Er mod i’n Gristion o argyhoeddiad dwi’n credu o argyhoeddiad hefyd fod crefydd yn un o blorynau mwyaf dynoliaeth.

Ymgais dyn i ddarganfod duw sy’n aml yn dod i’w ben wrth i ddyn ddyrchafu ei ei hun neu rhywbeth anghywir i safle’r Duw byw ydy crefydd. Yn wahanol i grefydd mae Cristnogaeth yn credu mae Duw sydd wedi datguddio ei hun i ni yn Iesu Grist. Mae ffasgwyr ar hyd yr oesoedd wedi dyrchafu hil, y genedl a’r wladwriaeth i’r orsedd sy’n eiddo i un person yn unig sef yr Arglwydd Iesu Grist. Mae hyn i’w weld yn boenus o glir yn y lluniau isod y dois ar eu traws ar y wefan luniau ragorol YMA. Pur anaml y byddwch chi’n dod o hyd i luniau lliw o’r Almaen yn y cyfnod.

Mae’r llun cyntaf yn dangos erllychdra a grym crefydd dros bobl – yr hyn a wnaeth y Natsiaid yn y bôn oedd creu cwlt crefyddol o amgylch yr hil a’r wladwriaeth. Mae’r llun cyntaf yma yn dangos y grym satanaidd hwnnw ar waith mewn ffordd drawiadol iawn:

Yn yr ail lun yma gwelir swyddogion natsiaidd nid yn unig yn cymryd lle Iesu ond hefyd yn dychan Iesu’n gwbl agored:

Please follow and like us: