‘Crist: Gobaith Cenedl’, dyna oedd teitl pennod gan Dr. Tudur yn y gyfrol ‘Gwinllan a Roddwyd’ a gyhoeddwyd yn 1972. Mae Tudur yn agor y benod wrth ddweud “Gwaith dyn yw creu diwylliant”, yna maen 

mynd ymlaen i ddweud: “Wrth greu diwylliant, mae dyn yn gwrthrychu’r ffydd sy’n rheoli’i galon.” Yn nhermau diwinyddiaeth gyhoeddus mae ‘diwylliant’ yn golygu holl sfferau cymdeithasol dyn, llen a cherddoriaeth ie, ond hefyd sfferau fel gwleidyddiaeth a diwydiant. Mae syniad Tudur fod diwylliant dyn yn gwrthrychu’r ffydd sy’n rheoli ei galon yn esbonio llawer am y pydew gwleidyddol mae Cymru ynddi heddiw. 

Nid Crist yw gwrthrych ffydd y rhelyw o wleidyddion yng Nghaerdydd a dyna sydd i gyfrif rwy’n tybio am siomedigaeth llawer o’r wleidyddiaeth sy’n dod allan o Fae Caerdydd.

Gadewch i mi ymhelaethu. Tra mod i yn Kyiv ches i broffwydoliaeth fod angen i mi ail gyhoeddi neges 

Jeremeia 18 yn glir i Gymru. Dyma ddywedodd Yr Arglwydd wrth Jeremeia a minnau:

Fel clai yn llaw’r crochenydd, felly yr ydych chwi yn fy llaw i, ty Israel a Chymru. Ar unrhyw funud gallaf benderfynnu diwreiddio a thynnu i lawr, a difetha cenedl neu deyrnas. Ac os bydd y genedl honno y lleferais yn ei herbyn yn troi oddi wrth ei drygioni, gallaf ailfeddwl am y drwg a fwriedais iddi. Ar unrhyw funud gallaf benderfynnu adeiladu a phlannu cenedl neu deyrnas, ond os gwna’r genedl honno ddrygioni yn fy ngolwg, a gwrthod gwrando arnaf, gallaf ailfeddwl am y da a addewais iddi. Yn awr dywed wrth bobl Jwda a Chymru ac wrth breswylwyr Jerwsalem a threfi Cymru.

Roedd geiriau’r Arglwydd yn siarad yn amlwg o glir i mi sef bod adferiad gwleidyddol a diwyllianol Cymru yn gorfod dod law yn llaw ag adferiad ysbrydol grymus. Gan fod y Cymry yn troi cefn ar Yr Arglwydd ar hyn o bryd mae hynny yn cael ei adlewyrchu gan ein llywodraeth llipa.

Mewn difri calon pa lywodraeth arall yn y byd yn ein dydd ni sy’n pasio LCO i roi hawliau pellach i siaradwyr Cymraeg ond yn dewis cyfyngu’r hawliau hynny i rai sectorau yn unig. Mae Gair Duw yn glir nad oes gwahaniaeth rhwng Iddew na Groegiad, ond mae yna wahaniaeth rhwng Iddew a Groegiad yn y sector Breifat yn ôl LCO iaith arfaethedig Plaid Cymru a’r Blaid Lafur. Ydy’r gwleidyddion a’r gweision sifil yn tybio fod eu doethineb yn rhagori ar ddoethineb Brenin y Brenhinoedd? Bydded i Dduw faddau iddynt am eu cyfeiliorni.

Cafod Jeremeia ei erlid gan ei gyd-Iddewon am ddod ar broffwydoliaeth yma gan yr Arglwydd a dwin gwbid na fydd y neges yma yn boblogaidd yng Nghymru heddiw. Ond alla i ddim a tewi am yr hyn mae’r Arglwydd wedi rhoi ar fy nghalon i adrodd.

Crist yw gobaith cenedl. Crist yw gobaith Cymru. Llugoer a di-ddanedd bydd unrhyw ymdrechion i ddatblygu datganoli ac adfer y Gymraeg heb fod hyn yn digwydd law yn llaw ag adferiad ysbrydol. Nid fy marn i yw hyn ond dyma’r realiti mae Duw wedi ei ddatguddio i mi ac a ddatgelwyd genhedlaeth yn ol i wyr fel Dr. Tudur. Rhaid i Gymru a phobl Cymro ddod i oed unwaith yn rhagor a chydnabod Arglwyddiaeth Crist a diolch iddo am ein cadw hyd yma.


Please follow and like us: