Dwi wedi dechrau gweithio ar thesis terfynol fy PhD ac ar hyn o bryd wrthi yn ffurfio’r bennod gyntaf. Y targed yw gweithio ar bennod bob rhyw chwe wythnos nawr tan mod i wedi gorffen.

Yn y bennod gyntaf byddaf yn rhoi bras olwg o theorïau prif feddylwyr yr is-ddisgyblaeth oddi fewn i Wyddoniaeth Gymdeithasol sy’n astudio Cenedlaetholdeb. Er mwyn rhoi y thesis fel cyfanwaith yn ei gyd-destun ysgolheigaidd ehangach rhaid cychwyn trwy gyflwyno prif feddylwyr y ddisgyblaeth a’u syniadau. Byddaf yn cyflwyno tri prif ffigwr sef Ernest Gellner, Anthony D. Smith, Benedict Anderson. Wedi cyflwyno’n fras eu theorïau byddaf yn ceisio amlinellu prif wendidau eu theorïau o safbwynt y diwinydd ac o safbwynt defnyddioldeb i fy thesis penodol i. Erbyn diwedd y bennod byddaf yn canoli’r drafodaeth ar y cyd-destun Cymreig ac ystyried cyfraniadau diweddar i’r drafodaeth ar theori Cenedlaetholdeb yng Nghymru, sylwadau ar waith Richard Wyn Jones ymysg eraill. Byddaf yn gorffen y bennod drwy holi, gan gofio i’r ffydd Gristnogol ac arweinwyr Cristnogol fod yn flaenllaw yn y mudiad Cenedlaethol yng Nghymru, i ba raddau y gellid pwyso ar y prif meddylwyr wrth ystyried cenedlaetholdeb Gymreig os ydy’r drafodaeth o’r “dwyfol” yn arwynebol os nad yn anweledig yn eu gweithiau.

Credaf fod un o’r meddylwyr, sef Anthony D. Smith, yn ffigwr pontiol i ddechrau trafod gwaith R. Tudur Jones ei hun yn y penodau fydd yn dilyn gan ei bod yn hysbys i R. Tudur Jones werthfawrogi gwaith Anthony D. Smith tra’n paratoi ei gyfrol Desire of Nations cymaint nes iddo argymell gweithiau Anthony D. Smith i Gwynfor Evans. Mae Anthony D. Smith hefyd yn ffigwr pontiol o bwys gan mae ef yw’r unig theorïwr sydd wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol, yn fy nhyb i, i rôl ffydd a chrefydd yn nhwf a bodolaeth Cenedlaetholdeb; gwnaeth hyn yn bennaf yn ei gyfrol Chosen Peoples: Sacred Sources of National Idenity.

Yn ei hanfod mi fydda i’n dadlau yn y bennod gyntaf yma fod ymdriniaeth y prif theoriwyr yma, gan gynnwys Richard Wyn Jones yn y cyd-destun Cymreig, yn angyflawn oherwydd eu bod nhw wedi methu a chymryd ystyriaeth o’r dwyfol yn ddigon manwl a difrifol.

Please follow and like us: