Ar y blogiad yma yn trafod Cenedlaetholdeb Gristnogol R. Tudur Jones fe adawodd hen ferchetan y sylwad diddorol a heriol canlynol:

Allaim gweld unrhyw gyslltiad o gwbwl Rhys. Doesna ddim cysylltiad amlwg rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb – mae’r syniad fod yr hen athiestaid na wedi pylu y gefnogaeth i genedlaetholdeb yn nonsens.

Rhydd i bawb ei ddehongliad ond ni all neb sydd ond wedi gwario cyn lleied a phum munud yn astudio Hanes Cymru wadu fod cysylltiad cryf os nad an-wahanadwy rhwng Cristnogaeth a Chenedlaetholdeb yng Nghymru. Cymer er enghriafft yr olyniaeth yma sydd yn cael ei chyfri fel un olyniaeth o Genedlaetholdeb Gymreig:

Dewi Sant>John Penry>Griffith Jones>Michael D. Jones>Emrys ap Iwan>Saunders Lewis>Lewis Valentine>J.E. Daniel>Gwynfor Evans>R. Tudur Jones

Maen nhw oll yn Gristnogion ac, yn fwy pwysig, eu ffydd Gristnogol oedd sail eu cenedlaetholdeb. Er nad oedd rhyw lawer o bragmatiaeth yn perthyn i genedlaetholdeb R. Tudur Jones a chyn hynny Saunders Lewis does dim gwadu fod eu cenedlaetholdeb o rîn dyfnach na chenedlaetholdeb Plaid Cymru heddiw, ac i mi y symud oddi wrth genedlaetholdeb Gristnogol i genedlaetholdeb seciwlar sydd i gyfri ac esbonio hyn.

Please follow and like us: