Neithiwr fe gawsom ni enghraifft wych arall o newyddiadura cymunedol (citizen journalism) yn goddiweddid y cyfryngau newyddion traddodiadol. Ffrwd @al3d ar Twitter oedd prif ffynhonnell y stori a dyma sut oedd pethau’n llifo o tua 9pm neithiwr:

  •  al3d Serious incident in downtown Cardiff. Westgate st closed. Serious shit. #breaking #news
  •  al3d How do you upload photos to this thing off an iphone then??
  •  al3d Apparently according to a copper not knife or sexual crime, waiting for forensics from swansea.
  •  al3d Its too much of a crime scene for it not to one of the more serious crimes
  •  al3d Plus copper said incident happened around 7.45
  •  al3d Useless photo I could only upload to tumblr, shows nowt but coppers @ scene. Photos at log.lemwn.com
  •  huwthomas @al3d heard it was a murder.

Pan glywais i am hyn ar fy ffrwd Twitter fe es i’n syth draw i wefannau newyddion BBC Cymru, Cymraeg a Saesneg, i ddarllen mwy. Ond doedd dim byd yna. Bore yma ro ni’n siŵr y byddai gwefannau’r BBC wedi ei diweddaru ond na, dal dim sôn am y digwyddiad wnaeth gau i lawr llawer o strydoedd “yfed” Caerdydd ar noson gyntaf penwythnos prysura’r flwyddyn hyd yma mwy na thebyg gyda’r gêm Cymru Vs Lloegr heddiw.

Gwers arall fod rhaid i’r BBC a gweddill y cyfryngau traddodiadol newid gyda’r oes os ydyn nhw am fedru cystadlu gyda newyddiadura cymunedol y Twittwyr a’r Blogwyr.

DIWEDDARIAD: Mae’r BBC bellach yn rhedeg y stori fan YMA. Ymosodiad treisgar ddigwyddodd nid llofruddiaeth. Ond mae’r pwynt yn dal i sefyll sef fod newyddiadura cymunedol wedi adrodd am y digwydd dros 12 awr cyn y cyfryngau traddodiadol.

Please follow and like us: