Dwi wastad wedi gweld sianeli ac adroddiadau newyddion yr UDA yn syfyrdanol; o ran y cynnwys, yr arddull a’r golygu. Ddes i ar draws yr adroddiad fideo yma ar wefan CNN heno. Maen adroddiad rhyfeddol ac hefyd yn rhoi agoriad llygad i ni o’r psyche Americanaidd – cenedlaetholdeb Sifig ar ei waethaf. Wn i ddim sut mae modd mynd i ddagrau dros symbol gafodd ei fathu am y tro cyntaf yn 1777. Dwi’n genedlaetholwr, ond y Cymry a’u henaid sy’n bwysig i mi nid symbolau sy jest wedi eu creu gan ddynion yn lled-ddiweddar. Wn i ddim pam fod pobl yn dweud fod Cenedlaetholdeb Sifig yn fwy iach na Chenedlaetholdeb naturiol oblegid gyda cenedlaetholdeb naturiol pobl sy’n bwysig a diwedd dydd pobl ddylai wastad fod y ffactor bwysicaf. Y mae pobl yn llawer pwysicach na symbolau materol fel banner, cyfansoddiad a thy gwyn… a Chynulliad.

Please follow and like us: