Un o’r newidiadau mawr sy’n digwydd ar hyn o bryd yw ein bod ni’n symud o gyfnod Christendom i gyfnod ôl-Christendom. Er bod yna sawl ffordd o ddiffinio Christendom, rwy’n ei ddefnyddio i ddisgrifio’r cyfnod maith yn hanes y Gorllewin pan roedd hi’n gymdeithas sylfaenol Gristnogol. Nid fod hynny’n golygu fod pawb (na hyd yn oed y mwyafrif) yn Gristnogion o ran eu cyffes a’u ffydd, ond yn hytrach fod gwerthoedd a chanfyddiadau cyffredinol a sylfaenol cymdeithas wedi ei selio’n fras ar egwyddorion Cristnogol. Mae shifft i ffwrdd o Christendom wedi bod ar gerdded ers degawdau ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hyn wedi arwain i ryw fath o argyfwng mewn ambell adain o’r eglwys a hefyd wedi arwain at ryw fath o moral panig gan bobl a thueddfryd ceidwadol yn wleidyddol. Politiceiddio y moral panig yma mae populism yr adain dde, yn Donald Trump a Suella Braverman a’u crwsâd gwrth “Woke” wedi bod yn gwneud.

Mae ymateb yr eglwys i hyn i gyd yn ddiddorol, a hefyd yn bwysig, oherwydd bydd yn effeithio ein osgo wrth i ni geisio bod yn eglwys i’r dyfodol yn hytrach na chael ein diffinio fel rhywbeth sy’n perthyn i oes sy’n darfod. Ar un wedd, oes mae yna dueddiadau mewn cymdeithas a diwylliant sy’n mynd i gyfeiriad gwahanol i werthoedd sy’n greiddiol i’n ffydd ni. Y prif un i’m golwg i yw’r shifft o bwyslais cymunedol y ffydd Gristnogol o warchod y gwanaf a thrin ein cymydog fel ni’n hunain ayb… tuag at gymdeithas llawer mwy unigolyddol a materol. Ond mae llawer o’r ymateb o dŷ’r eglwys hefyd yn ymwneud a’r panig o golli ei lle o fraint mewn cymdeithas wrth weld oes Christendom yn dod i ben ac yn y cyd-destun hwnnw mae’n drist gweld llawer o fewn yr eglwys yn mynd yn was bach i’r de yn wleidyddol; yn America yn fwy nag yma, ond mae’n dechrau digwydd yma hefyd. 

Yn bersonol, rwyf wedi bod yn gweld manteision diwedd Christendom yn fwy na’r ochr negyddol. Fel mae Mark Sayers yn dweud yn ei lyfr ‘Reappearing Church: The Hope for Renewal in the Rise of Our Post-Christian Culture’:

“As cultural Christianity washes away, a blank canvas is appearing, with the possibility of a new story being written upon it. What seemed like a crisis, when reframed through the eyes of the Spirit, was an incredible opportunity. Reframed from a lens of defeat to one of potential.”

Rwy’n deall y galar sy’n dod o golli’r hyn sy’n gyfarwydd, ond eto o safbwynt adferiad yr eglwys yn ein dydd ni rwy’n cytuno gyda Mark Sayers fod diwedd Christendom yn cynnig gobaith i ail-adeiladu nid chwalfa derfynol.

Yn ddiddorol, roeddwn i’n darllen rhan o Esboniad Karl Barth ar y Rhufeiniaid bore ‘ma. A dyma oedd ganddo i ddweud, a hyn nol yn yr Almaen yn yr 1930au, cyfnod oedd yn gofyn am eglurder rhwng Cristnogaeth ddiwylliannol (a allai, ac yn wir a aeth yn ysglyfaeth i bwerau gwleidyddol y dydd) a Christnogaeth fel ffydd gyffesiadol:

“If anything Christian be unrelated to the Gospel, it is a human by-product, a dangerous religious survival, a regrettable misunderstanding … If this be persisted in, there emerges, instead of the community of Christ, Christendom, an ineffective peace-pact or compromise with that existence witch, moving with its own momentum, lies on this side resurrection.” 

(The Epistle to the Romans by Karl Barth, t. 36-37)

Rwy’n credu fod y gair pwerus yma gan Karl Barth yn air proffwydol i’r eglwys heddiw. Yr angen i’r eglwys beidio gael ei thynnu i mewn i frwydrau diwylliannol ein dydd – i beidio cael ein “defnyddio” gan bobl ar y dde (nac ar y chwith). Ac i wneud yn siŵr fod ein holl Gristnogaeth yn perthyn yn llwyr i’r Efengyl, canys bydd unrhyw beth llai yn, fel dywed Barth, yn ‘dangerous religious survival,’ ac yn ‘a regrettable misunderstanding.’

Please follow and like us: