Codi tâl ar addolwyr yn ‘steddfod: beth fyddai Dr. Tudur yn dweud?

Os ydych chi’n anorac Cristnogol fel fi mi fyddwch chi wedi clywed y newydd diweddar fod yr Eisteddfod wedi penderfynnu codi tâl ar bobl fydd am ymweld a maes yr Eisteddfod ar y Sul i fynychu’r gwasanaeth boreuol blynyddol. Mae’r arweinwyr Eglwysig, yn anad neb Aled Edwards (Cytun) a Geraint Tudur (Annibynwyr) wedi beirniadu’r penderfyniad yn hallt – mae’r stori lawn i’w darllen ar wefan y BBC fan yma.

Wrth i mi ddarllen y stori fe ddaeth i nghof i fod Dr. Tudur Jones wedi “gwrthod” cymryd rhan mewn gwasanaeth crefyddol oedd yn rhan o drefniadau’r Eisteddfod ym Mangor yn 1970. Dyma ddywedodd Dr. Tudur mewn llythyr at John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod ar y pryd:

“Diolch yn fawr ichwi am eich llythyr… a’r gwahoddiad caredig i ymuno yn y gwasanaeth yn yr Eglwys Gadeiriol ar Mehefin 28ain.

Ofnaf na allaf dderbyn y gwahoddiad a hoffwn esbonio pam. Fel sefydliad cenedlaethol, ni ddylai’r Eisteddfod arddel unrhyw ffurf ar grefydd. Credaf fod egwyddor go bwysig i’n bywyd fel cenedl yn y fantol pan fo swyddfa a swyddogion yr Eisteddfod yn cymryd arnynt eu hunain drefnu gwasanaeth crefyddol y byddai llaweroedd o gefnogwyr yr Eisteddfod yn teimlo annifyrrwch ynglŷn a chymryd rhan ynddo. Y mae’r Eisteddfod at wasanaeth pawb pa un bynnag a ydynt yn Gristnogion ai peidio…

Peidiwch a cham-ddeall chwaith. Syniad hapus ddigon yw i’r Eglwys yng Nghymru neu i eglwysi Bangor drefnu oedfa mewn cysylltiad a’r cyhoeddi. A gweddus o beth yw i swyddogion yr Eisteddfod fod yn bresennol os ydynt yn Gristnogion. Peth pur wahanol yw i beirianwaith yr Eisteddfod gael ei ddefnyddio i drefnu oedfeuon o’r fath. Ni bu gennym grefydd sefydledig yng Nghymru ers hanner canrif union…

Gyda llaw, sylwaf eich bod ym mharagraff olaf eich llythyr yn gwahodd gweinidogion i “wisgo eu gynnau”. Oni fyddai hynny’n beth brawychus iawn? Onid diogelach fyddai iddynt wisgo eu gynau?”

Diddorol iawn ynte? Ac mae’n codi’r cwestiwn wrth gwrs, beth fyddai ymateb Dr. Tudur i’r hyn sydd ar y newyddion nawr am wasanaethau crefyddol yr Eisteddfod? Ar un llaw gellid gweld penderfyniad yr Eisteddfod i beidio rhoi “ffafr” i Gristnogion fel cam tuag at ddelfryd Dr. Tudur yn y llythyr uchod sef, yn y bon, na ddylid cysylltu unrhyw sefydliad cenedlaethol seciwlar ag un crefydd/eglwys benodol. Egwyddor absoliwt Dr. Tudur fod rhaid cadw lled-braich pendant rhwng gwladwriaeth ac eglwys sydd ar waith fan hyn wrth gwrs. Fyddai hi ddim yn deg i mi roi geiriau yn ei geg, nac yn dangos gwrthrychedd academaidd o’m rhan i , ond tybed beth fyddai gan Dr. Tudur i ddweud am yr helynt yma? Mae islais y llythyr uchod yn awgrymu na fyddai wedi cynhyrfu gymaint ag y mae Aled Edwards (Cytun) wedi ei wneud na chwaith Geraint Tudur – llais Annibynia heddiw. Diddorol yn wir.

Dim ond holi a phrocio diniwed yw fy mwriad!

Please follow and like us:

1 thought on “Codi tâl ar addolwyr yn ‘steddfod: beth fyddai Dr. Tudur yn dweud?

  1. Alwyn ap Huw

    Pan ddaeth y Pab Ioan Pawl II ar ymweliad i Gymru mi fûm i’r offeren gyhoeddus yng Ngerddi Soffia, Caerdydd – profiad gwefreiddiol hyd yn oed i Gristion anghydffurfiol.

    Roedd clywed y Pab yn agor y gwasanaeth trwy ddweud mewn Cymraeg clir iawn Yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glan a bonllef y dorf, di Gymraeg ar y cyfan, yn clodfori ei ddefnydd o’n hiaith yn drydanol bythgofiadwy.

    Yr un mor fythgofiadwy, am resymau gwahanol iawn, oedd gweld ei swyddogion diogelwch, pob un ohonynt mewn gwisg offeiriad, yn gwisgo drylliau dan eu casogau.

    Roedd Tudur yn iawn, profiad brawychus iawn, ond eto’n rhyfeddol, oedd gweld gweinidogion yn gwisgo gynnau.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.