gweinidog. dylunydd. ffotograffydd.

rhysllwyd.com

Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr

Mae'r newyddion yn adrodd y bydd biliau ynni'n cael eu haneru. Ond mewn gwirionedd maen nhw'n dyblu, er ddim yn codi pedair gwaith. Ond ni - y bobl - fydd yn talu am yr “arbediad”, a bydd yr holl arian yn mynd yn syth i bocedi’r cwmnïau ynni, ni fydd eu helw yn cymryd...

Yn daeog ddiogel?

“Mwy trysorau sy'n dy enw / Na thrysorau'r India i gyd” Dwy linell o eiddo William Williams, Pantycelyn a dwy linell o un o’r emynau roedd ein côr ysgol gynradd yn ei ganu yn 1996 pan ymwelodd y Frenhines ag Aberystwyth i agor estyniad newydd y Llyfrgell Genedlaethol....

“Roedd Iesu yn ei ddagrau” Ioan 11:35

Pan fuodd Lasarus farw nid oedd Iesu o gwmpas. Bedwar diwrnod wedyn dyma Iesu yn cyrraedd a’r peth cyntaf dywedodd Mair wrth Iesu oedd: “Arglwydd, taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.” Mewn geiriau eraill, “Dduw, ble oeddet ti!?” Yr un cwestiwn ag y...

Cael eich ail aileni

Wythnos yma yng Nghaersalem roeddem ni’n edrych ar hanes Iesu’n cyfarfod Nicodemus o Ioan 3. Dyma’r hanes sy’n rhoi’r syniad i ni am ‘ailenedigaeth’, neu yn Saesneg y syniad o fod yn ‘born again’. Pan mae rhywun yn clywed y term ‘born again Christian’ y dyddiau yma...

Sut wnaeth newyddion mor dda arwain at ymateb mor ddrwg?

Yn Luc 4 rydym ni’n cael hanes Iesu yn y Synagog yn Nasareth ac fel testun mae’n dewis rhai adnodau o Broffwydoliaeth Eseia: “Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i,oherwydd mae wedi fy eneinio ii gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd.Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy'n...