Heddiw mi fyddwn ni’n cofio pum mlynedd ar hugain ers trychineb Bhopal yn yr India. Trychineb llai adnabyddus na thrychineb Chernobyl o bosib, ond trychineb a oedd yr un mor os nad yn fwy difrifol. Fe glywais i’n gyntaf am drychineb Bhopal yng nghyfres o ddarlithoedd Yr Athro Andrew Linklater ar gyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol. Mae Linklater yn un o’r awdurdodau mwyaf blaenllaw ar Gysylltiadau Rhyngwladol ac nid llawer o bobl sy’n ymwybodol ei fod yn byw ac yn gweithio allan o’r Adran Wleidyddiaeth yn Aberystwyth. Gan ei fod yn gymaint o awdurdod yn ei faes, ac yn gymaint o “enw” oherwydd, mae’r Brifysgol jest yn gadael iddo gloi ei hun yn ei stydi’n gwneud gwaith ymchwil fel arfer. Ond bob blwyddyn mae’n dysgu un modiwl i’r myfyrwyr a ches i’r fraint o eistedd wrth ei draed yn 2003. Ergyd ei fodiwl mewn gwirionedd oedd esbonio i ni fod Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn lawer mwy na jest ystyriaethau a thensiynau militaraidd a diplomyddol. Ac yn un o’r darlithoedd fe draethodd am drychineb Bhopal gan adrodd a dadansoddi’r hanes mewn cyd-destun diplomyddol a chysylltiadau rhyngwladol.

20030103002309602

Yn fras, yr hyn ddigwyddodd yn Bhopal oedd bod ffatri’r cwmni Americanaidd Union Carbide, oedd yn cynhyrchu gwrth laddwyr ,wedi gollwng cryn dipyn o’r nwy gwenwynig methyl isocyanate i’r awyr. Oherwydd ei fod yn drymach na nwyon eraill yn yr atmosffer fe syrthiodd y nwy ar drigolion tref Bhopal gan ladd 2,259 o bobl yn syth a thua 8,000 dros y dyddiau’n dilyn. Tybir fod 25,000 wedi marw yn y blynyddoedd ers hynny o ganlyniad i’r trychineb a heddiw mae nifer uchel iawn o blant yr ardal yn cael eu geni a namau corfforol ac ymenyddol difrifol. Fe gyfrannodd Union Carbide £700 yn unig o iawndal i unrhyw oroeswyr o’r trychineb a wnaeth gais. Ond hyd heddiw dydy’r cwmni na’i chyfarwyddwyr wedi cymryd cyfrifoldeb cyfreithiol dros y trychineb ac mae’r ffatri wedi ei gadael gan y cwmni heb ei ddigomisiynu’n saff. Fe amcangyfrifir fod hyd at 390 tunnell o hylifau a nwyon gwenwynig yn parhau i fod ar y safle. Nid damwain anrhagweladwy ydoedd oblegid fe dynnwyd sylw at broblemau diogelwch ar y safle am flynyddoedd ond fe’i hanwybyddwyd gan fwrdd rheoli’r cwmni a ddewisodd roi elw a lles y cyfranddalwyr yn y gorllewin gyntaf. Ers Gorffennaf eleni mae yna warant i arestio Warren Anderson, pennaeth Union Carbide ar y pryd, mewn lle. Mae’r warant i’w arestio yn nodi ei fod dan amheuaeth o mass mansloughter. Mae’n byw yn Long Island, NY ac ar hyn o bryd nid yw’n glir os bydd UDA yn ei estraddodi i’r India i ateb y cyhuddiadau.

bhopal

Yr hyn sydd yn fy llenwi fwyaf a llid gyfiawn yn erbyn Union Carbide yw eu pendantrwydd hyd heddiw i wadu unrhyw gyfrifoldeb. Yn waeth na hynny mae’r cwmni’n parhau i ddadlau fod y drychineb wedi ei achos yn fwriadol gan rhywun a bwriad maleusus yn hytrach na’i fod wedi ei achosi gan ddiffygion diogelwch y cwmni. Mae datganiad y cwmni hyd heddiw yn datgan:

Shortly after the gas release, Union Carbide launched an aggressive effort to identify the cause. Engineering consulting firm, Arthur D. Little, Inc., conducted a thorough investigation. Its conclusion: The gas leak could only have been caused by deliberate sabotage. Someone purposely put water in the gas storage tank, and this caused a massive chemical reaction. Process safety systems had been put in place that would have kept the water from entering into the tank by accident.

Wrth gwrs mae’r datganiad yna wedi ei ysgrifennu gan ddynion fyddai’n wynebu oes o garchar pe bai i lys farnu fod y cyfrifoldeb dros y drychineb yn syrthio ar Union Carbide. Mae’r adran Q&A ar eu gwefan yn darllen fel plentyn drwg sy’n ceisio dianc o dwll ond yn gwneud dim ond cloddi ei hun yn ddyfnach i mewn iddi.

Bwriad Linklater yn y ddarlith honno yn 2003 oedd dangos i ni sut y gall gwahanol bobl a gwahanol wledydd ymosod ar bobloedd eraill heb ddefnyddio arfau a byddinoedd confensiynol. Dadleuodd fod yr hyn ddigwyddodd yn Bhopal yr un mor ddifrifol, os nad difrifolach mewn gwirionedd, a’r hyn ddigwyddodd yn Efrog Newydd ar 9/11. Wn i ddim pa les sydd i daflu Warren Anderson i gell am weddill ei oes gan ei fod eisoes yn 88. Ond mi rydw i’n bendant fy marn y dylai nai llai Union Carbide, sydd bellach yn parhau fasnachu dan yr enw Dow Chemical, neu lywodraeth America fynd i mewn i Bhobal gyda’r bilynnau er mwyn glanhau’r hen ffatri allan ac agor clinigau ac ysbytai a thalu am ofal iechyd o’r safon uchaf posib i bobl yr ardal am ddegawdau i ddod. Dyna fyddai’r unig beth allasai ddod a ni gam yn nes at unioni’r anghyfiawnder difrifol hwn a wnaed gan gyfalafiaeth y gorllewin i rai o bobl tlota’r byd.

Please follow and like us: