Mae llawer o sôn ar y cyfryngau wythnos yma am ddarlith enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, gan fod hi’n hanner canrif i’r wythnos er iddo ei thraddodi. Ynghanol holl firi cofio’r ddarlith radio enwog hawdd anghofio ein bod ni’n coffau wythnos yma farwolaeth un arall o feddylwyr craffaf y Blaid hanner canrif yn ôl i’r wythnos. Bu farw John Edward Daniel, neu J.E. Daniel, ond yn 59 oed mewn damwain car gwta ddeuddydd cyn i Saunders draddodi Tynged yr Iaith. Roedd J.E. Daniel yn un o feddylwyr craffaf Plaid Cymru yn ei blynyddoedd cynnar a hefyd yn ddiwinydd o bwys mawr yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif. Ond ychydig iawn sy’n ymwybodol o’i ddylanwad a’i waith gan iddo adael bywyd cyhoeddus Cymru a mynd i ryw fath o obsciwrantiaeth yn weddol ifanc yn dilyn yr ail ryfel byd.

Pan laniodd R. Tudur Jones yn fyfyriwr ym Mala-Bangor y ddau athro yna ar y pryd oedd y Prifathro John Morgan Jones a’r Athro Syniadaeth Gristnogol J.E. Daniel. Roedd John Morgan Jones yn enwog am fod yn un o brif ladmeryddion rhyddfrydiaeth ddiwinyddol; ond J.E. Daniel oedd lladmerydd cyntaf yr uniongrededd-newydd nid yn unig yng Nghymru ond hefyd ym Mhrydain. Teimlai J.E. Daniel nad oedd yr iwtopia ddaearol y deisyfa’r rhyddfrydwyr diwinyddol amdano gam yn nes, yn wir, yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel teimlai fod rhyddfrydiaeth ddiwinyddol os rhywbeth wedi gwaethygu’r sefyllfa. Gwelai J.E. Daniel na allai dyn achub ei hun, ac felly’n hytrach ei bod angen achubwr a dyna wnaeth ei dywys yn gyntaf at astudio uniongrededd newydd Karl Barth ac yna ei ail-gysylltu gyda’r traddodiad cyfoethog Calfinaidd Cymraeg.

Ochr yn ochr â hyn roedd J.E. Daniel yn un o aelodau cyntaf Plaid Cymru gan fod yn Ddirprwy-lywydd i Saunders am gyfnod ac yn ystod yr ail ryfel byd ef fu’n Llywydd dros dro pan fu’n rhaid i Gwynfor roi seibiant iddi am resymau personol [Dwi ddim 100% siŵr os yw hyn yn ffeithiol gywir, dwi’n cofio ei ddarllen rhywle ond methu’n deg a ffeindio cofnod nawr! – gol.]. Roedd y cyfuniad yma o’i uniongrededd diwinyddol a’i genedlaetholdeb yn apelgar tu hwnt i’r R. Tudur Jones ifanc ac felly does dim syndod i Tudur gael ei ddylanwadu’n drwm gan J.E. Daniel. Mae fy ymchwil ddiweddar yn dadlau mae’r hyn wnaeth Tudur Jones i ryw raddau oedd datblygu ar y seiliau syniadaethol-ddiwinyddol dros genedlaetholdeb a ddechreuwyd ond a’i gadawyd yn anghyflawn gan J.E. Daniel.

Dywedodd D. Densil Morgan mae un o drasiedïau mwyaf yr ugeinfed ganrif oedd diffyg cynhyrchedd J.E. Daniel fel diwinydd. Dim ond un gyfrol a llond llaw o ysgrifau cyfoethog a chyhoeddodd byth. Ond gellir deillio ei ddiffyg cynnyrch diwinyddol i’w waith diflino dros y mudiad cenedlaethol fel y tystia atgof yr Athro Geraint Gruffydd amdano:

‘R wy’n cofio Daniel yn dweud wrthyf unwaith ddau beth, sef (a) fod galwad cenedlaetholdeb arno wedi ei droi oddi wrth ddiwinydda; a (b) nad oedd yn ddrwg o gwbl ganddo am hynny. Arwydd yw hyn fod Daniel wedi gallu uniaethu’n llwyr yn ei feddwl alwad Crist arno â galwad Cymru…

Rhan bwysig iawn o stori J.E. Daniel oedd ei wraig a oedd, efallai, yn fwy enwog nag ef sef Cathrine Daniel. Roedd Cathrine yn Babydd â J.E. Daniel yn Brotestant. Ond, fel Saunders, roedd ail-ddarganfod uniongrededd wedi peri i J.E. Daniel weld gwendidau Anghydffurfiaeth Cymru fel ag yr oedd hi’n boenus o glir. Gwelodd yn eglwys Rufain, beth bynnag am ei gwendidau amlwg hi hefyd, fod ganddi barch o leiaf at bethau fel y ddealltwriaeth glasurol o berson a gwaith Crist. Y dynfa yma oedd ynddo rhwng ei Brotestaniaeth a’i gydymdeimlad tawel gyda Chatholigiaeth Cathrine a Saunders sydd i’w gyfri, dwi’n meddwl, am ei gyfnod o obsciwrantiaeth cymharol ar ôl gadael Bala-Bangor.

Yn dilyn yr ail-ryfel byd gadawodd ei gadair ym Mala-Bangor a derbyn swydd fel arolygydd ysgolion a hyd y gwn bu’n addoli wedyn gyda’i wraig a’i blant mewn eglwysi Catholig. Datblygiad rhyfedd yn wir i ddyn oedd nid yn unig yn gyn-athro yng Ngholeg yr Annibynwyr ond hefyd yn brif ladmerydd uniongrededd o’i mewn. Mae’n debyg fod rhai, gan gynnwys ei deulu, yn mynnu fod J.E. Daniel wedi troi cefn yn llwyr ar Brotestaniaeth o 1946 ymlaen ond mae tystiolaeth fod Cathrine Daniel wedi dweud wrth R. Tudur Jones ar ei gwely angau ei bod hi am i bobl wybod “Mai Protestant oedd Jac tan y diwedd.”

O safbwynt diwinyddol mae Saunders a Daniel yn ffigurau diddorol tu hwnt. Mae llawer wedi sôn amdanynt fel un adain o’r adwaith ceidwadol yn erbyn rhyddfrydiaeth; cynrychiolwyd yr adain arall gan rai fel Geraint Gruffydd a Bobi Jones aeth ymlaen i fod yn rhan o sefydlu eglwysi anghydffurfiol newydd yn hytrach na gadael Anghydffurfiaeth a throi at Rufain. Cymaint oedd y dryswch syniadaeth a geid o fewn Anghydffurfiaeth y pryd fod Daniel a oedd yn Brotestant “tan y diwedd” yn fwy cyfforddus tu allan iddi nac o’i mewn.

Ond beth am Dynged yr Iaith? Wn i ddim os traddodwyd y ddarlith yn fyw neu iddi gael ei recordio ymlaen llaw, cyn i Daniel farw ar yr 11eg o Chwefror 1962. Tybed pa fath o gwmwl y trawodd y newydd trist yma am ei gyfaill a gŵr un o’i gyfeillion agosaf dros Saunders ar y pryd? Mae J.E. Daniel yn ŵr sy’n haeddu mwy o sylw a mwy o astudiaeth – roedd, yn debyg i Saunders ei hun efallai, yn enigma diddorol.

Please follow and like us: