Hywel WilliamsDwi lawr yn Llanelli heno yn cymryd rhan mewn rhyw fath o raglen yn arddull Pawb a’i Farn yn trafod y gyfres Cymru Hywel Williams. Dwi’n meddwl mod i wedi cael fy ngofyn i fod yna’n benodol oherwydd mod i’n weinidog ifanc. Roedd ail raglen y gyfres yn trafod crefydd y Cymry ac yn gwbl anisgwyliedig, ac o bosib heb yn wybod iddo fe ei hun, roedd beirniadaeth Hywel Williams o Gristnogaeth y Cymry ers yr ail ryfel byd yn ddigon tebyg i fy un i a llawer o bobl sy’n arddel y safbwynt efengylaidd. Hanfod ei ddadl oedd fod yr eglwysi Cristnogol yng Nghymru wedi marw oherwydd eu bod nhw wedi ymwrthod ac ysbrydolrwydd y ffydd Gristnogol gan ganolbwyntio’n unig ar y wedd gymdeithasol. Canlyniad hyn yn ôl Hywel Williams oedd troi’r eglwysi’n ddim byd gwahanol i unrhyw fudiad neu gymdeithas seciwlar. Oxfam gyda emynau. Dyma dri munud olaf y rhaglen i chi lle grynhoa Hywel ei ddadl:


Islwytho MP3 (PC: Right Click>Save File As… MAC: Ctrl+Click>Download Linked file…)

Ar y cyfan rwy’n cytuno gyda’i ddadl ond mae ganddo duedd i or-gyffredinoli. Cymer R. Tudur Jones er enghraifft, fe ymdaflodd ef ei hun i frwydr gymdeithasol Cymru drwy gyfrwng Plaid Cymru ond prin y gellid edrych ar R. Tudur Jones fel ffigwr rhyddfrydol a ddi-raddiodd gwedd ysbrydol y ffydd Gristnogol. Un peth od am y rhaglen hefyd oedd i’r rhan o’r rhaglen oedd yn beirniadu Cristnogaeth ryddfrydol gael ei ffilmio yng nghapel Bethany, Rhydaman. Un o eglwysi mwyaf efengylaidd yr Hen Gorff gydol yr Ugeinfed Ganrif – wn i ddim os oedd Hywel yn ymwybodol o hynny pan ddewiswyd y lleoliad.

Rwy’n disgwyl mlaen i gyfarfod Hywel heno os caf gyfle a’i holi ymhellach yn arbennig felly am ei ffydd ef ei hun! Roedd yn sôn yn sydyn ar y rhaglen ei fod ef bellach, er yn fab i Weinidog anghydffurfiol, yn Eingl-Gatholig – rhyw Saunders o gymeriad felly. Bydd trafod hyn gydag ef, os daw cyfle yn ddifyr i mi ond wn i ddim os bydd yn drafodaeth ddifyr i S4/C!

Please follow and like us: