greadigaeth Duw. Mae lle i gredu fod modd byw bywydau mwy cynaliadwy yn ecolegol wrth fyw bywydau’n fwy lleol ac mewn unedau llai. Y sôn yn y tymor byr yw y byddai’r Alban annibynnol yn dibynnu ar arian olew, ac wrth gwrs dydy dibynnu ar olew ddim yn llesol i’r greadigaeth. Ond mae sawl un wedi dadlau mae gwir gyfoeth yr Alban annibynnol yn yr hir dymor fyddai ei hadnoddau naturiol a’i gallu (i.) yn gyntaf i fod yn hunan-gynaliadwy ar egni adnewyddadwy; (ii.) ac yna ei gallu i allforio egni adnewyddadwy i wledydd eraill. Ar hyn o bryd mae is-adeiledd yr Alban fel rhan o’r Deyrnas Unedig wedi ei chynllunio i fynd ac egni o’r canolfannau (lle mae’r egni anadnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu) i’r perifferi. Gall yr Alban annibynnol ail-wampio ei is-adeiledd er mwyn dod a’r egni o’r mynyddoedd a’r moroedd ar y perifferi i’r canolfannau.

3. Gall Alban Annibynnol fod yn wlad sy’n cymryd ochr y tlawd a’r di-lais
Er gwaethaf datblygiadau y wladwriaeth les ers yr ail ryfel byd mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn un o wladwriaethau lleiaf cyfartal y byd. Mae’r sefydliad Prydeinig drwyddi draw wedi ei cynllunio i gynnal y dosbarth uwch ac i ddal pobl gyffredin yn wystlon i fwystfil economi fasnach rydd. Er fod pob plaid wleidyddol wedi ceisio diwygio gwleidyddiaeth a sefydliadau y Wladwriaeth Brydeinig mae’r sefydliad ei hun yn parhau i fod yn gwbwl anaddas i brysuro cymdeithas decach yn yr unfed ganrif ar hugain. Yr unig wlad arall yn y byd lle mae arweinwyr crefyddol yn cael hawl i bleidleisio ar ddeddfau gwlad yn unig am eu bod nhw’n arweinwyr crefyddol yw Iran! Mae bodolaeth, heb sôn am weithdrefnau, Tŷ’r Arglwyddi yn un enghraifft yn unig o broblem sylfaenol y sefydliad Prydeinig. Mae modd trwsio a diwygio rhai sefydliadau, ond mae’r sefydliad Prydeinig tu hwnt, rhaid dechrau o’r dechrau.

Dydw i ddim yn meddwl y bydd yr Alban annibynnol yn troi’n wlad gomiwnyddol dros nos, a tydw i ddim yn meddwl byddai hynny’n beth da chwaith. Ond mae gadael y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfle i’r Alban ‘ddechrau o’r dechrau’ a llunio gwladwriaeth a sefydliadau sydd yn naturiol ddemocrataidd ac sy’n reddfol yn cymryd ochr y tlawd a’r di-lais (Diarhebion 31:9) mewn ffordd na alla y sefydliad Prydeinig byth.

4. Gall Alban Annibynnol fod yn wlad heddychlon
Un o broblemau y Deyrnas Unedig yw ei bod hi’n wladwriaeth sydd a psyche ymerodraethol. Er fod y rhan fwyaf o’r ymerodraeth wedi ei gadael hi ers degawdau mae hi’n parhau i fod mewn rhyw fath o denial am y peth ac yn dilyn polisïau tramor fel tasai hi’n 1890 o hyd! I ryw raddau mae ei statws a’i cryfder economaidd cymharol yn parhau i ddibynnu ar ei gallu i ymarfer ei dylanwad tramor. Canlyniad hyn yw fod y Deyrnas Unedig yn wladwriaeth filwriaethus iawn. Yn yr economi ryngwladol mae Prydain yn punch above her weight ag ystyried maint y wladwriaeth o ran poblogaeth a tirwedd ac mae’n llwyddo i wneud hynny i raddau oherwydd ei hanes treisgar a’i bôn braich milwrol trwy’r byd. Er fod Prydain yn falch o’i athletwyr a’i beirdd a’i ysgolheigion mae balchder Prydeinig i’w gweld gliriaf yn ei byddin. Daw hyn yn glir ym mhob digwyddiad gwladwriaethol o bwys, mae’r fyddin yna bob tro fel symbol o gryfder a balchder. Petai hyn ond symboliaeth gellid o bosib dygymod a’r peth ond mae fetish milwrol y Deyrnas Unedig yn fetish tu hwnt o ddrud yn ariannol ac yn foesol.

Yr enghraifft gliriaf yw Trident, sef cynllun arfau niwclear y Deyrnas Unedig sydd wedi ei lleoli … yn yr Alban. Hyd yn oed i Gristnogion sy’n credu mewn ‘rhyfel cyfiawn’ nid oes modd amddiffyn arfau niwclear gan eu bod bob tro yn dinistrio pawb a phob dim am filltiroedd a milltiroedd – at y diben yna maen nhw wedi eu cynllunio. Mae un bom trident cyn gryfed ag un o’r bomiau a ddefnyddiwyd yn Hiroshima ac mae gan y Deyrnas Unedig 180 ohonynt. Byddai creu cenhedlaeth newydd o daflegrau Trident yn costio £100 biliwn. Dros y cyfnod byddai hynny yn ddigon o arian i gyflogi 120,000 o nyrsys ac adeiladu 30 ysbyty newydd sbon.

Mae llywodraeth yr Alban wedi dweud y byddai’r Alban annibynnol yn cael gwared o Trident a gan nad oes yna byllau tanfor arall addas ym Mhrydain mae’n bosib y byddai hynny’n arwain i gael gwared o Trident o’r Deyrnas Unedig yn llwyr. Er yn lleihau ei gwariant ar fyddin ac arfau’n sylweddol byddai’r Alban annibynnol yn parhau gyda’i cyfrifoldebau dyngarol i weddill y byd.

Petawn i’n Albanwr byddwn i yn pleidleisio IE a hynny fel Cristion. Petawn i’n arweinydd Eglwysig yn yr Alban byddwn i’n annog Cristnogion eraill i roi ystyriaeth gref i bleidleisio IE.

Please follow and like us:
error