Sefydliad cenedlaethol y dylai Prifysgol fod. Ni all yr un Gwladwriaeth wasanaethu mwy nag un cenedl yn yr un ffordd na all Brifysgol wasanaethu mwy nag un cenedl. Yn ddigon herfeiddiol ond yn gwbl gywir y taranodd R. Tudur Jones yn ei ysgrif bwerus ‘Brad y Deallusion’ yn 1973; ‘Y mae greddf ddyfnaf gwleidyddion a gweinyddwyr Lloegr yn peri iddynt wybod mai’r dosbarth allweddol ym mhob mudiad cenedlaethol yw’r deallusion. Ac un o’u buddugoliaethau mwyaf llachar oedd llithio digon o ddeallusion Cymru i wneud eu gwaith yn eu lle ym Mhrifysgol Cymru. Trwy benodi cenedlaetholwyr Seisnig i lu mawr o swyddi yn y Brifysgol, mae’r rheini’n awr mewn sefyllfa i roi’r ergyd olaf i Gymreictod ein Prifysgol. Mae’r gwyll yn cau amdanom.’ Dri deg a phedwar o flynyddoedd yn ddiweddarach mae’r ysgrifen yn amlwg ar y mur.

Mae deddf y farchnad rydd, onid deddf natur, yn peri i’r dyn naturiol dargedu neu ddewis y mwyafrif. Dyna pam fod yn rhaid i chi aros gryn amser yn McDonalds os ydych chi wedi gofyn am eich bwrger heb saws – lleiafrif sydd yn gofyn am fwrger heb saws felly dydy hi ddim yn gwneud swynwyr yn ariannol iddynt baratoi rhes o rai heb saws yn barod i’w llowcio bob awr o’r dydd. Mae’r un peth yn wir am Brifysgolion Cymru – lleiafrif fuodd, sydd ac a fydd yn hawlio addysg Gymraeg gan y sefydliadau. Ar un llaw, yn yr oes yma o farchnadeiddio addysg, medrwch chi ddeall pam nad ydy’r Prifysgolion yn cynnig darpariaeth deg i Gymry Cymraeg. Fe fedrai glywed rhyw gyfrifydd yn ystafell y Cyngor yn yr Hen Goleg yn dweud nawr; ‘Technically speaking Welsh Education isn’t worth the effort nor the recorces.’ Ac yn dechnolegol, o fewn sefydliad lle mae’r Cymry Cymraeg yn lleiafrif bychan iawn, mae’r pen bach o gyfrifydd yn iawn. Dyna pam fod angen chwyldro ym Mhrifysgolion Cymru.

Dewch gyda mi i Amsterdam ddiwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a gadewch i mi eich cyflwyno i ŵr o’r enw Abraham Kuyper – gŵr oedd yn gresynu nad oedd sustem addysg seciwlar-fodernaidd ei wlad yn rhoi lle i blwraliaeth. Mynnodd bod dyletswydd gan y Wladwriaeth i gydnabod gwahanol anghenion o fewn y byd addysg ac nad oedd ‘one size fits all’ yn rhoi tegwch i bob carfan a haen yn y gymdeithas. Yn wyneb methiant Prifysgolion ei wlad i ddarparu addysg at anghenion y gymuned Brotestannaidd-Ddiwygiedig sefydlodd Brifysgol Rydd Amsterdam yn 1880 – er mai ei pennaf ddiben hi oedd darparu dysg ag iddi werthoedd Protestannaidd yn gefn i’r cyfan, roedd y cwricwlwm yn eang a mynediad yn rhydd i bawb o ba bynnag gefndir cymdeithasol a chrefyddol. Ystyr yr enw, ‘Prifysgol Rydd’, oedd gwneud pwynt o ddynodi fod y Brifysgol yn rhydd ac annibynnol oddi wrth y wladwriaeth a’r eglwys. Maes o law daeth y Brifysgol i dderbyn cydnabyddiaeth lawn a derbyn cyllid gyhoeddus fel pob Prifysgol arall. Erbyn heddiw mae gan y Brifysgol 18,000 o fyfyrwyr, hwynt oll yn dod o wahanol gefndiroedd. Er fod y myfyrwyr a’r staff bellach yn dod o wahanol gefndiroedd crefyddol, o ganlyniad i draddodiad Brotestannaidd y Brifysgol, caiff y myfyrwyr addysg unigryw o hyd lle cant eu haddysgu i roi pwys arbennig i ystyried moeseg ac effaith gymdeithasol eu pwnc boed yn bwnc gwyddonol neu’n bwnc celfyddydol.

Onid oes gwersi i Gymru ddysg o’r hanesyn yma am Brifysgol Rydd Amsterdam? Os nad ydy addysg Gymraeg a Chymreig yn cael chware teg oddi fewn i’r Prifysgolion Prydeinig sydd yng Nghymru pam ddim mentro a sefydlu Prifysgol Rydd Gymreig? Ensynio ydw i, fel y maen siŵr i chi ddyfalu, mae’r unig ateb wnaiff chwyldroi addysg Gymraeg yw sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg. Er fod cynlluniau Mantais i weld yn braenaru peth o’r tir, ac er bod eu cymhellion yn iach bid siŵr; diferion yn y môr yw eu hymdrechion mewn gwirionedd. Gadewch i fenter y gymuned Brotestannaidd-Ddiwygiedig yn yr Iseldiroedd ein hysbrydoli i alw am fwy na diferion a briwsion yn unig – Prifysgol Rydd Gymraeg!

Please follow and like us: