Huw yn mwynhau mewn tê parti yn Capel llynedd

Huw yn mwynhau mewn tê parti yn Capel llynedd

Roedd Huw Edwards yn lawer o bethau i lawer o bobol. Yn Ŵr, yn Dad, yn Daid, yn Frawd ac Ewythr. Yn Gynghorydd, yn Gadeirydd yn Faer yn ladmerydd dros y dre a’i phobl. I fi, roedd yn aelod, yn ffrind ac ers i mi symud i Rhes Hafod yn gymydog hefyd. Roeddwn i’n tynnu ei goes fod gwerth ei dŷ wedi mynd fyny nawr fod Gweinidog yn byw ar y stryd! Roedd Huw yr holl bethau hyn a mwy, ond yn dawel yn ei galon cyn pob dim arall roedd yn adnabod ac yn dilyn Iesu.

Dau atgof sy’n aros yn y cof gen i o Huw, dau sy’n dweud llawer am wrthrych ei obaith. Y cyntaf oedd yn fuan ar ôl i mi ddechrau fel Gweinidog yng Nghaersalem. Stori sy’n dangos cymaint o heyrn yn y tân oedd gan Huw mewn gwirionedd. Cymaint o heyrn nes ei fod weithiau yn anghofio pa harn oedd i’w roi ym mha dân. Roeddem ni yn yr oedfa fore dydd Sul a jest wrth mod i’n cychwyn gweddïo dyma fi’n gweld llaw yn cael ei godi yng nghornel fy llygad. “Pwynt o wybodaeth Mr Gweinidog”. Union fel tase fe yn siambr y cyngor yn gofyn cwestiwn i Mr Cadeirydd. Eisiau gofyn fy marn oedd e, yng nghanol oedfa, ynglŷn a’r weddi ar ddechrau cyfarfodydd y cyngor. Ac roedd hynny’n nodweddiadol o Huw – eisiau gweddïo yn y cyngor ac eisiau codi pwyntiau o wybodaeth yn y capel. Dau fyd yn dod yn un.

Yr ail atgof sydd gen i oedd yn ein oedfa Garolau ddwy flynedd yn ôl. Fe drodd Huw fyny yn y nos gyda Tomos ac Elin er ein bod ni wedi cael ein oedfa i’r plant yn y bore. Roedd Huw yn flin fod dim darpariaeth gyda ni i’r plant. Yng nghanol un garol dyma Huw yn dod fyny ata i a gofyn os cai e ddweud gair. A dwi’n cofio meddwl – could go either way! Ond hollol off the cuff, dyma Huw yn rhannu stori hyfryd gyda’r plant oedd dim byd i wneud a’r Nadolig ond a oedd yn stori yn y diwedd oedd yn siarad am Iesu Grist a’i aberth ar y Groes. Stori am Huw sy’n ein atgoffa ei fod yn barod, fel mae 1 Pedr yn y Beibl yn dweud, “I roi ateb am y gobaith sydd ynoch.”

Ei ffydd syml yn Iesu Grist oedd yr allwedd i ddeall ei brysurdeb a’i wasanaeth dros eraill reit tan y diwedd. Dyma, oedd i gyfri am y gobaith oedd ynddo.

Please follow and like us: