Er mae nid eglwys Gristnogol na mudiad crefyddol ydy Capital One, sylwad ysbrydol ydy prif hook eu hysbyseb bresennol yn hysbysebu eu cerdyn credid yn y papurau. “Life’s better when you know what’s coming” ac yna mae’r hysbyseb yn mynd mlaen i esbonio: ‘Capital One is the only credit card company to fix your rate at 8.5% p.a. on balance transfers.’

hysbyseb_capitalone

Dwi’n cytuno gyda datganiad “ysbrydol” yr hysbyseb, ydy mae bywyd yn well pan ‘dy chi’n gwybod beth sy’n dod. Un o lyfrau mwyaf astrus y Beibl ar un wedd ydy llyfr Datguddiad ond o ddarllen y llyfr maen lyfr sy’n llawn gobaith ac mae yn dweud wrtho ni beth sydd i ddod. Dyma ddyfyniad allan o Datguddiad pennod 21 adnodau 1 i 4 (Revelation 21:1-4):

Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a’r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy. Dyma fi’n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi ei gwisgo’n hardd ar gyfer ei phriodas. Wedyn clywais lais o’r orsedd yn cyhoeddi’n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw’n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw. Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel yr oedden nhw wedi mynd.”

Mae’r gair yma sy’n rhoi gwybod i ni beth fydd nesa yn hyfryd ac ydy mae bywyd yn well, fel mae’r hysbyseb yn awgrymu, pan dy chi’n gwybod mae dyma fydd i ddod. Dim marwolaeth, dim galaru, dim wylo a dim poen, ‘life is better when you know what’s coming.’

Ond fel pob hysbyseb gan y cwmnïau cardiau credit mae yna amodau a small print. Ar waelod yr hysbyseb mae Capital One yn dweud: ‘Credit is available subject to status and conditions. New customers only. From 1st August 2012 your rate for purchases and balance transfers may change.’ Felly dydy dyfodol Capital One i chi ddim yn fêl i gyd. Ond y newyddion da am efengyl Iesu Grist yw fod dim amodau a dim small print. Dydy Iesu ddim yn asesu ein ‘status and conditions’ a dydy e ddim yn newid ein ‘balance transfers’ ar ôl pedair mlynedd. Mae Iesu yn caru ac am gymodi pob un ohonom sy’n fodlon cydnabod fod angen i ni gael ein cymodi a Duw am ein llanast ac yn wahanol i gerdyn credid Capital One mae Iesu wedi talu ein dyledion yn gyfan gwbl ar ein rhan a hynny am byth nid dim ond tan 2012. Mae ffydd yn Iesu yn golygu y caw ni brofi byd heb farwolaeth, heb alaru, heb wylo a heb boen; ydy mae bywyd yn haws os ‘dy chi’n gwybod beth sy’n dod.

Please follow and like us: