Fis Medi yma bydd pum mlynedd wedi pasio ers i mi gychwyn yn y Weinidogaeth. Blwyddyn fel Bugail dan hyfforddiant ym Mhenuel Bangor, blwyddyn arall dan hyfforddiant yng Nghaersalem Caernarfon ac yna tair mlynedd yno wedyn fel Gweinidog.

markdriscollAr ddechrau fy nghyfnod yn y Weinidogaeth fe ddes i’n drwm dan ddylanwad arweinydd Cristnogol blaenllaw o Seattle, UDA sef Mark Driscoll, arweinydd eglwys Mars Hill. Am gyfnod bum yn tiwnio mewn i wrando a gwylio ar ei bregethau’n wythnosol, bu’m yn ceisio efelychu stêil a brandio ei eglwys lle y medrwn ac unwaith es i Lundain i gynhadledd lle roedd yn siarad a chael ei gyfarfod yn sydyn a chael sgwrs wyneb yn wyneb. Yn aml roeddwn hefyd yn defnyddio rhai o’i eglurebau a’i ddelweddau yn fy mhregethau fy hun.

Yr hyn am denodd at Mark Driscoll yn bennaf oedd yn gyntaf y “brand”. Yn llythrennol y brandio, o ran delwedd a gwaith dylunio a chyfryngau aml-gyfrwng yr ei eglwys. Ond yn ail, steil pregethu Mark Driscoll. Roedd yn uchel, yn brash ac yn defnyddio tipyn o hiwmor er mwyn cyfleu ei neges – popeth “er lles yr efengyl” roeddwn yn meddwl ar y pryd.

O’r cychwyn un roeddwn i’n ymwybodol fod ganddo wendidau, ond mae gan bawb eu gwendidau yn ‘toes? Y prif wendid cyntaf y gwelwn i oedd ei fod yn methu yn llwyr a gweld beth oedd Iesu a’r Beibl yn ei ddysgu am gyfiawnder cymdeithasol, diwylliant ayyb… yn y byd hwn. Ar faterion felly roedd yn gadael i ddiwylliant adain-dde Americanaidd lywio ei feddwl yn hytrach na gadael i Iesu a’r Beibl lywio ei feddwl.

Yr ail wendid oedd ei fod i bob pwrpas yn pregethu cam-wahaniaethu ar sail rhyw o’i bulpud. Yn swyddogol roedd yn dal y safbwynt ‘complimanterian‘, sef y syniad fod dynion a merched yn gyfartal gerbron Duw ond fod ganddyn nhw rôls gwahanol i’w chwarae yn y teulu, yn yr eglwys ac yn y byd. Mae gen i ffrindiau yn y ffydd sy’n dal y safbwynt hwnnw ac rwy’n ei deall ac yn ei pharchu os nad yn cytuno. Ond yn ymarferol roedd Driscoll yn mynd sawl cam ymhellach. Dan ei ddylanwad ef roedd llawer o ferched oedd ynghlwm a Mars Hill wedi mynd i gael eu trin yn israddol. Ar y pryd roeddwn yn “goddef” y gwendidau yma yn Driscoll a Mars Hill gan ddweud wrtha i fy hun fod modd eu ‘goddef’ er lles y ‘gwaith da’ roedd Driscoll yn ei wneud – wedi’r cyfan onid Mars Hill oedd yr eglwys oedd yn tyfu fwyaf yn America? Ac roedd eglwys yn tyfu wrth i bob ddod i adnabod Iesu?

Ond nawr, rwy’n gweld fod hynny mor mor anghywir. Rhaid pregethu’r efengyl yn ei chyflawnder a rhaid creu disgyblion ar lun a delw Crist ei hun nid ar lun a delw arweinwyr Eglwysig dylanwadol. Bore ‘ma wnes i ddarllen y darn yma gan Mike Anderson oedd yn ffigwr dylanwadol yn Mars Hill dros y blynyddoedd diwethaf. Bellach mae Mike wedi gadael Mars Hill ac yn ei ddarn mae’n rhannu ei brofiad ac yn cadarnhau rhai pethau roeddwn i wedi darllen rhwng y llinellau o bell. Mae’n ymddiheuro am ei rôl yn Mars Hill dros y blynyddoedd. A rhywsut dwi’n teimlo y dylwn i hefyd ymddiheuro am ddod a dylanwad Mars Hill (yn anuniongyrchol) i fy eglwysi ac i fy mhraidd i. Fel dywedodd David Charles: “Mae’n tynnu yma i lawr, Yn codi draw”.

Y wers bwysicaf yw fod angen bod yn ffyddlon i Iesu a’i Air ac osgoi y fads eglwysig diweddaraf o America. Hefyd, os oes eisiau dilyn “model eglwysig” o gwbwl yna tuag at yr Eglwys Fore yn y Testament Newydd mae edrych yn hytrach nag dros Fôr yr Iwerydd trwy brism gwefannau a blogiau llachar.

 

 

 

Please follow and like us: