Ar Twitter bore ‘ma roeddwn i’n gweld fod yr hen ddadl ynglŷn a bandiau yn canu yn Saesneg mewn nosweithiau oedd yn cael eu gweld fel rhai Cymraeg wedi codi ei ben eto. Dros y blynyddoedd dwi wedi gwylltio llawer o bobl wrth gyfrannu i’r drafodaeth yma, ac o edrych nol rwy’n gresynu dros rhai o’r pethau dwi wedi eu dweud.

Mae’n siŵr mae’r darn mwyaf ymfflamychol dwi wedi ei sgwennu oedd yr erthygl yma i Barn yn 2004, pan oeddwn i’n 19, mae’n werth ei ail-ddarllen jest er mwyn gweld cymaint dwi wedi toddi fel person dros y ddegawd diwethaf! Dwi’n meddwl mod i dal yn cytuno gyda prif bwyntiau’r erthygl ond dwi’n difaru mod i heb ddefnyddio mwy o râs a dwi’n sicr yn difaru mod i wedi brifo pobl gyda beth wnes i ddweud.

Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia, Barn, Mehefin 2004 (PDF)

Y darn allweddol i mi oedd y dyfyniad gan Merêd:

Wedi’r Ail Ryfel Byd, gwelwyd tri datblygiad amlwg, sef twf mudiadau cenedlaethol… ymgyrchu ymroddedig gan leiafrifoedd oddi mewn i wladwriaethau… a gwrthryfel o du’r genhedlaeth ifanc. Gellid dadlau… nad oes yr un angerdd ac argyhoeddiad yng ngwrthryfel yr ifanc ag a fu yn y chwedegau a’r saithdegau…

Hyd yr wythdegau cynnar, cymharol brin oedd yr arwyddion o gloffi rhwng dau feddwl. Roedd mwyafrif llethol o popwyr y cyfnod hyd at hynny yn frwd dros greu a pherfformio eu caneuon yn Gymraeg, ond bellach daeth tro ar fyd… prinhau y mae’r grwpiau a’r unigolion sy’n gwbl sicr eu meddwl mai perfformwyr Cymraeg ydynt.

Please follow and like us: