Ar ddiwrnod #amserisiarad mae’n bwysig, o safbwynt Cristnogol, i gyffesu a chadarnhau’r canlynol:

1. Mae Cristnogion, fel pawb arall, yn gallu dioddef o salwch meddwl ac nid oes rhaid i unrhyw Gristion deimlo cywilydd am hynny nac ychwaith feddwl mai rhyw ddiffyg neu broblem ysbrydol sydd tu ôl i’r salwch.

2. Mae rhai o gymeriadau mawr y Beibl – arwyr y ffydd – yn arddangos symptomau o be fyddem heddiw yn deall fel salwch meddwl. Nid yn unig fod Duw yn gallu defnyddio pobl sy’n dioddef o salwch meddwl ond mae Duw yn aml yn dewis defnyddio’r gwan a’r toredig i ddangos natur ben-i-waered ei deyrnas.

3. Mae newyddion da Iesu yn newyddion da i’r person cyfan – corff, meddwl ac enaid – ac fel eglwys ni ddylem rannu’r person gan gyfarch yn hytrach gyfanrwydd person ac felly croesawu’r waredigaeth gyflawn sydd i’r person cyflawn trwy Iesu.

4. Er bod ffydd ar ei orau yn rhyddhau pobl, mae crefydd ar ei waethaf yn caethiwo pobl. Felly, mae angen i eglwysi a Christnogion edifarhau am gyfrannu weithiau at gyflwr iechyd meddwl pobl drwy gam-drin ysbrydol, efallai yn anfwriadol. Rhaid ymddiheuro wrth i fugeilio Cristnogol iach lithro i fod yn rheoli afiach, wrth i bregethu grymus lithro i fod yn fanipiwleiddio emosiynol ac wrth i arweinwyr dawnus gam-ddefnyddio eu pŵer.

5. Credwn ein bod ni wedi ein creu i fod mewn cymdeithas ac i siarad efo’n gilydd gan ein bod wedi ein creu ar lun a delw Duw sy’n gymuned – Tad, Mab ac Ysbryd Glân – rydym felly wedi ein creu ar gyfer #amserisiarad

Enghreifftiau posib o iechyd meddwl yn y Beibl 

 

Dwi’n ofalus iawn i roi marciau gwestiwn tu ôl y cyflyrau posib oherwydd sgen i ddim addysg na hyfforddiant o gwbl mewn iechyd meddwl, felly plis peidiwch cymryd hyn fel dehongliad meddygol cywir o gwbl – ac os oes rhywun yn darllen hwn angen help proffesiynnol yna ewch am yr help a’r cyngor hwnnw yn lle dibynnu a’r amaturiaid fel fi i ddehongli a dod i gasgliadau sydd efallai yn anghywir.

Y Brenin Dafydd yn Salm 38:4 – “Dw i wedi cael fy llethu gan y drwg wnes i; mae fel baich sy’n rhy drwm i’w gario.” (Gor-bryder ac iselder?)

Job yn Job 3:26 – “Does gen i ddim llonydd, dim heddwch, dim gorffwys – dim ond trafferthion.” (Gor-bryder ac iselder?)

Job yn Job 2:8 –  “A dyma Job yn cymryd darn o botyn i grafu ei friwiau, a mynd i eistedd yn y lludw ar y domen sbwriel.” (Gor-bryder/iselder yn arwain at hunan-niweidio?)

Y Proffwyd Elias yn 1 Brenhinoedd 19:4 – “a cherdded yn ei flaen drwy’r dydd i’r anialwch. Yna dyma fe’n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na’m hynafiaid.” (Iselder a PTSD [gweler be sy’n digwydd yn y bennod flaenorol] yn arwain at feddyliau hunanladdol?)

Jona 4:3 – “Felly, plîs ARGLWYDD, lladd fi! Mae’n well gen i farw na byw i weld hyn!” (Gor-bryder yn arwain at feddyliau hunanladdol?)

Hefyd, ymlaen yn y Testament Newydd wedyn mae rhai o’r disgyblion – Pedr yn arbennig – o bosib yn dangos symptomau o ddiffyg hunanwerth a phryder o bosib? Rhai wedi awgrymu hefyd fod y rhychwant o emosiwn mae yr Apostol Paul yn ei brofi (eto efallai rhywfaint o PTSD oherwydd popeth wnaeth e brofi) yn pwynt i’r cyfeiriad ei fod yn wreslo efo rhyw fath o gyflwr.

 

Please follow and like us: