Wn i ddim faint ohonoch chi wrandawodd ar raglen Gwilym Owen amser cinio ddydd Llun bythefnos yn ôl? Yn ôl ei arfer roedd Gwilym yn holi’r cwestiynau ar ei raglen y buasai’n cael gwybod yr ateb iddynt fan yma pe tae e’n dod atom ni i Benuel. Maen aelod maen debyg er na welais yno erioed a finnau wedi bod yn mynd yna ers dros ddwy flynedd bellach. Ond ta waeth am hynny. Yr eitem ar Week In Week Out yn dwyn y teitl “Born Again Wales” enynnodd chwilfrydedd Mr. Owen ac fe wahoddodd dri gweinidog i fewn i drafod y rhaglen gyda fe. Meirion Lloyd-Davies ar un pen, Guto Prys ap Gwynfor yn y canol ac Euros Wyn Jones ar y pegwn arall. Un o gwestiynau Gwilym i’w gyfranwyr oedd “Beth yn union ydy ‘born again’ beth yn union ydy’r ‘ail-eni’ yma?”
Euros gafodd gyfle i ymateb gyntaf ac fe ddywedodd yn ddigon cywir ein bod ni yn yr eglwysi Cymraeg wedi mynd i ofni defnyddio termau o’r fath. Fe bwyntiodd allan mae rhywbeth lled diweddar ydy ofni sôn am ail-eni, ofni sôn am dröedigaeth ac yn y blaen oherwydd i Gristnogion Cymry drwy hanes y mae’r athrawiaeth hon wedi bod o bwys canolog. Atebodd Meirion Lloyd-Davies Euros drwy ddweud nad oedd yn gwadu fod lle i ddyn gael ei ail-eni ond ei fod yn credu fod y “ffwndamentalwyr” yn anghywir i ddysgu mae dyna’r unig ffordd i mewn i’r ffydd Gristnogol. Unwaith roedd rhywun wedi defnyddio’r gair “ffwndamentalwyr” roedde chi’n gwybod wedyn y byddai’r drafodaeth yn mynd yn fler a Gwilym Owen yn dechrau mwynhau ei hun.
Yna dyma Guto Prys yn dod i fewn a rhoi Euros a Meirion yn eu lle mewn gwirionedd. Fe aeth Euros yn syth at hanes a diwinyddiaeth ac fe aeth Meirion yn syth ati i golbio safbwynt doedd e ddim yn cytuno a hi. Ond fe aeth Guto yn syth at yr hyn yr oedd Iesu ei hun yn dweud am ail-enedigaeth. Wrth i Iesu gyfarfod a Nicodemus yn Ioan 3 (John 3:1-8) y clyw ni sôn am yr ail-enedigaeth gyntaf. Eglurodd Guto mai ystyr yr ail-eni yma oedd dod i safbwynt gwahanol, gweld pethau o’r newydd a dod i ddeall pethau o’r newydd. Esboniodd fod hynny yn dechrau gyda edifeirwch sef cydnabod eich bod chi wedi bod yn cerdded i’r cyfeiriad anghywir heb Dduw ac fod angen i chi droi eich bywyd o gwmpas, rhoi eich ffydd yn Iesu a cherdded gydag ef ac nid oddi wrtho ef fel oeddech chi’n gynt.
Yn ei lythyr at yr Effesiaid yn yr ail bennod (Ephesians 2:1-10) mae Paul yn esbonio hyn yn fanwl ac yn ddigon clir i ni. Mae Paul yn cychwyn yn Adnod 1 drwy ddweud wrth yr Effesiad fod yna adeg pan oedden nhw’n farw yn eu gweithredoedd a’u pechodau. Rydym ni gyd yn bechaduriaid, ac os oes yna rhywun yma yn gwadu hynny yna dwi’n 100% siŵr y gall eich gwr, eich gwraig, cariad neu ffrind i chi ddod a digon o dystiolaeth yn eich erbyn! Mae Paul yn cloi y drydedd adnod drwy nodi fod ein holl lanast yn ein bywydau a’n byd yn ein gwneud ni’n ddigon cymwys i orwedd dan ddigofaint Duw.
Wedi’r cyfan – os fyddwn ni wrthi yn gwneud llun a bod y cyfan yn mynd yn fler fyddwn ni’n sgrynshio’r llun fyny a’i daflu i’r bin i gael dechrau eto. Os fyddw ni’n coginio cacen ac fod y gacen ddim yn codi fyddwn ni’n ei daflu i’r bin i gael dechrau eto. Os fydd artist pop yn sgwennu can sâl yna aiff e ddim pellach na’r stiwdio, gyrhaeddith e ddim mo’r CD yn y siopau. Pan fo pethau’n mynd yn flêr yr hyn sy’n naturiol i wneud ydy taflu’r cyfan i gael dechrau eto. Ac oherwydd ein llanast ni yn y byd yr oll ddylem ni ddisgwyl yw fod Duw yn taflu’r cyfan bant i gael dechrau eto. Dyna yw ystyr ‘digofaint’ Duw.
Ond thaid i ni ddarllen ymlaen oherwydd roedd gan Dduw plan b ar ein cyfer. Ffordd i ni osgoi ei ddigofaint er mwyn dod i ddeall a mwynhau ei gariad. Yn adnod 4 rydym ni’n darllen am gyfoeth trugaredd Duw a mawredd ei gariad tuag atom ni. Yn adnod 5 maen sôn ein bod ni’n farw yn ein ffyrdd ond yn fyw yng Nghrist. Fel mae’r teitl yn y Beibl Cymraeg Newydd yn dweud “O Farwolaeth i Fywyd” dyma’r ail-eni yr oedd gan Gwilym Owen y diddordeb mawr yn ei gylch.
Ac sut ydym ni wedi cael ein ail-eni? Wel trwy ras. Ystyr y gair gras yn y cyswllt yma yw rhodd sy’n gofyn dim byd yn ôl. Rhodd di-amodol i ni gan Dduw. Dyma gymal sy’n ein cynorthwyo i ddeall beth yw gras:
Does dim byd fedrwn ni wneud i Dduw ein caru ni fwy a does dim byd fedrwn ni wneud i Dduw ein caru ni lai.
Dyna beth yw gras yn ei hanfod.
Un o’r pethau ddywedodd Meirion Lloyd-Davies ar raglen Gwilym Owen oedd fod pobl oedd yn credu ac yn pwysleisio ail-enedigaeth yn edrych i lawr ar bobl eraill. Fel Cristion fe fedra i gydnabod fod tuedd anffodus ymysg rhai Cristnogion i fod yn hunangyfiawn. Ond eto yn adnodau 8 a 9 rydym ni’n dod i ddeall fod Meirion a’i debyg yn anghywir i ddweud fod credu mewn ail-eni yn eich gwneud, by default, yn hunangyfiawn. Oherwydd holl ddiben eich ail-eni yng Nghrist ydy eich bod chi’n gwadu’r hunan ac yn cydnabod eich bod chi’n llwyr ddibynnol ar ras a chariad Duw i’ch ail-eni chi. “Nid yw’n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio.” yw geiriau Paul yn adnod 9.
Fyddwn ni’n morio canu Clywch lu’r nef ymhen ychydig wythnosau. Dy ni’r Cymry yn rai sy’n mwynhau canu emynau heb ystyried ystyr y geiriau ac ‘dy ni’n waeth byth maen siŵr am forio canu’r hen garolau heb oedi i ystyried ystyr y geiriau. Gwrandewch ar bennill olaf Clywch lu’r nef:
Henffych, T’wysog heddwch yw;
henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
bywyd ddwg, a golau ddydd,
iechyd yn ei esgyll sydd.
Rhoes i lawr ogoniant nef;
fel na threngom ganwyd ef;
ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn!Clywch lu’r nef yn seinio’n un,
henffych eni Ceidwad dyn!
Dyna ni, dwi wedi gorffen holi, stilio, procio a phryfocio ynglŷn a’r chwestiwn mawr Gwilym Owen. Dyma beth yw ‘ail-eni’ Mr Owen. Diolch am ofyn.