coedenYn ôl f’anwyl Fam dwi wedi bod yn byw yng ngwlad o gwcw ers blynyddoedd lawer. Tair mlynedd yn y Brifysgol yn byw mewn neuaddau yn Aberystwyth ac yna dwy flynedd fel Warden ar neuadd arall ym Mangor yn talu dim rhent a cysylltiad gwe 6Mb/sec on tap a hynny am ddim. Bellach dwi wedi mentro allan i’r byd go-iawn ac wedi gadael gwlad y gwcw ac yn gorfod dechrau talu am fy nhechnoleg a’r defnydd ohoni. Er mod i yn jynci technoleg ers blynyddoedd dim ond dros yr wythnosau diwethaf mae gwir gost technoleg wedi gwawrio arna i.

Cymerwch er enghraifft eich cytundeb ffon clyfar – eich iPhone neu eich Blackberry – maen debyg eich bod chi, fel y fi, yn talu rhywbeth nid annhebyg i £35 y mis. Yna maen rhaid cael y pecyn band llydan gorau posib er mwyn llwytho fideo’n llyfr – £35 arall. Dyna i chi £70 y mis, £840 y flwyddyn. I chi sy’n tanysgrifio i wasanaethau fel Sky yna maen debyg fod eich tanysgrifiadau technolegaidd chi’n estyn dros £1,000 y flwyddyn yn hawdd. Heb sôn wedyn am gyfraniad yr holl declynnau yma i’ch bil trydan cyson gynyddol a pheidiwch ac anghofio cost dechreuol y teclynnau caled i ddechrau – eich gliniadur, eich teledu HD ayyb…

Y cwestiwn oedd yn rhaid i mi holi i fi fy hun felly oedd hyn: a’i gwariant ynteu buddsoddiad ydy’r holl wario yma ar dechnoleg? I’r rhan fwyaf o gyfranwyr a darllenwyr blog ar dechnoleg maen siŵr mae buddsoddiad mwy na gwariant gwag ydy’r holl wario yma, sydd yn dod a ni at ein ail-gwestiwn anodd sef: beth am y bobl a’r teuluoedd hynny na all wneud y buddsoddiad? Yn anffodus mae nhw yn cael eu gadael ar ôl ac mewn ffordd mae technoleg bellach yn cyfrannu tuag at y bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog. Dyna pam, yn rhannol, roeddwn ni’n un o’r ychydig rai oedd yn gweld polisi Plaid Cymru ddwy flynedd yn ôl o roi gliniadur am-ddim i bob plentyn ysgol yn syniad reit dda. Nid gwariant ffôl byddai’r fath beth wedi bod ond buddsoddiad yn ein pobl a’n cymunedau.

Please follow and like us: