Os fydd y Coleg Ffederal gaiff ei sefydlu yn go agos at yr hyn mae Robin Williams yn argymell yna fyddw ni tua 75% o’r ffordd yna. Mae yna lot i ddysgu o’r ymgyrch 10 mlynedd yma. Dyma’r camau dwi’n gallu olrhain.

  • 1999-2002: Codi ymwybyddiaeth am yr anghyfiawnder ymysg y myfyrwyr eu hunain i ddechrau.
  • 2003-2005: Protestiadau gwir boblogaidd a thorfol yn ogystal a rhai elfennau mwy “eithafol” yn paentio fin nos heb sêl bendith yr arweinyddiaeth.
  • 2005-2007: Aeddfedu’r ddadl ddeallusol, gweithio ar ddogfenau ac argymhellion polisi. Diddorol nodi fod y protestio poblogaidd erbyn y pwynt yma wedi colli peth o’i stem ond doedd dim ots oherwydd roedd y protestio a fu wedi gosod y dôn ar gyfer y gwaith lobîo.
  • 2008-2009: Ennill y ddadl ddeallusol ac meddianu’r agenda wleidyddol.
  • 2010: Sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg?

Y ddau ffactor bwysig dwi’n meddwl oedd hyn:

i.) Protestiadau torfol yn gorfodi pobl i gymryd safbwynt – “wyt ti gyda ni neu wyt ti ddim?” mentality.
ii.) Rhai wedi gwneud LOT o waith cartref i mewn i fanion polisi i’r pwynt fod arweinwyr yr ymgyrch yn fwy gwybodus yn y maes na staff y sector, gweision sifil a’r gwleidyddion. Hawdd iawn dylanwadu os nad rheoli’r agenda wleidyddol ac ennill dadleuon wedyn.

Wrth gwrs un ffactor bwysig arall yw ein bod ni’n delio yn y fan yma gydag Addysg – rhywbeth sydd wedi ei ddatganoli, i bob pwrpas, yn llwyr eisioes i Gaerdydd. Roedd hynny yn gwneud y ffocysu ar yr ymgyrchu a’r lobio yn dra haws nag mewn meysydd eraill fel mesur iaith a cynllunio tai etc…

Yn olaf maen ddiddorol nodi fod llawer o arweinwyr yr ymgyrch ar y dechrau wedi symud mlaen i borfeydd brasach. Yn y cyfnod protestio torfol roedd Bethan Jenkins AC wrth gwrs yn ein canol ni. Rhai eraill o’r arweinwyr bellach a swyddi parchus gyda’r BBC. Ond mae rhai ohonom wedi parhau i fod yn rhan o’r ymgyrch tan y diwedd, ac dwi’n meddwl fod hynny wedi bod yn bwysig hefyd i lwyddiant y gwaith – parhad. Y mae ymgyrchoedd sy’n cael sylw grwp o bobl am gyfnod byr yn unig yn dda i ddim – y maen rhaid ymroi i ymgyrch am gyfnod hir, dengmlynedd fe ymddengys, os am gael y maen i’r wal.

Os caiff y Coleg Ffederal yma ei sefydlu yn go-agos at ein delfryd ni yna maen siwr y bydda i’n edrych nol yn fy henaint ar fy nghyfnod 6 mlynedd yn y brifysgol ac nid yn gweld fy ngradd dosbarth cynta, ddim hyd yn oed fy noethuriaeth am R. Tudur Jones ond yn hytrach fy rol fechan yn yr ymgyrch am Goleg Cymraeg fel fy nghyrhaeddiad pwysicaf. Ond nid myfi bia’r clod, ddim o gwbl, y mae’r clod yn perthyn i eraill, yr unig beth roeddw ni’n gwneud oedd rhoi trefn ar bobl!

Rhai talu gwrogaeth arbennig hefyd i griw Cylch yr Iaith, yn bennaf Dafydd Glyn Jones ond hefyd ei gadfridogion Meredydd Evans, Elfed Roberts ac wrth gwrs y pennaf un Ieuan Wyn, Bethesda. Dwi’n dweud fod Adroddiad Robin Williams yn mynd a ni tua 74% o’r ffordd a dwi’n synhwyro efallai y bod y criw arbennig yma ond yn gweld yr adroddiad yn mynd 50% o’r ffordd. Bydd yna frwydrau eraill i’w brwydro yn y sector maen siwr – cyllid teg i’r Coleg Ffederal, gwarchod ei annibyniaeth etc…

Ond mae’r clod yn y diwedd yn perthyn i Dduw, ef agorodd ein llygaid i’r anghyfiawnder a’i ddoethineb ef wnaeth ein harwain i ennill y ddadl sut orau i unioni’r anghyfiawnder hwnnw.

Please follow and like us: