Un o’r pethau mwyaf difyr dwi wedi darllen ar y we ers tro oedd llith diweddar Hogyn o Rachub ar ei flog: ‘Caerdydd Vs. Hogyn o Rachub’. Mae o’n mentro tynnu blewyn o drwyn Cymry Cymraeg Caerdydd. Ro’ ni’n meddwl fod y pwynt isod ganddo yn ddifyr iawn ac yn bwynt sydd angen cnoi cil drosto:

Mae ‘na elfen gref (a mentraf ddweud dosbarth canol, sydd ddim yn gyhuddiad dwi’n mwynhau ei luchio o gwmpas) sydd mor, mor falch o Gymreictod newydd Caerdydd. “O,” medda nhw, “fyddwch chi’n clywed Cymraeg ymhobman yng Nghaerdydd y dyddiau hyn”. Peidiwch â chredu neb sy’n dweud hyn, maen nhw’n llawn sh**. Mae’n wir y clywch Gymraeg mewn rhai ardaloedd penodol – os nad penodol iawn – o Gaerdydd. Ac mae’n wir fod ‘na rwydwaith Cymraeg cryf a bywiog yn y ddinas. Ond rhwydwaith ydi o, nid cymuned, ac mae hynny’n wahaniaeth pwysig. Cymuned Gymraeg nid oes i Gaerdydd.

Dwi ddim am ladd ar Gaerdydd na Chymry Cymraeg Caerdydd, sgen i ddim hawl i wneud hynny. Hefyd, rhaid derbyn fod rhai pobl eisiau byw yn y ddinas a rhai pobl eisiau byw yn y “fro” – rhaid parchu dewis a galwad bersonnol. Does dim budd dadlau fod un dewis yn gywir a’r naill yn anghywir, mae gyda chi ddau ddewis dilys ond gwahanol. Mae angen Cymry yn y ddinas ac yn y “fro”. Dwi ddim yn hoffi y label “y fro” gyda llaw, ond fe wna i ei ddefnyddio gan mod i methu meddwl am label gwell. Rwy’n siarad am gymunedau lle mae’r mwyafrif o bobl yn siarad Cymraeg.

Mae’r rhan fwyaf o deulu Mam wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers yr 1980au. (Er yn ddiddorol mae dau aelwyd wedi symud i Feirionnydd yn y ddeng-mlynedd diwethaf.) Mae Mamgu a’m Mrawd a’i wraig yn byw yng Nghaerdydd o hyd. O brofiad fy nheulu fy hun rwy’n gwybod fod modd byw bywyd llawn trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae fy nheulu i’n Gristnogion brwd ac felly mae canran fawr o’u hwythnos yn troi o amgylch gweithgareddau’r Capel sydd, wrth gwrs, i gyd yn Gymraeg. Mae fy holl gefndryd a fagwyd yn y ddinas wedi cael addysg gyflawn Gymraeg yn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg y ddinas. Ag eithrio un modryb oedd yn gweithio i’r NHS roedd pob aelod arall o’r teulu yn gwneud eu bywoliaeth yn anuniongyrchol oherwydd y Gymraeg trwy’r byd addysg, cyfieithu ayyb… Iaith yr aelwyd adref oedd y Gymraeg hefyd wrth gwrs. Mewn gair, roedd ac mae fy nheulu i’n byw bywyd cymharol gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd.

Ond, ac mae hwn yn ond mawr sy’n dilyn ymlaen o bwynt Hogyn o Rachub. A’i cymuned Gymraeg neu rhwydweithiau Cymraeg mewn gwirionedd sydd yn y ddinas? Dwi am geisio diffinio rhywfaint beth yw cymuned cyn parhau. Rwy’n credu y dylai cymuned Gymraeg gynnwys rhychwant cymharol eang o bob dosbarth cymdeithasol. Er fod argaeledd addysg Gymraeg mewn ardal yn beth pwysig – efallai fod hi’n well edrych ar argaeledd trydanwyr, plymwyr a mecanics Cymraeg fel mesurydd a ydyw hi’n gymuned Gymraeg ai peidio? Rwy’n siŵr fod yna ddigon o drydanwyr, plymwyr a mecanics sy’n Gymry Cymraeg yng Nghaerdydd ond mewn cymuned Gymraeg y norm yw fod trydanwyr, plymwyr a mecanics yn Gymry Cymraeg nid novelty. Mae hyn hefyd yn gynyddol wir yn anffodus am y rhan fwyaf o ardaloedd trefol o fewn y “fro”.

Er enghraifft, cymharwch ward Peblig yng Nghaernarfon gyda ward Treganna yng Nghaerdydd. Dwi’n gwybod fod yna wahaniaeth mawr rhwng y ddau ward yma. Ond mae’n helpu i wneud y pwynt yn eglur.

treganna

peblig

Yn Nhreganna mae’r siaradwyr Cymraeg yn or-lwythog yn y dosbarthiadau cymdeithasol uwch tra yn Peblig mae’r siaradwyr Cymraeg wedi eu rhannu allan yn well drwy bob dosbarth cymdeithasol. Dwi ddim yn dweud fod byw yn y ddinas yn anghywir. Ddim o gwbl. Ond rhaid derbyn bod yr hyn a olygir wrth “Gymuned Gymraeg” yng Nghaerdydd ac Aberystwyth dyweder, yn dra wahanol i’r hyn yw Cymuned Gymraeg yn Nhregaron neu Gaernarfon. Mae rhwydwaith ddiwylliannol/addysgol/ayyb…/ayyb… Gymraeg yn wahanol i gymuned Gymraeg lle mae’n normal i archebu dy Burger and a Pint yn Weatherspoons yn y Gymraeg yn ogystal a derbyn dy addysg a dy rifyn diweddaraf o Taliesin trwy’r Gymraeg. Rwy’n credu fod Hogyn o Rachub yn gwneud pwynt teg.

Please follow and like us: