Pan rydym ni fel arfer yn dweud Efrog Newydd rydym ni mewn gwirionedd yn golygu Manhattan sef dim ond un o’r pum borough ag ydyw Efrog Newydd go-iawn. Y pedwar arall yw Brooklyn, Queens, Bronx a Staten Island. Maen nhw’n dweud fod rhaid i chi ymweld ag o leiaf un o’r boroughs erill i brofi Efrog Newydd “go-iawn” ond oherwydd ein bod ni dim yn ond Efrog Newydd am dridiau dim ond crwydro Manhattan wnaethon ni – a dim ond crafu’r wyneb wnaetho ni yn y fan honno.

rhysllwyd-7871

Ar y diwrnod cyntaf fe wnaetho ni gerdded ar hyd yr High Line ar y Lower West Side. Beth oedd hwn oedd hen drac rheilffordd uchel oedd wedi ei droi mewn i barc cyhoeddus cul a hir. Roedd cerdded ar ei hyd yn rhoi golygfeydd gwych o’r ddinas i chi ac yn rhoi munud i chi ddal eich anadl yn y ddinas brysur. Wrth gwrs, dyma syniad gwych beth i wneud gyda’r fly-over yng Nghaernarfon ar ôl i’r lôn osgoi gael ei chodi!

rhysllwyd-7875

Ddiwrnod arall fe aethom ni ar y cwch heibio i’r Statue of Libery ac i Ellis Island. Ellis Island oedd canolfan immigration yr Unol Daleithiau am ddegawdau – y cyfnod lle roedd miloedd o Gymry yn mudo i America.

rhysllwyd-7929

Roedd modd chwilio trwy’r archifau am eich cyn-dadau. Roedd Menna’n gwybod fod hen hen ewythr iddi wedi symud i’r Amerig troed yr Ugeinfed Ganrif – toedden ni ddim yn gwybod ei enw, dim ond ei gyfenw sef Jones! Felly roedd mynd i fod fel chwilio am nodwydd mewn tas wair. Roedd Jones+Brithdir yn dangos dim. Jones+Dolgellau yn dangos dim. Jones+Bala yn dangos dros chwe mil o enwau. Jones+Dolgelley dim ond yn dangos llond dwrn ac er mawr syndod dyna lle roedd y record i Edward Jonathan Jones, Brynbas, Dolgelley. O’r holl Joneses’ o’r ardal fe oedd yr unig un oedd wedi nodi ar y ffurflen o ba fferm roedd e’n dod ac heblaw am hynny bydde ni ddim wedi gallu ein ffeindio gan fod dim record o’i enw cyntaf gyda ni! Mae mynd i America heddiw dal i deimlo fel big deal, dychmygwch sut brofiad roedd hi i werin Meirionnydd symud yma dros ganrif yn ôl?

rhysllwyd-7905

Yn hytrach na mynd i ben yr Empire State Building neu’r World One Tower newydd yn y World Trade Centre fe aethom ni fyny’r Rockefeller gan ei fod yn llai prysur ac hefyd er mwyn gweld y ddau dŵr arall enwcoach. Roedd y golygfeydd o’r top yn anhygoel.

rhysllwyd-7955

Ar ein phrynhawn olaf y bwriad oedd mynd am bicnic i Central Park, ond wrth i ni gerdded mewn i’r parc dyma’r glaw yn dechrau. Roedd hi wedi bod yn wythnos glos iawn. Dros 30 selsiws hyd yn oed gyda’r nos ac roedd y gwres yn drymaidd iawn. Roedd hi’n anorfod fod storm mynd i dorri cyn i ni adael y ddinas.

rhysllwyd-7984

Er fod gyda ni gotiau glaw ac wedi trio cuddio dan rhai o’r coed roedden ni’n wylb at ein croen – yn ffodus roedd y camera a’r ffôn yn iawn ond rhywsut fe wlychodd yr iPad ac mae wedi marw!

rhysllwyd-7992

Please follow and like us: