Yn ddiweddar dwi wedi bod wrthi yn gweithio ar gloriau llyfrau am y tro cyntaf. Dwi wedi bod yn gweithio ar bosteri a flyers a ballu ers tro ond dim ond yn ddiweddar dwi wedi dechrau gweithio ar lyfrau. Dyma felly gyflwyno fy nghloriau cyntaf.
Agor Iddo

Eitem: Clawr 'Agor Iddo' gan Olaf Davies. Cleient: Cyhoeddiadau'r Gair
Mae’r genre llyfrau Cristnogol a Defosiynnol yn genre sydd wedi bod a delwedd weddol ‘hen ffasiwn’ a sentimental felly gyda’r clawr yma ro ni am wneud rhywbeth ffresh ac ro ni am u bobl orfod agor y llyfr i weld mae llyfr Cristnogol ydoedd yn lle gallu dweud yn ôl dyluniad a delwedd y clawr ei fod yn lyfr Cristnogol. Dwi yn hoff iawn o gloriau diweddar gwasg Zondervan yn yr UDA, a dwi’n meddwl mae symylder eu cloriau diweddaraf nhw oedd y dylanwad pennaf fan yma.
Eleni mewn Englynion

Eitem: Clawr 'Eleni Mewn Englynion' gan Iwan Rhys. Cleient: Gwasg Carreg Gwlach
Dyma glawr i gyfrol gyntaf hen ffrind coleg (sy’n priodi heddiw fel maen digwydd!). Daeth Iwan ataf gan esbonio’r hyn oedd mewn golwg gydag ef a gan esbonio hefyd ei fod am rhywbeth ffresh a gwahanol ac ei fod am i’w gyfrol beidio dilyn yr un delwedd ddylunio a chyfrolau barddonol eraill diweddar. Mae’r llyfr ar ffurf dyddiadur sydd wedi ei hadrodd mewn englynion, un i bob diwrnod am flwyddyn gron. Fe es i ati felly i geisio gwneud i’r clawr edrych fel dyddiadur go-iawn. Roedd yna elfen o risg gyda’r syniad yma oherwydd gallasai’r ‘spine’ metal (sydd yn graffeg yn hytrach na spine metal go-iawn) edrych yn od wedi ei rwymo yn sgwar. Ond roedd Iwan a Gwasg Carreg Gwalch yn hapus i roi go i’r syniad. Rwy’n disgwyl mlaen i weld sut fydd y llyfr yn edrych wedi iddo gael ei argraffu.
Dehongli’r Damhegion

Eitem: Clawr 'Dehongli'r Damhegion' gan Elfed ap Nefydd Roberts. Cleient: Cyhoeddiadau'r Gair
Fe wnes i’r clawr yma i’r un cleient ac ar yr un pryd a wnes i ddylunio clawr Agor Iddo (gweler uchod). Ond dywedod y Golygydd ei fod yn reit bendant na fyddai hwn yn lyfr fyddai’n gweddu, yn wahanol i Agor Iddo, i gael golwg newydd ac ifanc. Fe es i felly, yn fwriadol, i weithio ar glawr fyddai’n chwarae ar yr hen ddelwedd, bron a bod Gatholig, Grefyddol. Dyma’r math o ddelwedd a chynulleidfa rwy’n credu mae’r awdur yn ysgrifennu ato ac felly doedd dim diben ei hypsetio gyda chlawr ffresh ‘modern.’ Yr hyn oedd mewn golwg gyda mi oedd clawr na fyddai’n edrych allan o le rhwng y Beibl Cymraeg Newydd a Chaneuon Ffydd ar y silff yn y siop lyfrau tra gyda Agor Iddo ro ni am greu clawr na fyddai’n edrych allan o le rhwng copi o nofelau diweddaraf Y Lolfa a Gomer.
Er mae ffordd o wneud pres poced i fy nghynal trwy fy ymchwil ydy’r dylunio dwi wastad yn agored i dderbyn gwaith tebyg felly os ydych chi’n hofffi’r gwaith ac eisiau i mi weithio ar boster, flyer, clawr, cylchgrawn neu be bynnag am bris rhesymol cysylltwch ar bob cyfri: Dylunio Rhys Llwyd.