Ar ôl i mi ddechrau fy noethuriaeth ym Mangor roedd rhaid i mi ddewis rhwng derbyn gradd Prifysgol Bangor neu Brifysgol Cymru. Fe wnes i ddewis Prifysgol Cymru a hynny am sawl rheswm. Y pennaf ohonynt oedd oherwydd ymlyniad emosiynol i’r brand – y mytholeg tu ôl sefydlu ein Prifysgol Genedlaethol, y ffaith fod fy Nhadcu ochr Mam wedi gweithio lawr y pwll glo rhwng 14 oed a 30 oed cyn cael mynd i Brifysgol Cymru ac mae fy Nhad i oedd y cyntaf o’i deulu e i fynd i Brifysgol Cymru. Roeddwn i’n ymfalchïo hefyd fod Prifysgol Cymru yn fy meysydd i (sef Gwleidyddiaeth Ryngwladol fel pwnc israddedig a Diwinyddiaeth fel pwnc uwchraddedig) yn fyd-enwog. Tan yn ddiweddar iawn roedd statws a balchder yn perthyn i Brifysgol Cymru. Roedd Bangor ar y pryd newydd ennill ei hawl i ddyfarnu graddau ei hun ac roeddwn i’n tybio ar y pryd fod fwy o gravitas yn perthyn i Brifysgol oedd wedi bod yn dyfarnu graddau ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg nag un sydd ond wedi bod yn dyfarnu graddau ers troad y mileniwm.

Wrth gwrs, dros y blynyddoedd diwethaf ers i mi wneud y penderfyniad i gymryd gradd doethur yn enw Prifysgol Cymru mae’r brand wedi mynd yn toxic. Yn gyntaf, y sgandal flwyddyn yn ôl ei bod yn dilysu graddau colegau tramor oedd naill ai ddim yn bodoli o gwbl neu yn sefydliadau isel eu safonau. Wedyn wythnos yma y sgandal fod Prifysgol Cymru, mewn rhyw ffordd, wedi bod yn cynorthwyo rhai myfyrwyr i gael visas drwy ddulliau “anghonfensiynol.” Ond mae gan pob Prifysgol ei sgandalau ond i chi grafu’r wyneb. Ond wedyn feiddia neb grafu gormod dan wyneb rhai o gedyrn Prifysgolion daearyddol Cymru. Mae’n hawdd iawn i’r BBC, fel fwlteriaid megis, fynd ar ôl Prifysgol Cymru.

Y stori go-iawn tu ôl i ddymchwel Prifysgol Cymru yw nid y ddau raglen Week in Week Out yma ond yn hytrach ei methiant hi i aros uwchben y dŵr wrth i’r sector fynd yn fwy fwy masnachol. Roedd Prifysgol Cymru yn cadw undod y sector yng Nghymru ond pan benderfynodd Prifysgol Caerdydd, yn dra hunanol, i go it alone dyna oedd dechrau’r diwedd. Wrth i brifysgolion Cymru geisio cystadlu’n fasnachol gyda prifysgolion Lloegr roedd hi’n anorfod fod y prifysgolion yn symud yn bellach ac yn bellach oddi wrth ei diben gwreiddiol sef gwasanaethu pobl Cymru. Fel gwlad fach fedrwn ni ddim cystadlu’n fasnachol gyda’r byd mawr – ond dydy hynny ddim yn golygu na fedrwn gystadlu ar lefel ddeallusol.

Fydda i ddim yn barnu Prifysgol Cymru ar sail cam-reoli’r blynyddoedd diweddar. Felly os (neu pan … gobeithio) fydda i’n codi fy ngradd doethur yr Haf yma sy’n dod mi fydda i’n falch cael derbyn gradd Prifysgol Cymru a theimlo perthyn i draddodiad os nad Cymraeg, o leiaf Cymreig a’i wreiddiau yn neffroad cenedlaethol diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Please follow and like us: